Diwrnod Rhyngwladol Y Merched 2025 - Bore Cothi, BBC Radio Cymru
Ar yr 8fed o Fawrth, mi fydd y byd yn dathlu diwrnod Rhyngwladol y Merched. Wrth i'r byd godi gwydraid i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched, mae'r diwydiant gwin yn hefyd yn cymryd amser i adlewyrchu ar ei daith ei hun. O'r hen winllannoedd Ffrengig a oedd yn cael eu rheoli gan fynachod i'r gwindai modern yn Awstralia a De America, mae'r diwydiant gwin wedi bod yn ddiwydiant traddodiadol wrywaidd am ganrifoedd.
Ond mae newid yn digwydd, a hwnnw yn newid dwfn a pharhaol. Bellach, mae merched ar draws y byd yn arloesi ac yn arwain o fewn y diwydiant, gan fod merched yn herio'r confensiynau, ac yn ail-lunio'r farn am rol y ferch o fewn y diwydiant.
Fel rhan o’r eitem ar BBC Radio Cymru gyda Shan Cothi, nodwyd y datblygiad, yr heriau a’r arloesedd ddangoswyd gan ferched amlwg megis Madam Lily Bollinger, Jancis Robinson, Susie Barrie, Susana Balbo a Laura Catena yn benodol. Yn ogystal, mae nifer o ferched o fewn y diwydiant yng Nghymru sydd yn raddol gynyddu mewn dylanwad a hynny ar lefel Brydeinig - Gwen Davies a Nicola Merchant er engraifft.
Yn y gorffennol, roedd merched yn aml yn cael eu cyfyngu i rolau yn y cefnir neu waith gweinyddol yn unig o fewn y diwydiant. Roeddent yn gweithio yn y gwinllannoedd, yn labelu poteli, neu'n rhedeg gwinllannoedd teuluol, ond roedd y penderfyniadau mawr, hynny yw, cynhyrchu’r gwin a'r gydnabyddiaeth gyhoeddus am y gwinoedd yn cael eu cadw ar gyfer dynion. Braf yw medru dweud bod yr amseroedd yma wedi newid. Mae merched yn awr yn ysgolheigion gwin, yn feirniaid, yn sommelieriaid, ac yn feistri gwin blaenllaw ac arloesol. Mae merched bellach yn arwain gwindai o fri, yn creu gwinoedd sy'n ennill gwobrau a chydnabyddiaeth ryngwladol ac yn dylanwadu ar dueddiadau'r diwydiant.
Fel soniwyd ar yr eitem gyda Shan Cothi, un o'r enwogion benywaidd o fewn y diwydiant gwin oedd Madam Lily Bollinger. Mi wnaeth arwain cwmni Bollinger yn dilyn marwolaeth ei gwr yn yr Ail Ryfel Byd, a hynny ar adeg pan y bu i nifer ei gwawdio a'i dirmygu fel dynes yn rhedeg un o brif dai Siampen Ffrainc. Mae ei dyfyniad enwog am Siampen yn hynod briodol wrth ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched: "Rwy'n ei yfed pan yn hapus ac hefyd pan yn drist".
Mae nifer y Meistri Gwin benywaidd yn cynyddu'n gyson, gan brofi eu gallu a'u harbenigedd. Mae'r cymhwyster Meistr Gwin (Master of Wine neu MW) yn un o'r cymhwysterau mwyaf heriol yn y byd gwin, ac mae'r ffaith bod merched yn llwyddo ynddi yn dangos eu penderfyniad a'u gwybodaeth. Mae enwau fel Jancis Robinson MW, gyda'i gwybodaeth encyclopedig a'i beirniadaeth ddylanwadol, ac Isabelle Legeron MW, gyda'i harbenigedd mewn gwin naturiol, yn enghreifftiau disglair o'r arbenigedd benywaidd.
Yn fwy na hynny, mae merched yn dod â phersbectif newydd i'r diwydiant. Maent yn canolbwyntio ar gynaliadwyedd, arloesedd, a chydweithrediad. Maent yn herio'r syniadau traddodiadol am wneud gwin ac yn arbrofi gyda thechnegau newydd a mathau o rawnwin. Mae eu gweledigaeth yn creu gwinoedd sy'n adlewyrchu'r tiroedd, y tywydd, a'r diwylliant lleol.
