Gwinoedd Di-Alcohol - Coch, Gwyn, Rhosliw a Phefriog

Gyda dyfodiad blwyddyn arall, maer nifer ohonoch yn siŵr wedi gwneud (a thorri!) addunedau blwyddyn newydd. Un o’r prif addunedau yw naill ai lleihau ar maint yr alcohol rydym yn ei yfed neu efallai peidio yfed alcohol yn ystod mis Ionawr – y ‘Dry January’ ddilynir gan nifer o bobl.  Yn gymaint felly, canfu ymchwil gan Alcohol Change UK fod bron i naw miliwn o bobl yn y DU yn bwriadu rhoi’r gorau i yfed ym mis Ionawr 2023, bron i filiwn yn fwy na’r flwyddyn flaenorol. 

Yn ffodus, os ydych chi’n yfed llai neu’n chwilio am opsiynau 0% o alcohol, nid oes angen i chi estyn am ddiodydd diflas neu ddiodydd llawn siwgr mwyach gan fod amrywiaeth enfawr o winoedd di-alcohol a diodydd eraill ar y farchnad erbyn hyn.

Mae’r rhain yn arbennig o dda i unrhyw un sy’n ei chael hi’n anodd torri o’r drefn o arllwys diod neu’r rhai sy’n dal i fod eisiau teimlo eu bod yn ymbleseru, heb fentro pen tost y diwrnod wedyn. Er bod cwrw heb alcohol wedi bod yn fusnes mawr ers tro, mae gwin wedi cymryd mwy o amser i ddal i fyny gyda’r bragdai cwrw. Yn draddodiadol bu'n anodd ailadrodd cymhlethdodau, blasau a theimlad ceg gwin heb yr alcohol. 

Fel arfer cynhyrchir gwinoedd di-alcohol trwy adael yr alcohol allan yn gyfan gwbl, neu trwy gael gwared ar yr alcohol yn y cam olaf wrth eplesu’r gwin er mwyn sicrhau blas gwin cyffredin. Erbyn hyn, mae technolegau'n gwella'n gyson i wneud i gwin di-alcohol flasu yn debycach i'r peth go iawn, ac mae’r gwahaniaeth rhwng gwinoedd di-alcohol a gwinoedd arferol yn hynod o agos i’w gilydd.  

Mae'r rhan fwyaf o winoedd di-alcohol yn felysach na gwinoedd arferol felly'r rhai sy'n dynwared gwinoedd melysach - megis prosecco neu riesling - yw'r dewis gorau wrth chwilio am ddewis arall. Mae diodydd gyda swigod hefyd yn cynnig teimlad ceg tebyg i'r peth go iawn, felly mae gwinoedd pefriog di-alcohol fel arfer yn gyfnewidiad llawer mwy boddhaol na glynu wrth win llonydd yn ein barn ni. 

Un peth i’w gofio, yw bod canllawiau Llywodraeth y DU yn nodi y gall diodydd di-alcohol gynnwys hyd at 0.05% o alcohol, tra na ddylai diodydd dad-alcohol (de-alcoholised) sydd wedi cael gwared ar yr alcohol fod yn fwy na 0.5 y cant, felly mae rhai o’r esiamplau yma dal yn anaddas ar gyfer unrhyw un sydd am osgoi alcohol yn llwyr.

Mae nifer am ymwrthod ag alcohol ar ddechrau blwyddyn, ond a oes diodydd o safon ar gael sydd yn is neu heb alcohol? 

 

Mae archfarchnad Waitrose gyda'r archfarchnad cyntaf sydd wedi neilltuo lle penodol i ddiodydd di-alcohol ac isel men alcohol o fern eu canghennau. (Llun gan Waitrose)

Sut wnaethom flasu'r gwinoedd yma? 

Ar gyfer blasu’r gwinoedd yma, mi wnaethom brofi’r holl winoedd hyn yn union fel y byddem ni’n eu gwneud gyda gwinoedd sy’n cynnwys alcohol, gan chwyrlïo a blasu’r gwinoedd i wneud y gorau o flasau ac arogl pob gwin. Ar gyfer pob un, mi wnaethom ystyried blas, arogl ac ymddangosiad y gwin a graddio pa mor debyg ydoedd i win arferol, a pha mor fodlon y byddem yn mwynhau gwydraid ar ôl diwrnod hir neu ar noson allan ymysg ffrindiau a theulu.

