Diwrnod Rhyngwladol Viognier 26ain o Ebrill

Mae’n ddiwrnod ar gyfer rhyw fath o rawnwin bron bob wythnos i’w deimlo! Serch hyn, mae’n gyfle i ddathlu rhai o’r amrywiaethau gwin ar draws y byd ac i gynnig argymhellion am winoedd newydd neu rhai llai ffasiynol.  Ar Ebrill 26ain, beth am godi gwydraid i Viognier (yngenir ‘vee-on-yay’), grawnwin gwin gwyn hudolus gyda hanes hynod ddiddorol a phresenoldeb a phoblogrwydd sy’n cynyddu yn fyd-eang.

Mae swyn Viognier yn gorwedd yn ei gymeriad hynod aromatig. Dychmygwch nodiadau o ffrwythau carreg aeddfed fel eirin gwlanog a bricyll, yn cymysgu ag awgrymiadau blodeuog hardd o wyddfid a fioledau. Yn dibynnol ar ble tyfir y grawnwin a sut cynhyrchir y gwin, mae’n bosib dod o hyd i esiamplau sy’n dangos nodau o ffrwyth sitrws, sinsir, neu hyd yn oed mêl. Nid yw Viognier yn un o’r grawnwin mwyaf poblogaidd mewn cymhariaeth a mathau eraill. Tyfir hyd at 29, 270 acer ar draws y byd, sy’n ffigwr gymharol fychan mewn cymhariaeth a 275,000 acer o Sauvignon Blanc ar draws y byd.  

Felly, beth sy’n gwneud y gwin yma yn un hynod a beth sydd tu ôl i boblogrwydd diweddar y gwin yma? 

Beth yn hanes Viognier a sut ddaeth i amlygrwydd?

Ychydig o hanes

Mae Viognier yn rawnwin anwadal iawn. Mae'n anodd ei dyfu oherwydd ei fod yn agored i ystod eang o blâu a chlefydau. Nid yn unig hynny, mae hefyd yn ffrwyth bach ffyslyd y mae angen ei bigo ar yr adeg gywir er mwyn arddangos aroglau nodedig y grawnwin, sef gwyddfid, bricyll ac eirin gwlanog ar eu llawnaf.

Wedi dweud hynny, gwnewch bethau’n gywir a cewch eich gwobrwyo â gwin gwyn hufennog, llawn corff, llawn gwead, gyda haenau yn amrwyio o gnau i sbeis ar y daflod. Mae rhan fwyaf o’r Viogniers a gynhyrchir gydag o leiaf 13% o alcohol, sy’n uchel am win gwyn, ond mae hyn yn dangos natur gyfoethog, ffrwythlon y gallwch ei ddisgwyl gan viognier o safon. 

Taith Viognier

Mae stori Viognier yn cychwyn yn Nyffryn Rhône, Ffrainc. Dyma yw’r grawnwin pwysicaf yn appelliad mawreddog a phwysig Condrieu. Yma, mae grawnwin Viognier yn torheulo ar lethrau serth, gan gynhyrchu gwinoedd â gwead cyfoethog sy'n adnabyddus am eu ceinder a'u persawr. Ceir blasau eirin gwlanog, gwyddfyd a rhosyn i’r gwinoedd yma, gydag alcohol a chorff canolig, ond gyda melyster digamsyniol. Yn ddewis amgen I Chardonnay, mae’n win sy’n felysach, ond heb fod yn ormodol, sy’n ei nwued yn win perffaith i baru gyda bwyd. Gall y gwinoedd yma o ardal Confrieu fod yn ddrud, ond mae eu hansawdd yn ddigymar mewn cymhariaeth a gwinoedd Vioognier o ardaloedd eraill. Dyma yn wiry w carterf ysbrydol Viognier, er y tyfir ar draws y byd erbyn hyn. 

Ar ddiwedd yr 20fed ganrif, cychwynnodd Viognier ar antur fyd-eang, wrth i gynhyrchwyr a gwindai sylweddoli y gallai Viognier dyfu yn llwyddiannus yn ei hinsawdd nhw. Dyma felly arbrofi a datblygu ar gynhyrchu gwinoedd yn y dull Ffrengig o ardal Condrieu, ond rhoi stamp unigryw ar y gwin, a hynny drwy aeddfedu’r grawnwin mewn casgenni derw gwahanol er mwyn rhoi blasau unigryw i’r gwin. Erbyn hyn, mae Viognier wedi dod o hyd i gartrefi newydd mewn gwledydd fel Awstralia, California, Seland Newydd, De Affrica, a hyd yn oed yn agosach at adref yn Ewrop yn yr Eidal a Portiwgal.