Gadwech i ni felly ystyried cyfraniad y merched sydd wedi rhagori a dod i'r brig o fewn y diwydiant, gydag eglurhad am ddylanwad a rol yr unigolion yma wrth arloesi a chwyldroi'r rhagfarnau yn ei herbyn:
Yn cael ei glw'n "Brenhines Torrontés" o'r Ariannin, mae Susana Balbo wedi chwyldroi cynhyrchu gwin yn ei gwlad. Mae ei gwybodaeth am rawnwin Torrontés a Malbec yn ddigymar, ac mae ei gwinoedd yn cael eu dathlu ledled y byd. Susana yw person y Flwyddyn yn Oriel Anfarwolion Cychgrawn Decanter am eleni, felly ma'n haeddu ei lle fel un o'r prif gynhyrchwyr ac un o'r merched mwyaf blaenllaw o fewn y diwydiant.
Mae Jancis Robinson yn feirniad gwin, yn newyddiadurwr, ac yn awdures gwin rhyngwladol. Mae ei gwefan, JancisRobinson.com, yn ffynhonnell hanfodol i selogion gwin ledled y byd. Mae ei gwybodaeth encyclopedig a'i beirniadaeth ddylanwadol wedi ei gwneud yn un o'r lleisiau mwyaf uchel ei pharch yn y diwydiant gwin. Yn arloweswraig fel newyddiadurwraig, mae ei barn yn cael ei barchu ledled y byd erbyn hyn,
Mae Susie Barrie yn gyflwynydd teledu, yn newyddiadurwr, ac yn Feistr Gwin. Mae hi'n adnabyddus am ei gwaith ar raglenni teledu gwin poblogaidd ac am ei gallu i gyfathrebu gwybodaeth am win mewn ffordd ddealladwy a deniadol. Gyda’i gwr, Peter Richards MW a’i harbenigedd ddigamsyniol am winoedd o Chile a De America, ma’r cwpwl yma ymysg y rhai mwyaf pwerus a dylanwadol o fewn y diwydiant.
Amanda Barnes yw'r Meistr Gwin benywaidd mwyaf diweddar. Mae hi'n arbenigo mewn gwinoedd o Dde America ac mae'n awdur, yn newyddiadurwr, ac yn ymgynghorydd gwin. Mae ei gwybodaeth am winoedd De America yn helaeth, ac mae hi'n llais pwysig wrth hyrwyddo gwinoedd o'r rhanbarth hwn. Yn awdur y canllaw gorau ar winoedd o Dde America, mae hefyd yn golofnydd gyda Decanter a chylchgronnau eraill dylanwadol, ac yn un fydd yn sicr yn arwain y gad o ran adolygu gwin i’r dyfodol.
Mae ei gwybodaeth o Sbaen a'i gwin yn ddigyffelyb, ac mae ei hysgrifennu yn swyno ac yn addysgu. Mae'n llais pwysig iawn yn y byd gwin, gyda’i gwybodaeth am ranbarthau, amrwyiaethau gwin a photeli o bob math o Sbaen yn gwbl unigryw.
Gan ysggi'r twf diweddar mewn merched ym myd gwin yn Sbaen, mae'n arwain y gad o ran sicrhau statws a sfale'r ferch o fewn y diwydiant mewn gwlad sydd yn gynyddol codi proffil y ferch o fewn y gwindai a'r cynhyrchu ar draws y wlad.
Mae Laura Catena yn ffigwr amlwg yn y byd gwin, yn enwedig yn yr Ariannin. Fel rheolwr gyfarwyddwr Bodega Catena Zapata, mae hi wedi chwarae rhan hanfodol yn codi statws Malbec Ariannin ar y llwyfan rhyngwladol. Mae ei hymchwil ar uchelderau gwinllannoedd a'r effaith ar rawnwin wedi bod yn arloesol, gan arwain at winoedd o ansawdd eithriadol. Mae ei dylanwad yn ymestyn y tu hwnt i'w gwindy, gan ei bod yn llais pwysig wrth hyrwyddo gwin Ariannin a'i botensial unigryw. Mae ei gwaith yn dangos sut mae gwybodaeth wyddonol ac arbenigedd traddodiadol yn gallu creu gwinoedd o'r radd flaenaf.
Yn ystod rhaglen Bore Cothi gyda Shan Cothi, rhoddwyd ambell argymhelliad am winoedd o ansawdd a gynhyrchir gan ferched. Dyma ychydig mwy am y gwinoedd hynny:
Mae'r Malbec hwn yn adlewyrchu arbenigedd Susana Balbo. Mae'n llawn ffrwythau duon gyda strwythur cadarn a thaninau llyfn, sidanaidd ei gwead. Mae'r gwin hwn yn dangos dyfnder a chymhlethdod Malbec o'r Ariannin. Mae'n berffaith gyda stêc wedi'i grilio, cig oen rhost, neu hyd yn oed sawsiau pasta cyfoethog. Mae'r taninau llyfn yn ei wneud yn hawdd yfed ar ei ben ei hun, ond mae'r strwythur cadarn yn golygu y bydd yn heneiddio'n hyfryd am sawl blwyddyn.
