Pleser oedd cael cyfrannu i raglen 'Prynhawn Da' ddarlledir ar S4C yn ddyddiol.
Rhoddwyd her i argymell gwinoedd addas ar gyfer Gŵyl Banc Awst, gyda'r gwinoedd i fod o dan £10.00 gan gynnwys gwin di-alcohol safonol.
Gwllir gweld mwy o'r eitem ar naill ai S4C Clic neu ar iPlayer y BBC unwaith bydd y rhaglen wedi ei darlledu.
Rhowch wybod os wnaethoch weld yr eitem ac os ydych wedi blasu'r gwinoedd argymhellwyd - byddai'n dda clywed eich barn am y gwinoedd!
Dylid nodi bod y prisiau gwinoedd yn gywor ar adeg cyhoeddi'r dudalen a'r darllediad. Efallai bydd y prisiau yn amrywio yn dilyn cynnigion arbennig.
Cliciwch ar luniau'r boteli am fwy o fanylion a dolen i wefan yr archfarchnad a'r manwerthwyr perthnasol.
Zeno - Gwin Di-Alcohol Coch - gwin di-alcohol sy'n wirioneddol greu argraff! 🌟 Mae'r ei liw rhuddem coch, bywiog yn cynnig profiad moethus heb yr alcohol, yn berffaith ar gyfer unrhyw achlysur.
Grawnwin – Cyfuniad Tempranillo a Cabernet o winllanoedd Zenoi yn ngaholbarth Sbaen. Wedi ei wneud yn union fel gwin gydag alcohol, ond wedi tynnu’r alcohol drwy brosesau i ddileu'r alcohol (vacuum distillation). Mae cwmni Zeno yn arloeswyr yn yn maes ac wedi ei cydnabod yn ryngwladol am safon ei gwinoedd ac am eu prosesau beiddgar i greu gwinoedd di-alcohol.
Bwriad y cwmni yw i sicrhau bod gwinoedd di-alcohol yn rhan ganolog o'r dewis am winoedd mewn archfarchnadoedd, bwytai a siopau ar draws y byd, a hynny heb golli ar y safon, ansawdd a'r blas. Mae coffi di-caff erbyn hyn wedi ennill ei le ar fwydlenni ar draws y byd, a'r dyhead yw cael gwinoedd di-alcohol i dderbyn yr un sylw.
👃 Arogl: Disgwylwch ffrwydrad o fwyar duon aeddfed, mafon, a cheirios suddlon, gyda awgrymiadau o sbeisys melys, fanila, ac ychydig o bupur gwyrdd. Mae'r arogleuon yn gymhleth ac yn ddeniadol, yn gwneud i chi eisiau plymio'n syth i mewn!
👅 Ar y daflod: Mae'r gwin hwn yn ymwneud â blasau ffrwythau - meddyliwch am fwyar duon, ceirios ac eirin cyfoethog. Mae'n gorff canolig gyda thannin melfedaidd a'r union faint o sbeis i gadw pethau'n ddiddorol. Mae'r nodau derw cynnil yn ychwanegu awgrym o felysrwydd fanila sy'n cydbwyso popeth yn brydferth. Ceir tannin ysgafn nodweddiadol o rawnwin Tempranillo, sef yr un grawnwin a ddefnyddir mewn gwinoedd o ardal Rioja yn Sbaen.
👌 Gwead a Gorffeniad: Llyfn a chadarn, gyda gorffeniad hir gyda nodiadau o ffrwythau, sbeis, ac ychydig o dderw. Ceior hefyd tanin ysgafn o fewn y gwin, sy'n nodweddiadol o rawnwin Tempranillo. Serch hyn, nid yw rhain yn amharu ar y blas a'r mwynhad, gan gyfuno yn berffaith gyda'r ffrwythau.
🍽 Parau Perffaith: Mae'r coch amlbwrpas hwn yn cyd-fynd yn wych gyda chigoedd wedi'u grilio, caserolau cynnes, prydau pasta cyfoethog, a hyd yn oed pwdinau siocled tywyll. Mae hefyd yn paru’n dda gyda chawsiau aeddfed fel cheddar a gouda.