Gwin Rhosliw di Alcohol Pefriog Belle & Co - www.amazon.co.uk - £3.50

Pe byddech gyda gorchudd dros eich llygaid, byddai’n hawdd credu mai'r gwin rhosliw pefriog hwn gan Belle & Co. oedd y gwin pefriog gydag alcohol. Yn dangos lliw pinc-dwfn deniadol, mae'n edrych yn ddeniadol yn y gwydr, gydag arogl ffrwythau coch, taflod o wead rhyfeddol ac awgrym o fafon o fewn y blasau cytbwys yma. 

Mae wedi'i wneud â sudd grawnwin pefriog wedi'i eplesu a the gwyrdd, gan roi naws adfywiol iddo sy'n llawn blasau ffrwythau coch megis mafon a mefys, sy’n nodweddiadol o win rhosliw pefriog fel yma. Mae’r te gwyrdd ddefnyddir hefyd yn torri drwy'r melyster ac yn ychwanegu cymhlethdod i’r gwin,  

Gan gynnwys dim ond siwgr sy'n naturiol o fewn y grawnwin, mae'n bleser pur yfed y gwin yma ac yn bendant ni fyddem yn teimlo ein bod yn colli allan os oes eraill yn yfed diodydd gydag alcohol. Mae’r pris hefyd yn hynod o gystadleuol ac yn enghraifft dda i’w hystyried ar gyfer dathliadau neu ddigwyddiadau, yn enwedig yn ystod misoedd yr hâf yn ein barn ni.  

Hardys Zero Chardonnay - Tesco - £4.00

Mae’n wych gweld gwneuthurwyr gwin masnachol ac uchel eu parch yn troi eu llaw at fersiynau di-alcohol o’i gwinoedd ac yn ceisio atgynhyrchu’r blasau a’r dyfnder o’u gwinoedd arferol. Hardys yw un o gynhyrchwyr gwin mwyaf Awstralia ac mae'n adnabyddus am gynhyrchu gwin chardonnay persawrus, felly nid yw'n syndod bod hwn yn eilydd da i’w gwin arferol.

Wedi'i wneud gyda'r un grawnwin o ansawdd uchel a ddefnyddir ar draws yr amrywiaeth o winoedd gynhyrchir gan Hardys, mae gan y chardonnay sero y cant hwn liw melyn bywiog a nodau llyfn o flasau derw. Mae'n llawn o flasau trofannol, gan gynnwys pîn-afal ac eirin gwlanog, ac er ei fod yn gyffyrddiad melysach na'r fersiwn arferol sy’n cynnwys alcohol, byddai'n bendant yn bodloni chwant unrhyw un sy’n mwynhau Chardonnay ac am hepgor yr alcohol. 

O’r gwinoedd a flaswyd ar gyfer yr argymhellion yma, dyma oedd y gwin mwyaf pwerus, llawn blas o’r holl winoedd a flaswyd. Byddai'n well gennym ei baru â bwyd na'i yfed ar ei ben ei hun, a byddai'n mynd yn berffaith gyda phastai cyw iâr neu blatiad o fwyd môr. 

Vilarnau - Gwyn Gwyn Cava Pefriog Di Alcohol, Sbaen - www.amazon.co.uk - £7.00

Mae gwinoedd cava Vilarnau yn rhai o’r esiamplau gorau o win cava traddodiadol ar y farchnad ar hyn o bryd. Wedi ei wneud yn dilyn dull traddodiadol, yn yr un modd y gwenir Siampen yn Ffrainc, mae’r cava yma enghraifft glasurol o’r arddull a hynny am brisiau cystadleuol o’u cymharu â gwinoedd pefriog eraill megis Siampen. Mae ffresni a blasau ffrwythus i’w gwin sych yma, ac felly roedd ein disgwyliadau am y gwin di-alcohol yma yn uchel. 

