Gwin Mewn Caniau: Cynaladwyedd, Ansawdd Uchel a Dewis Poblogaidd!
Mae'r "psst" cynnil o agor can wedi bod yn gysylltiedig â chaniau lager ers amser maith, ond mae'r sain hwn bellach yn rhywbeth a amlygir mewn gwin hefyd. Mae ton gyffrous o winoedd mewn caniau yn gwneud ei farc ar y stryd fawr ac yn ein harchfarchnadoedd, gyda cwmniau fel Waitrose bellach yn trosglwyddo llawer o'u cynigion potelau bach i duniau alwmniwm. Mae'r duedd hon yn cael ei yrru'n bennaf gan gwmnïau Newydd, ifanc, sy'n manteisio ar yr estheteg fywiog, drawiadol a’r gwaith celf unigrwy a arloeswyd gan y symundiad a’r hyn a wneir gyda chwrw crefft.
Mae gwin mewn can yn cael ei ddosbarthu'n berffaith ar gyfer picnics haf, barbeciws, teithiau trên hir, a'r nosweithiau hynny pan rydych chi'n chwennych un gwydraid hael. Er nad yw'r cysyniad o win mewn can yn newydd —ysgrifennodd yr arbenigwr gwin Hugh Johnson erthygl am y broses a’r ‘trend’ Newydd ar y pryd o roi gwin mewn caniau dros 40 mlynedd yn ôl — mae ansawdd a safon y gwin mewn caniau erbyn hyn wedi gwella'n sylweddol. Mae gan y prif archfarchnadoedd ddetholiad trawiadol erbyn hyn, megis gwinoiedd poblogaidd gan gwmniau fel y ‘Most Wanted’ yn Tesco a ‘When in Rome’ yn Sainsbury’s.
Mae cwmniau eraill, fel The Canned Wine Company a werthir gan Ocado, ac mewn amrywiol leoliadau ar draws Cymru megis y Theatr Newydd yng Nghaerdydd, Arena Abertawe a chaffis a bwytai’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi cynyddu mwn poblogrwydd.
Mae cwmni The Uncommon hefyd yn cynhyrchu gwinoedd pefriog gwyn a rhosliw o winwydd a dyfir yn ne Lloegr. Efallai mai dyma yw un o’r meysydd i'w datblygu gan gwinllanoedd o Gymru. Mae nifer yn cynhyrchu seidr mewn caniau, ond beth am droi o’r botel wydr draddodiadol i ganiau hawdd i’w cyrchu a llai o faint?
Nid yw'r chwyldro gwin mewn can yn gyfyngedig i frandiau'r farchnad dorfol yn unig. Er enghraifft,dwi wedi blasu gwinoedd gan Djuce, cwmni o Sweden sy'n cynhyrchu gwin cain mewn tuniau, ac roeddwn wedi fy mhlesio'n fawr gan eu cynigion, yn ogystal a bod yn hygyrch.
Un pryder cyffredin am win mewn can yw a all y can alwminiwm rhoi unrhyw flas ar y gwin? Does dim angen poeni am hyn gan fod gorchudd plastig microsgopig y tu mewn I’r can sy’n atal unrhyw flas metelig ar y gwin a’r cynnwys. Fodd bynnag, mae'n hanfodol cynnal cydbwysedd gofalus rhwng yr alcohol, sylffwr, ac asidedd i sicrhau uniondeb y gwinoedd yma mewn can. Gall camgymeriad yn yr elfennau hyn arwain at win sydd â blas drwg neu ddifetha mwynhad wrth ei yfed. Yn ogystal, mae gan win mewn can bywyd silff dipyn byrrach o gymharu â'i gefndryd mewn poteli gwydr, gan fod yn iawn i’w yfed am hyd at tua 18 mis, sy’n tipyn llai nag win mewn potel.
Er gwaethaf presenoldeb rhai cynhyrchion o ansawdd isel, mae gwin mewn can yn cynnig cyfleustra a chynaliadwyedd oherwydd ei ailgylchadwyedd.
Yn ogystal, mae gwin mewn caniau yn oeri yn dipyn cynt, yn cynnig cyfle i yfed llai ond yfed gwin safonol a hynny heb orfod yfed potel gyfan.
Mae’r dewis o winoedd mewn caniau yn tyfu a thyfu, gan ei wneud yn un o’r meysydd mwyaf ffyniainus o fewn y diwydiant diodydd alcoholig yn y blynyddoedd diwethaf. Gyda gwell safon, daw mwynhad dipyn gwell a mwy o ddewis o winoedd o ansawdd.
Ffeithiau Diddorol Am Win Mewn Caniau:
Achosion Hanesyddol: Mae'r cysyniad o win mewn caniau yn dyddio'n ôl o leiaf i ganol yr 20fed ganrif, ond roedd cynhyrchwyr gwin yn ei chael hi'n anodd ennill poblogrwydd y dull yma o werthu gwin oherwydd pryderon am ansawdd a blas.
Serch hyn, gyda poblogrwydd diodydd mewn caniau ymysg y genedlaeth iau, daeth tro ar fyd i gynhyrchu a phecynnu gwin mewn caniau.
Dyma ychydiog ffeithiau diddorol am win mewn caniau:
I grynhoi, er y gallai sŵn agor caniau greu delweddau o gefnogwyr pel droed yn yfed cwrw, mae'r farchnad gwin mewn can yn farchnad sy'n tyfu'n aruthrol. Gyda'r poblogrwydd yma, efallai bod hwn yn gyfle i ni ail-feddwl am y cysylltiad clywedol o agor can o fod yn gan cwrw i un gwin.
Gyda gwell ansawdd a chyfleustra diymwad, mae gwin mewn can yn dod yn ddewis ffasiynol ac ymarferol i'r sawl sy'n mwynhau gwin, ac sydd am gadw llygad ar yr ochr werdd o fwynhau gwydraid o win.
Gan ystyried poblogrwydd gwin mewn caniau, ap fathau a pha gwmniau sydd yn flaenllaw yn y maes a pha winoedd byddem yn ei argymell i'w blasu?
Byddwn yn datblygu ac yn ychwanegu at y rhestr yma yn fuan, gyda nodiadau blasu, ond dyma rai o'n hoff winoedd mewn caniau sydd ar y farchnad ar hyn o bryd:
©Hawlfraint Gwin a Mwy. Cedwir Pob Hawl.
We need your consent to load the translations
We use a third-party service to translate the website content that may collect data about your activity. Please review the details in the privacy policy and accept the service to view the translations.