Viognier o’r ‘Byd Newydd’

Mae gwinoedd Viognier o’r byd Newydd, megis Awstralia, Seland Newydd a’r Unol Daleithiau yn dueddol o fod yn fwy blaengar â ffrwythau ac yn hawdd eu hyfed, gan gynnig cyflwyniad hyfryd i bersonoliaeth y grawnwin. Gallant arddangos ffresni nad sydd mewn gwinoedd tebyg o Ffrainc gan amlygu bywiogrwydd naturiol y grawnwin, neu fynd trwy proses heneiddio mewn casgenni derw sydd yn ychwanegu blasau a rhoi corff hufennog ac ychydig o gymhlethdod i’r gwin. 

Mae De Awstralia yn cynhyrchu viognier persawrus yn arddull gogledd Rhône. Daw'r goreuon o ymyl yr arfordir lle mae dylanwadau cefnforol yn caniatau digon o oerni i ddarparu gwin gosgeiddig a cheinder, tra bod y gwres yn sicrhau bod y grawnwin yn aeddfedu’n llawn i greu gwin chwaethus.

Gallwch hefyd ddod o hyd i enghreifftiau hyfryd o gilfachau gogleddol oerach Napa a Sonoma yng Nghaliffornia. Mae’r gwinoedd yma yn dal i ddangos cymeriad peniog, persawrus arddulliau gogledd Rhône, ond yn cymryd mwy o ddimensiwn trofanol gan nodweddu blasau ffrwythau trofanol megis lychee a mango. 

Ble arall y tyfir Viognier?

Mae canolbwynt tyfiant viognier Chile yn rhanbarth hinsawdd oer Casablanca. Wrth flasu’r gwinoedd o Chile, medrwch ddisgwyl rhinweddau ffres i’r gwin sy’n hollol wahanol i winoedd mwy gludiog Ffrainc a’r Unol Daleithiau.

Mae Ynys y Gogledd Seland Newydd, yn benodol Bae Hawke, hefyd yn darparu cyfuniad perffaith o wres ac awelon môr i oeri’r grawnwin i greu amgylchiadau tyfu perffaith. Mae’r gwinoedd gorau o Seland Newydd yn dangos asidedd bywiog gyda blasau ffrwythau aromatig rhyfeddol. 

Yn Ne Affrica fe'i defnyddir i ychwanegu persawr i win coch, fel yng ngogledd Rhône, ac i ychwanegu aroglau a blasau ffrwythau aromatig a gwead i'r gwin gwyn. Mae rhai tyfwyr yn gwneud gwinoedd Viognier pur yn hytrach na’i ddefnyddio i gymysgu gyda grawnwin eraill, yn aml yn defnyddio ychydig o dderw i dalgrynnu'r blasau a rhoi strwythur. Unwaith eto daw'r gwinoedd mwyaf llwyddiannus o winllannoedd sydd â gwres da ond sy'n elwa o ddylanwad oeri awelon uchder neu'r môr.

Paru Bwyd gyda Viognier

Mae amlochredd Viognier wrth y bwrdd bwyd yn yn rheswm arall i ddathlu’r math yma o rawnwin. Mae ei gymeriad cyfoethog yn ei wneud yn cyfateb yn berffaith ar gyfer pysgod wedi'u grilio, sawsiau hufennog, a hyd yn oed cyw iâr wedi'i rostio â pherlysiau. Ac am brofiad gwirioneddol hyfryd a chyfuniad sy'n gweddu yn dda i fwyd, mae’n werth ystyried yfed Viognier gyda seigiau sbeislyd, lle gall ei nodau blodeuog dorri trwy'r gwres yn hyfryd.

Mae hyblygrwydd Viognier yn gorwedd yn ei allu i baru ag amrywiaeth o brydau. Dyma rai parau bwyd delfrydol i'w bwyta gyda Viognier:

Cyfuniad Clasurol

Pysgod a Bwyd Môr Cyfoethocach: Mae eog wedi'i grilio, halibut wedi'i rostio, neu gregyn bylchog mewn saws hufennog yn bartneriaid perffaith ar gyfer pwysau ac asidedd Viognier. Gall y gwin wrthsefyll cyfoeth y pysgod, tra bod yr asidedd yn torri trwy unrhyw hufenedd.