Ni wnaeth y gwin cava di-alcohol yma ein siomi. Mae’n win ar gyfer dathliad, ac os am gadw pen clir, byddem yn hapus i newid i'r fersiwn di-alcohol hon yn lle hynny. Mae’n win sy'n fegan ac sydd â nodweddion eco trawiadol hefyd. Mae'r winllan a’r gwindŷ tu allan i ddinas Barcelona yn ailddefnyddio ac yn puro dŵr glaw a dŵr gwastraff, wedi dileu'r defnydd o ddisel gyda system o gynhyrchu ynni adnewyddadwy ac yn ddiweddar wedi haneru ei defnydd o ynni i gynhyrchu’r gwinoedd yma. 

Yn fwy na hynny, mae'r gwin yn blasu'n wych. Mae ganddo'r holl flasau ffrwythau y byddech chi'n eu disgwyl o cava gweddus, gyda nodiadau o afal gwyrdd, sitrws ac awgrym o almon, ac mae'n weddol sych, felly ni fyddwch chi'n teimlo eich bod yn blasu dŵr llawn siwgr. Yn enghraifft gampus o win pefriog wedi ei gynhyrchu mewn dulliau adnewyddadwy, mae’n un i’w hystyried ar gyfer unrhyw ddigwyddiad.  

Rydym hefyd yn argymell blasu’r gwin cava rhosliw pefriog 0 y cant gan winllan Vilarnau hefyd (£8, Amazon.co.uk), sy’n ddelfrydol ar gyfer barbeciw heb alcohol. 

Eisberg Merlot - Gwin Coch Di Alcohol - Tesco - £3.50

Mae gwinoedd di-alcohol Eisberg wedi bod ar silffoedd ein harchfarchnadoedd am nifer helaeth o flynyddoedd. Yn wir, roedd Eisberg yn cynhyrchu gwin di-alcohol pan nad oedd fawr neb wedi clywed am Ionawr sych. Gyda’r arbenigedd a’r hanes o greu gwin di-alcohol am nifer o flynyddoedd, mae’n deg dweud bod yna win ar gyfer pob achlysur o fewn yr ystod eang o winoedd di-alcohol gynhyrchir gan Eisberg, gan gynnwys gwin rhosliw newydd sy’n llawn blasau ffrwythau sy’n ddelfrydol i’r hâf ac hyd yn oed gwin cynnes (mulled wine). 

Am weddill y flwyddyn, mae'r merlot hwn yn ddewis arall da, sy’n ddewis amgen i win coch, ac sy’n gyfuniad perffaith i’w yfed gyda prydau pasta tomato neu hyd yn oed rhost dydd Sul swmpus. 

Mae ganddo'r holl flasau ffrwythau clasurol y byddech chi'n eu disgwyl mewn Merlot, gan gynnwys mwyar duon ac eirin, gyda dwyster melfedaidd sy'n golygu bod gwydraid (neu dri!) yn llithro i lawr mewn dim o amser. Am y pris, mae hwn yn win di-alcohol safonol ac yn werth ei ystyried fel potel anarferol a newydd i’w flasu ar ddechrau blwyddyn. 

Torres Natureo Gwyn 0% - Tesco, Ocado, Waitrose - £6.00

Mae cwmni Torres wedi bod yn cynhyrchu gwin ers dros 150 o flynyddoedd yn rhanbarth Catalunya yng Ngogledd Sbaen, sy’n un o'r rhanbarthau gwneud gwin hynaf yn Ewrop. Yn fusnes teuluol o’r bumed genhedlaeth, mae wedi bod yn creu gwin di-alcohol ers 2008, gan ddilyn proses o eplesu’r gwin cyn tynnu’r alcohol yn ofalus, er mwyn cadw’r blasau. Mae hyn yn cadw’r blasau nodweddiadol ceir mewn gwin, ond heb yr alcohol. Mae Torres ar flaen y gâd wrth ddatblygu technoleg o’r fath ac mae’r gwinoedd gynhyrchir ganddynt yn winoedd di-alcohol celfydd, rhesymol mewn pris ac yn llawn mynegiant a blas. 

Mae'r gwin yma wedi'i wneud yn gyfan gwbl o rawnwin muscat ac mae ganddo lyfnder melys a fyddai'n gweithio'n berffaith gyda seigiau pysgod yn ein barn ni. Mae ganddo flas grawnwin eithaf cryf, ond mae yna hefyd gyffyrddiadau o afalau a melon, ac roeddem yn falch o weld nad oedd siwgr ychwanegol na dŵr carbonedig. I flasu’r gwin yma ar ei orau, mae angen ei weini yn oer iawn er mwyn medru cael gwir fwynhad o’r gwin hynod yma. 

