Gyda'r Nadolig yn prysur agosau, yma yn Gwin a Mwy, rydym am gynnig ychydig o syniadau am anrhegion gyda thema gwin. Mae dolenni i'r argymhellion wrth glicio'r lluniau isod
Cyfrol ddeniadol yn llawn ryseitiau o fwyty ‘Dylanwad Da’ fu'n llwyddiannus iawn am 25 mlynedd. Mae'n lyer sydd hefyd yn cynnwys gwybodaeth a ffeithiau diddorol am am win. Mae yma lun lliw i bob rysáit, yn ogystal ag awgrymiadau am winoedd i gyd-fynd â’r bwyd. Ceir hefyd hanes teithiau Dylan yn ymweld â gwinllannoedd ledled Ewrop.
Agorwr boteli gwin eiconig gan gwmni Le Creuset. Mae'n enghraifft wych o wneuthuriad cadarn ddefnyddir gan infer o sommeliers ar draws y byd. Daw mewn amrywiol liwiau ac mean blwch deniadol iawn ar gyfer yr hosan nadolig
Wedi ei gynllunio gan y Cymro Tom Cotton, mae'r decanter yma yn mediru cadw gwin am gyfnodau hirach nag mewn potel cyffredin. Trwy leihau'r arwyneb gydag aer, mae'r gwin yn cadw am gyfnodau llawer hirach ac heb wastraffu diferyn! Er yn ddrud, mae'n effeithiol ac yn dod mewn amrywiol arddulliau. Yn chwarae ar eiriau, mae hwn yn anrheg gyda steil fydd yn gartrefol ar unrhyw fwrdd bwyd dros y Nadolig. Cynigion arbennig ar wefan 'eto' ar hyn o bryd!
Gwelir mwy o fanylion yma: https://www.etowine.com/pages/about
Dyma yn wir yw'r beibl i unrhyw un sydd yn ymddiddori mewn gwin. Nawr ar ei bumed argraffiad, mae'n gyfrol swmpus, manwl ac yn cynnig esboniadau am ardaloedd tyfu gwin y byd, gwinoedd o bob lliw yn ogystal a phob math o rawnwin a phrosesau cynhyrchu gwin. Yn gyfrol medrir troi ati dro ar ol tro, mae'n sicr yn gyfrol i'w hystyried gan unrhyw win-garwr ac yn anrheg perffaith i ddysgu mwy am win.
Os am anrheg gwahanol, medrir mabwysiadu gwinwydd ar winllan Chapel Down yng Nghaint. Yn eistedd ar briddoedd tebyg i'r hyn geir yn ardal Champagne, mae hwn yn win o'r safon uchaf gynhyrchir ym Mhrydain. Does dim angen gofalu am y gwinwydd, gan bod y tim yn Chapel Down yn gwneud hyn ar eich rhan, ond medrir cynaeafu'r grawnin a gwneud eich gwin each hun, gyda labeli unigryw. Mae'n anrheg perffaith i win-garwr sydd am yfed gwin unigryw ond heb y gwaith a'r gost o ofalu a chynhyrchu'r gwin.
System cadw gwin sy'n eich galluogi i arllwys gwin o botel heb dynnu'r corcyn yw Coravin. Mae hyn yn golygu y gallwch fwynhau gwydraid sengl o win heb boeni am weddill y botel yn mynd yn ddrwg. Mae'r system yn defnyddio nodwydd denau i dyllu'r corc a chwistrellu nwy argon i'r botel. Mae'r nwy argon yn gwthio'r gwin allan o'r botel, a phan fydd y nodwydd yn cael ei dynnu, mae'r corc yn ail-selio ei hun, gan amddiffyn y gwin sy'n weddill rhag ocsideiddio.
Mae systemau Coravin ar gael mewn amrywiaeth o bwyntiau pris, o tua £99 - £379.Buddsoddiad yw hwn y modd cedwir gwin a hynny heb orfod gwastraffu gweddill y botel. Mae'n cynnig cycle i arbrofi gyda gwinoedd gwahanol heb orfod poeni am agor nifer o botel ac arbed grin rhag ocsideiddio a'i ddifetha. Er yn anrheg sy'n derud, mae'n fuddsoddiad gwerth chweil am yr hir dymor with yfed gwinoedd o ansawdd a'i cadw am gyfnod hwy nag ychydig ddyddiau.
Mae gostyngiad o 50% ar nier o'r systemwu yma ar hyn o bryd, sy'n gwneud hwn yn anrheg i'w ystyried i unrhyw win-garwr!
Dyma eglurhad Saesneg ar sut mae'r system yma yn gweithio: https://www.coravin.co.uk/about/how-does-coravin-work
Mae'r awyrydd gwin hwn wedi'i greu mewn siap trapesoid gwrthdro sy'n caniatau ei osod yn hawdd i boteli gwin o wahanol faint. Mae'n fordd syml a chyfleus i ychwanegu aer i win wrth ei dywallt.
Mae'r dyluniad hefyd yn osgoi unrhyw ddiferion rhag cael ei colli, ac yn anhreg hosan delfrydol i unrhyw un sy'n mwynhau ac yn ymddiddori mewn gwin, yn enwedig am y pris yma!
Drwy gydol y llyfr hwn, mae’r awdur bwyd a cholofnydd gwin papur y Guardian, Fiona Beckett, mae'n ymhelaethu ar y syniad bod coginio gyda gwin yn ffordd hawdd o wneud prydau bwyd yn arbennig. Mae'r gyfrol yma yn llawn syniadau am rysetiau sydd yn cynnwys gwin neu'n defnyddio gwin i ychwanegu blas at ryseitiau traddodiadol, yn ogystal ag argymhellion am win i'w weini gyda'r prydau bryd yma. Er nad yw'n tu hwnt o heriol o ran y ryseitiau, mae'r ryseitiau yn thai carterfol, yn hwylus ac yn cyplysu dau beth rydym yn ei hoffii yma yn gwin a mwy...bwyd a gwin!
©Hawlfraint Gwin a Mwy. Cedwir Pob Hawl.
We need your consent to load the translations
We use a third-party service to translate the website content that may collect data about your activity. Please review the details in the privacy policy and accept the service to view the translations.