Dofednod Hufennog: Mae prydau cyw iâr neu dwrci gyda saws madarch hufennog neu saws caws Mornay ysgafn yn dod o hyd i gydbwysedd hyfryd gyda Viognier. Mae cyfoeth y gwin yn ategu'r hufenedd, tra bod ei nodau blodeuog yn ychwanegu ychydig o geinder.

Llysiau Aromatig: Mae gwreiddlysiau wedi'u rhostio fel moron, pannas, a cneuen fenyn (butternut squash) yn paru'n dda â Viognier. Mae melyster y gwin yn dod â melyster naturiol y llysiau allan, gyda’r asidedd yn torri drwy’r olew rhostio. Cymar perffaith yn ein barn ni gyda llysiau wedi ei rhostio fel yma.

Parau Anturus:

Bwyd Sbeislyd: Gall nodiadau blodeuog Viognier fod yn bartner teilwng i brydau sbeislyd fel cyri Thai neu gyri Indiaidd gyda llaeth cnau coco. Mae asidedd y gwin yn helpu i dorri trwy'r gwres, tra bod y nodau blodeuog yn ategu'r sbeisys. Ma’r melyster naturiol hefyd yn lleihau ar effaith y sbeis, gan gyfuno’n berffaith gyda prydau sy’n cynnwys tsili. 

Caws Gafr: I'r rhai sy'n hoff o gaws, gall Viognier fod yn bartner hyfryd i gaws gafr. Mae asidedd y gwin yn torri trwy hufenedd y caws, gan greu cyferbyniad cytbwys a phleserus, gyda’r melyster hefyd yn creu blas cyflawn, llawn mwynhad I’r .

Charcuterie a Canapes: Mae amlochredd Viognier yn ei wneud yn win delfrydol ar gyfer pob math o fwydydd gwahanol. Mae'n ddewis gwych ar gyfer apéro (diodydd cyn cinio) gyda bwrdd charcuterie neu flasau ysgafn

Wrth ystyried parau bwyd addas gyda Viognier, mae’n bwysig meddwl am arddull y Viognier rydych yn meddwl ei yfed. Efallai y bydd Viogniers ysgafnach yn paru'n well â seigiau ysgafnach, tra gall Viogniers cyfoethocach, wedi ei aeddfedu mewn casgeni derw am ychydig o fisoedd neu flynyddoedd ychwanegu blasau mwy beiddgar i’r bwyd a weinir. 

Dathlu Diwrnod Viognier

Felly, sut allwch chi ymuno â dathliadau Diwrnod Rhyngwladol Viognier? Ewch i'ch siop win leol a gofynnwch am argymhelliad Viognier. Os ydych wedi blasu Viognier yn y gorffennol neu'n newydd i'r grawnwin yma, mae swyn unigryw Viognier yn sicr o'ch ennill drosodd. 

I gynorthwyo gyda'r dasg, rydym wedi gwneud y gwaith o ddewis gwinoedd Viognier i’w hystyried, gan ddidoli'r gwych o'r cyffredin gan ystyried yr amrywiaeth a geir yn ogystal a'r prisiau am y gwinoedd yma. 

Os nad ydych wedi cael y pleser o roi cynnig ar y grawnwin hwn eto, gall fod yn ddewis arall gwych i yfwyr chardonnay yn ein barn ni. Mae’n cynnig dewis amgen sy’n gweddu i amrywiaeth o fwyddydd gwahanol. Yn win delfrydol i’w weini mewn digwyddiad neu gyda ffrindiau mewn bwyty. Dyma rai o’n ffefrynau: 

Laurent Miquel Vendanges Nocturnes Viognier 2023, Languedoc-Roussillon, Ffrainc – Waitrose – £7.99 hyd at 07/05/2024 - Pris Arferol - £9.99

Dyma win wedi ei gynhyrchu o 100% Viognier o winwydd sy’n 10-15 mlwydd oed yn ardal Ystad Cazal Viel. Cynaeafwyd y grawnin yn ystod y nos er mwyn sicrhau bod y blasau ffrwythus yn y cyflwr gorau posib, a’u gwasgu yn syth, gyda’r sudd o’r wasgfa gyntaf yn unig yn cael ei ddefnyddio yn y gwin yma. Bu’r broses eplesu mewn tanciau dur di-staen gyda’r gwin yn aros am gyfnod o ddau fis ar y waddod (on the lees) i greu blasau cymhleth a gwin llawn mynegiant. 