Mae Torres hefyd yn cynhyrchu gwin rhosliw Natureo, gan ddilyn yr un prosesau a’r gwin gwyn yma, gan gadw’r blasau ffrwythau coch ond heb ychwanegu siwgr fel gwneir gan rhai gwneuthurwyr. 

McGuigan Zero Sauvignon Blanc - Tesco (£4.25) Morrisons (£.75 - lawr o £5.00) Sainsbury's (£3.50) 

Rydym yn hoff iawn o win a wneir allan o rawnwin Sauvignon Blanc. Mae cael gwydraid oer o’r gwin mwynaidd, ffrwythus a ffres yma yn ein hatgoffa o nosweithiau hâf a barbeciw’s.  Gyda hyn mewn côf, roedden ni'n gyffrous i ddarganfod dewis arall y gallem ei fwynhau hyd yn oed pan rydyn ni am osgoi yfed alcohol. Ein gobaith oedd bod hwn yn esiampl nodweddiadol o’r hyn rydym wedi dod yn gyfarwydd am Sauvignon Blanc gydag alcohol, ond mewn gwin cwbl di-alcohol.  

Gwneir y botel hon gan gwmni McGuigan, sydd wedi bod yn cynhyrchu gwin yn Awstralia ers tair cenhedlaeth. I greu’r gwin, mae’r gwneuthurwyr yn cynhyrchu gwin Sauvignon Blanc gydag alcohol, ac yna yn tynnu'r alcohol yn y gwin gan ddefnyddio technoleg côn nyddu, sy'n defnyddio tymheredd isel er mwyn cadw'r blasau nodweddiadol a geir mewn gwin o’r math yma. 

Gyda’r disgwyliadau yn uchel am win o safon, roedd y blasau a’r arddull wir yn ein hatgoffa o win SB gydag alcohol. Roedd y gwin yn frith o nodau llachar o passion fruit, leim a chalch sy’n nodweddiadol o arddull Sauvignon Blanc, gyda gorffeniad hir, boddhaol sy'n gwneud iddo deimlo'n debycach i win gydag alcohol yn hytrach nag un di-alcohol. Byddem yn argymell agor tua hanner awr cyn ei weini, er mwyn gwella'r blas hyd yn oed ymhellach. 

Yn win i’w weini yn ystod yr wythnos waith i gael y blas ond ddim y cur pen! 

Casgliadau
 

O’r gwinoedd rydym wedi eu blasu, daw’n amlwg mae gwinoedd pefriog a rhosliw yw’r enghreifftiau gorau o winoedd di-alcohol. Mae’r elfen befriog yn cuddio unrhyw ddiffygion mewn dyfnder a geir yn aml mewn gwinoedd di-alcohol yn ein barn ni. Yn amlwg ddigon, nid gwinoedd ar gyfer mis Ionawr yn unig yw rhain, gan y byddai rhai o’r awgrymiadau uchod yn hynod o addas ar gyfer barbeciw hâf fel diod gwahanol i’w weini. 

Mae gwneuthurwyr gwinoedd di-alcohol wedi datblygu technegau medrus a chyffrous sy’n cadw’r blasau nodweddiadol o’r gwinoedd yma. Ar hyn o bryd, dim ond y cynhyrchwyr mawr a’r archfarchnadoedd mwyaf sydd yn gwerthu’r gwinoedd yma, ond gyda mwy o bobl yn penderfynu yfed llai o alcohol a gyda’r dreth ar potel o win yn cynyddu yn ddibynnol ar gryfder yr alcohol, mae gwinoedd di-alcohol neu isel mewn alcohol yn ddewis fydd i’w gweld yn fwy amlwg yn ein bwytai a’n archfarchnadoedd yn y dyfodol. Mae hefyd yn braf medru yfed gwinoedd o’r fath heb orfod poeni am gur-pen y diwrnod canlynol neu i fwynhau gwydraid gyda ffrindiau neu deulu dros bryd o fwyd a medru gyrru yn dilyn hynny.  

©Hawlfraint Gwin a Mwy. Cedwir Pob Hawl.

We need your consent to load the translations

We use a third-party service to translate the website content that may collect data about your activity. Please review the details in the privacy policy and accept the service to view the translations.