🌡 Awgrymiadau Gweini: Am y profiad gorau, gweinwch ar 16-18°C ac ystyriwch ei oeri yn yr oergell am 30 munud i adael i'r blasau hyn wirioneddol ddisgleirio. Defnyddiwch wydr gwin coch mawr i werthfawrogi'r aroglus hyd yr eithaf.
Os ydych yn ymatal rhag alcohol neu'n chwilio am ddewis arall blasus, mae'n werth rhoi cynnig ar winoedd Zeno. Ceir hefyd fersiwn gwyn yn Waitrose am £9.99 y botel, sy'n defnyddio grawnwin Viura (sef yr un grawnwin a Cava) yn ogystal a gwin pefriog gan ddefnyddio grawnwin Macabeo. Mae'r pefriog yn Waitrose yn £11.99 y botel. Mae manwerthwyr eraill ar lein, megis www.drydrinker.com a www.amathusdrinks.com yn gwerthu fersiynau rhosliw llonydd a phefriog o'r gwinoedd yma hefyd. Dyma un o'r gwinoedd di-alcohol gorau ar y farchnad, sy'n adlewyrchu'r ffrwyth a'r blasau nodweddiadol o rawnwin, heb golli'r teimlad na'r blas a geir mewn gwin gydag alcohol, ac heb fod yn rhy felys.
🌟 Argraffiadau Cyntaf:
Dewch i gwrdd a'r gwin diweddaraf i ystod Tesco! Mae'r Tesco Finest Floreal 2023 yn win hynod adfywiol a phleserus, lansiwyd ar y 5ed o Awst 2024. Ceir lliw gwellt cain gydag awgrym o wyrdd sydd yn disgleirio yn y gwydr.
👃 Arogl:
Byddwch yn barod am daith beraroglus! Mae’r arogl yn eich taro gyda ffrwythau trofannol bywiog - meddyliwch am eirin gwlanog aeddfed, croen sitrws, ac awgrym o melon. Wrth i chi blymio’n ddyfnach, fe welwch nodiadau cynnil o ffrwythau megis 'passion fruit' a mango, gydag awgrym cain o flodau sy’n ychwanegu ychydig o osgeiddrwydd.
👅 Y Blas:
Yn gorff ysgafn ond yn llawn personoliaeth, mae’r gwin hwn yn darparu profiad adfywiol, pleserus. Mae’r nodiadau sitrws o lemwn a leim yn rhoi asgwrn cefn bywiog, tra bod blasau o binafal, eirin gwlanog, a 'lychee' yn ychwanegu blas cyflawn a chrwn i’r gwin. Mae hyd yn oed awgrym o afal gwyrdd a gellyg yn creu cydbwysedd perffaith rhnwg y blasau sur a melys. Yn llyfn ac yn hufennog, gallai’r gwin hwn yn hawdd gael ei gamgymryd am Chardonnay heb ei aeddfedu mewn derw.
✨ Diweddglo:
Mae’r diwedd yn lân ac yn parhau yn hir, gan adael eich taflod yn ffres gydag ychydig o sitrws a mwynolrwydd sawrus. Mae’n fath o win sy’n gwneud ichi eisiau cymryd diferyn arall…
🍽️ Paru Bwyd:
Mae’r gwin hwn yn cyd-fynd yn naturiol â phrydau ysgafnach. Parwch ef gyda salad Groegaidd ffres, sgiweri cyw iâr, neu hyd yn oed pubur wedi’u lenwi neu lysiau rhost. Mae hefyd yn gyfuniad delfrydol gyda burrata neu mozzarella hufennog.
🌍 Pam Byddwch chi’n ei Hoffi:
Nid yn unig y mae’r gwin hwn yn flasus, ond mae hefyd wedi’i gynhyrchu’n gynaliadwy, diolch i’r grawnwin Floreal arloesol – croesryw ac amrywiaeth sy’n medru osgoi clefydau ac sy’n eco-gyfeillgar. Does dim angen gymaint o bla-laddwyr a chemegion, ac mae’r defnydd o beiriannau wrth drin y grawnwin wedi ei lleihau bron i 80% mewn cymhariaeth â grawnwin eraill cyffredin o ganlyniad. Mae Tesco wedi cymryd cam beiddgar wrth ddod â’r gwin yma i’ch bwrdd, ac mae’n werth pob ceiniog (ac am £8, mae’n fargen – hyd yn oed yn well gyda’r cerdyn Clubcard am £7.00!).