Mae’n cynnig gwerth gwirioneddol am arian, ac er yn £14, mae’n cyfleu 'Yfed Llai ond Yfed Gwell' yn berffaith.
Mae Sara Juan wedi creu Tempranillo hynod o bleserus sy’n llawn blasau nodweddiadol offrwythau cochion. Mae'r cydbwysedd rhwng ffrwythau a thaninau yn rhagorol, gyda asidedd cadarn ond cytbwys. Mae'n Ribera Del Duero cyffrous a modern. Mae'r gwin hwn yn llawn blasau o geirios coch, mafon, a sbeis o’r broses aeddfedu. Mae'r taninau yn gadarn, ond nid yn ormesol, ac mae'r asidedd yn cadw'r gwin yn ffres ac yn fywiog. Mae'n berffaith gyda chigoedd wedi'u grilio, tapas Sbaenaidd, neu gawsiau caled. I’r rhai sy’n hoffi gwionedd coch o Rioja, mae hwn yn ddewis amgen gwych a gwahanol.
Mae Mafalda Magalhaes wedi creu Vinho Verde sy'n wirioneddol adfywiol ac yn adlewyrchu'r tiroedd unigryw o Quinta do Ameal. Mae'r enw, "Bico Amarelo," sy'n golygu "pig melyn," yn cyfeirio at y mwyalch sy'n llenwi'r gwinllannoedd â'u cân, gan greu awyrgylch bywiog a naturiol. Mae'r gwin hwn yn dangos purdeb a ffresni Vinho Verde o'r radd flaenaf.
Ar yr arogl, mae'r gwin yn llawn nodiadau o ffrwythau sitrws fel lemwn a chalch, ynghyd â awgrymiadau o ffrwythau trofannol fel pîn-afal a mango. Mae awgrym o flodau gwyn hefyd, sy'n ychwanegu at ei gymhlethdod a’i haenau o flasau.
Ar y daflod, mae'r gwin yn sych ac yn hynod o adfywiol. Mae'r asidedd uchel yn cadw'r gwin yn ffres ac yn fywiog, gan wneud iddo deimlo'n ysgafn ac yn hawdd i'w yfed. Mae blasau'r ffrwythau sitrws a'r ffrwythau trofannol yn parhau ar y daflod, ynghyd â awgrym o fwynedd sy'n ychwanegu dyfnder. Mae'r gorffeniad yn hir ac yn bleserus, gyda nodiadau o sitrws a mwynedd yn parhau ar y daflod.
Mae'r Vinho Verde hwn yn berffaith fel aperitif, neu gyda bwyd môr, saladau, neu brydau ysgafn. Mae'r asidedd uchel yn ei gwneud yn bartner gwych i fwydydd cyfoethog. Mae'n enghraifft wych o'r hyn y mae Vinho Verde yn ei gynnig, yn enwedig oes yw wedi ei aeddfedu am ychydig o fisoedd fel yr un yma.
Mae'r Chardonnay hwn gynhyrchir gan Debbie Lauritz yn enghraifft o'r arddull ysgafnach a ddaw o ranbarth oerach o Awstralia. Mae'n gyfoethog, gyda nodiadau o lemwn, eirin gwlanog, menyn, fanila a hufen nodweddiadol o Chardonnay.
Mae'n Chardonnay cymhleth a gosgeiddig, yn berffaith gyda physgod neu gyw iâr. Mae'r arddull ysgafnach yn apelio at y rhai sy'n gwerthfawrogi Chardonnay heb ormod o dderw. Mae'r gwin hwn yn dangos cydbwysedd rhagorol rhwng ffrwythau, asidedd, a derw o’r broses aeddfedu.Yn arddull gwbl gwahanol i’r Chardonnay’s o’r nawdegau a throad y ganrif, mae’n dangos fel mae’r cynhyrchwyr wedi lleihau ar ddylanwad derw o fewn Chardonnay i gyd-fynd gyda dyheadau pobl.
Byddai ffans Bridget jones yn hoff iawn o'r ddiod yma, gan ei fod yn un o hoff winoedd y cymeriad unigryw yma a welir yn y sinema ar hyn o bryd. Mae'n dipyn llai pwerus o ran y derw nag yr oedd adge ffilm gyntaf Bridget, ac yn dangos bod Chardonnay yn cael adfwyiad ar ddechrau 2025!
©Hawlfraint Gwin a Mwy. Cedwir Pob Hawl.
We need your consent to load the translations
We use a third-party service to translate the website content that may collect data about your activity. Please review the details in the privacy policy and accept the service to view the translations.