Argymhellion Gwin

“Pa archfarchnad neu siop yw'r orau am win? Pa win sy'n cynnig

Dyna gwestiwn a ofynnir yn aml, ac nid oes ateb pendant. Mae'n dibynnu ar yr hyn rydych chi'n chwilio amdano: bargeinion neu boteli diddorol a gwahanol?

Yr hyn dylid ei nodi wrth ateb y cwestiwn yw bod yr ateb yn medru  newid yn aml. Mae gan archfarchnadoedd gyfnodau da a drwg, yn dibynnol nid yn unig ar y tîm prynu, ond hefyd ar y cyfyngiadau y maent yn gweithredu oddi tanynt.

Y bwriad islaw yw ceisio adnabod y gwinoedd hynny sy'n werth eu prynnu a pha rai i adael ar silff yr archfarchnad neu siop win. 

Adolygiadau ac Argymhellion

Dyma lle byddwn yn cyhoeddi adolygiadau ac argymhellion rheolaidd ar y bargeinion gorau mewn archfarchnadoedd a siopau gwin annibynol.   Rydym yn diweddaru’r dudalen hon yn gyson, ond os na allwch ddod o hyd i’r hyn yr ydych yn chwilio amdano, mae croeso i chi gysylltu â ni – byddwn yn fwy na pharod i helpu.

Cliciwch ar y lluniau isod i ddarganfod mwy am y gwinoedd argymhellir

Gwinoedd 'Found' Marks & Spencer

Ydych chi wedi cael digon ar brynu gwinoedd sydd yn ddi-fflach ac yn dangos diffyg gweledigaeth a blasau? 

Os felly, mae M&S wedi creu cyfres o winoedd newydd sydd yn amlygu mathau o rawnwin newydd neu rhai sydd heb eu ffafrio gan brynwyr, a hynny o fewn cyfres 'Found'.  Ceir argymhellion am winoedd newydd o wledydd anghysbell a thraddodiadol, sy'n werth eu hystyried fel dewis amgen.

Gwinoedd Mewn Caniau

Ydych chi erioed wedi meddwl am yfed gwin a ddaw mewn can yn hytrach na potel arferol? Mae'r diwydiant gwin ymysg un o'r diwydiannau sydd yn cynhyrchu'r ôl-troed carbon mwyaf wrth gludo, cynhyrchu a defnyddio poteli gwydr i werthu gwin. 

Yma rydym yn edrych ar winoedd amrywiol a ddaw mewn caniau, beth yw'r buddion dros brynu gwin mewn caniau ac os yw'n ddewis gwirioneddol safonol mewn cymhariaeth â poteli gwydr. 

Gwinoedd Taith Win Iberia Lidl

Mae'r nosweithiau yn ymestyn a'r gwanwyn (yn swyddogol!) wedi cyrraedd - er y tywydd anffafriol yma yng Nghymru. Y tro yma, rydym yn canolbwyntio ar daith win misol Lidl - sy'n ein tywys i Benrhyn Iberia - gyda gwinoedd gwahanol o Bortiwgal a Sbaen. 

Wythnos Sieri Rhyngwladol 2023

Gwybodaeth ac argymhellion am Sieri

Gwinoedd Tachweddd 2023 - Rhan 1

Adolygiad o'r gwinoedd gorau i groesawu'r hydref!

Gwin Coch o Rioja, Sbaen

A hithau'n fis dathlu gwin Rioja (FelizRioja), dyma esbonio mwy am y gwinioedd bendigedig yma o Ogledd Sbaen, gydag ambell argymhelliad

Argymhellion Gwinoedd Tesco - Tachwedd 2023

Beth sydd gan archfarchnad mwyaf Prydain ei gynnig y mis yma?

Argymhellion Gwinoedd Morrisons - Tachwedd 2023

Dyma ystyried gwinoedd label 'The Best' archfarchnad Morrisons 

Beaujolais a Beaujolais Nouveau

Erthygl am nodweddion a hanes gwinoedd Beaujolais, gydag argymhellion am winoedd i'w blasu! 

Argymhellion Gwinoedd Lidl - Tachwedd 2023

Dyma ein dewis ni o winoedd o archfarchnad Lidl ym mis Tachwedd 

Gwinoedd Di-Alcohol

A hithau'n ddechrau blwyddyn, ydych wedi gwneud adduned i fed llai o win, gwneud Ionawr Sych neu  benderfynu cwtogi ar yr unedau o alcohol rydych yn fed? Os felly, dyma ychydig o argymhellion am winoedd di-alcohol ac alcohol isel. 

©Hawlfraint Gwin a Mwy. Cedwir Pob Hawl.

We need your consent to load the translations

We use a third-party service to translate the website content that may collect data about your activity. Please review the details in the privacy policy and accept the service to view the translations.