🎉 Argraffiadau:
Mae’r Tesco Finest Floreal 2023 yn win gwyn disglair, ffrwythlon a llyfn sy’n berffaith ar gyfer diferyn achlysurol neu gyfuno gyda’ch hoff brydau hâf. Mae’n win cwbl newydd lawnsiwyd ar ddechrau’r mis ac yn gwbl newydd i’r farchnad. Dim ond yn Tesco y gwelir y gwin yma, ac os yn edrych am fath newydd o win a grawnwin cynaliadwy, mae’n werth ychwanegu’r botel hon i’ch basged. Iechyd da i yfed yn gynaliadwy!
Blwyddyn: 2023
Lliw: Oren
Rhanbarth/Gwlad: Valencia, Sbaen
Melysrwydd: Sych
Cau: Cap Sgriw
Alcohol: 12.00%
Grawnwin: 100% Verdil
Edrychiad: Yn y gwydr, mae'r Found Organic Verdil 2023 gan Marks & Spencer yn disgleirio gyda lliw oren-euraidd syfrdanol, sy'n dyst i'w amser o eplesu ar groen y grawnwin. Mae'n ddeniadol ac yn weledol gan ddechrau taith synhwyrus sy'n datgelu gem gudd grawnwin Verdil. Grawnwin cynhenid o ardal Valencia, ddefnyddir i gyfuno gyda grawnwin eraill yw Verdil. Yma mae’n cyfle i ddangos ei hun heb ei baru gynda mathau o rawnwin eraill.
Arogl: Ar y trwyn, mae arogleuon byw o groen oren a chroen lemwn yn cymysgu gydag awgrym hynod o cwins, gan baratoi'r llwyfan ar gyfer profiad blasu cymhleth, ond atyniadol. Wrth gymryd eich diferyn cyntaf, mae'r daflod yn cael ei chyfarch gyda symffoni sitrws, lle mae bywiogrwydd croen oren a lemwn yn cydblethu gydag is-donau melys cynnil o fricyll.
Blas: Mae gwead y gwin hwn yn nodweddiadol o’r math yma o rawnwin. Mae yma flasau cyfethog, melfedaidd hyfryd a phwysau corff canolig sy'n adfywiol a boddhaus. Mae pob diferyn yn datgelu haenau o flas, wedi'u clymu gan afael ffenolaidd ysgafn sy'n ychwanegu dyfnder ond heb effeithio ar nodau ffrwythus a chain y gwin.
Un o nodweddion mwyaf nodedig y Found Organic Verdil yw ei orffeniad sawrus gyda nodau ysgafn o fwynau/blas y môr. Mae'r naws hallt yma yn ychwanegu at fwynhad y gwin, gan ei wneud yn atyniadol ac yn bleserus gyda’r blasau mwynol. Mae'n orffeniad sy'n eich galw yn ôl am ddiferyn arall ac yn berffaith ar gyfer prynhawniau hamddenol yn yr heulwen.
Mae'r cydbwysedd yma'n rhyfeddol. Er gwaethaf ei lefel alcohol o 12%, mae'r gwin yn llawn personoliaeth a chymhlethdod. Mae'r asidedd wedi'i osod yn berffaith, gan ychwanegu elfen adfywiol a bywiog i’r gwin. Mae'r melysrwydd cynnil a'r gwead ffenolaidd yn cydbwyso'n berffaith, gan ddarparu profiad blasu crwn a chyflawn.
Argraffiadau: Mae M&S wedi darganfod gwin o ansawdd am bris rhesymol gyda'r gwin hwn. Mae'r Found Organic Verdil 2023 yn enghraifft wych o'r hyn y gall grawnwin Verdil ei gynnig, ac mae'n sefyll allan fel un o'r gwinoedd oren gorau rwyf wedi cael y pleser i'w flasu. Mae ei ymddangosiad ac arlliw oren, a'r cydbwysedd hyfryd o flasau yn ei wneud yn werth arbennig am arian, ac yn gyflwyniad da i arddull o win newydd a phoblogaidd ar gyfer yr hâf.
Edrychiad:
Yn y gwydr, mae'r Chinon hwn yn cyflwyno lliw rhuddem canolig gyda fioled cynnil ar yr ochrau, yn arddangos ei gymeriad ifanc a bywiog.
Arogl:
Mae'r arogl yn eich gwahodd gyda ffrwydrad o aroglau mafon a cheirios duon ffres, sy’n nodweddiadol o Cabernet Franc clasurol Ffrengig. Wrth i'r gwin agor i fyny, mae arogl glaswell a pherlysiau sych, gyda elfennau o pubur gwyrdd yn dod i'r amlwg, gan ychwanegu cymhlethdod a ffresni i’r gwin. Ceir hefyd elfennau mwynol megis graffit, sy'n nodweddiadol o winoedd o Ddyffryn y Loire, gan roi ymyl mwynol, cynnil iddo.
Blas:
Ar y daflod, mae'r gwin hwn yn dangos corff canolig gydag asidedd blasus a ffres sy'n cadw'r blasau ffrwythau yn fyw. Y blasau sy'n dominyddu yw mafon aeddfed, casîs o’r cwrens duon a cheirios duon, sy'n cyfuno’n berffaith a chytbwys gyda elfennau’r pubur gwyrdd a nodau priddoedd, mwynol nodweddiadol a geir mewn Cabernet Franc o Ddyffryn Loire. Mae gwead y gwin yn feddal, gyda tanninau aeddfed, ond cymedrol sy'n rhoi strwythur ysgafn heb orlethu'r daflod. Mae’r gorffeniad yn ganolig o ran hyd, gan adael argraff hirhoedlog o ffrwythau coch a mymryn o fwynoldeb.
Paru Bwyd:
Mae asidedd disglair a pherlysiau’r gwin hwn yn ei wneud yn gyfuniad perffaith gyda chyw iâr rhost, lle mae blasau sawrus y cig yn cael eu cydbwyso gan ffresni'r gwin. Mae hefyd yn cyfateb yn wych â phlât syml o gig a chaws, lle mae ei asidedd yn torri trwy gyfoeth y cig a’r caws, gan wneud cyfuniad cytbwys a phleserus. Er ei fod yn win coch, mae’n win coch ysgafn fydd yn gweddu’n dda gyda phob math o cigoedd rhost neu gigoedd neu lysiau rhost ar y barbeciw.
Argraffiadau:
Mae’r Morrisons ‘The Best’ Chinon yn enghraifft ragorol o Cabernet Franc o Ddyffryn Loire, gan gynnig gwerth ardderchog am yr arian. Mae'n win sy'n hygyrch ac yn gymhleth, gan ei wneud yn addas ar gyfer yfed achlysurol neu ei baru ag amrwyiaeth eang o fwydydd gwahanol. Yn ddelfrydol, ac i gael y gorau allan o’r gwin, dylid ei weini wedi ei oeri am ychydig cyn ei arllwys. Mae'n ddewis delfrydol i'r rheini sy'n gwerthfawrogi ochr fwy aromatig a pherlysiau gwin coch yn hytrach na gwinoedd trwm, llawn tannin. Mae’r gwinoedd ddaw o’r gyfres yma gan Morrisons yn cynnig cyfle i arbrofi a blasu gwinoedd gwbl newydd sydd hefyd o ansawdd uchel. Mae’n enghraifft wych o win hafaidd, ysgafn ac yn ddelfrydol i’w rannu ymysg teulu a ffrindiau.
©Hawlfraint Gwin a Mwy. Cedwir Pob Hawl.
We need your consent to load the translations
We use a third-party service to translate the website content that may collect data about your activity. Please review the details in the privacy policy and accept the service to view the translations.