Dyma win cytbwys, corff canolig yn dangos aroglau o eirin gwlanog, gellyg a bricyll gyda’r blasau yma yn ffres ac yn gywrain ar y daflod. Er bod 13% o alcohol, mae’n win cytbwys byddai’n gweddu’n dda gyda pob math o fwyd. Am lain a £10 y botel, mae’n cynnig gwerth da am arian, ond am y pris gostyngol yma yn Waitrose, byddai hwn yn win gwych i ddathlu diwrnod rhyngwladol Viognier a thu hwnt yn ein barn ni. 

Pierre Jaurant Viognier, 2022 Vin de France - £5.99 – Aldi

Dyma win sy’n dangos yr hyn ddisgwylir gan Viognier am llai na £6 y botel. Er nad yw’n win cymhelth, mae’n dangos blasau ac aroglau nodweddiadol y grawnwin yn glir, megis eirin gwlanog a gellyg aeddfed. Daw’r grawnwin viognier yn y gwin o ardaloedd ar draws Ffrainc, felly yn hytrach na chanolbwyntio ar y grawnwin, caolbwyntio ar y pris a’r gwerth am arian dylid ei wneud gyda’r gwin yma. Dyma yn ei hanfod sy’n gwneud gwinoedd am y prisiau yma yn dderbyniol ac yn rhatach i’w prynu. 

Mae’r label yn nodi bod gan y gwin blasau blodeuog, er ar y daflod, mae rhain ychydig yn anhysbys mewn gwirionedd. Ceir ffresni aromatig a deniadol i’r gwin gyda blasau melon aeddfed ar y daflod. Gydag asidedd mandarin a melyster cytbwys a diweddglo melfedaidd a phleserus, dyma potel sy’n gyflwyniad da i viognier traddodiadol o Ffrainc am bris anhygoel. Da iawn Aldi am wneud Viognier safonol a derbyniol am bris anhygoel! 

Yalumba Organic Viognier, De Awstralia 2022, Waitrose - £10.99 / Ocado - £10.00

Gan symud o Ffrainc am ein argymhelliad nesaf, dyma argymell y win chwaethus  viognier Yalumba. Wedi'i leoli ar Afon Murray yn Loxton, De Awstralia, mae eiddo'r teulu Barich yn cynnwys gwinllan organig hardd sy'n cynhyrchu Viognier gwych. Dros y blynyddoedd, mae grawnwin o winllannoedd eraill o Dde Awstralia wedi’ cynaeafu a’u hychwanegu at y gwin. Mae sylw’r gwneuthurwyr i fanylion yn y gwinllannoedd hyn yn sicrhau bod y grawnwin mewn cyflwr perffaith ar gyfer y cynhaeaf a’r gwin yma. Yn unol â thechnegau gwneud gwin organig, mae'r tîm yn ychwanegu burum cynhenid, yna'n gadael y gwin i eplesu heb fawr o ymyrraeth. Y canlyniad yw gwin ysgafn, golau lliw lemwn, gyda lliwiau gwyrdd ac arogl o flodau gwyn, sinsir, jasmin a bricyll.

Dyma win sydd wedi bod ar silffoedd Waitrose ers amser maith. Mae’n win dibynadwy ac yn gyson yn cynnig safon cyson o flwyddyn i flwyddyn – mae hyd yn oed hyd yn oed ynfwy felly pan fydd ar gael, sef o bryd i’w gilydd. Mae'n ddi-oed, wedi'i eplesu ar furumau gwyllt, ac mae'n hen lees am ychydig fisoedd cyn potelu. Fe welwch flasau deiliog a chadarn o ffrwythau eirin gwlanog, rhywfaint o flodau gwyddfid ac ychydig o flasau sawrus bendigedig . Opsiwn da a gwahanol fyddai'n paru'n dda â bwyd sbeislyd yn ein barn ni. 

Cono Sur Bicicleta Viognier 2022, Chile – Tesco £6.00 (gyda Clubcard) £7.00 fel arall

Dyma Viognier persawrus o Chile, gyda theim persawrus ac arogl eirin gwlanog aeddfed ar y trwyn a'r daflod. Ceir hefyd melyster ffrwythau carreg aeddfed ar y daflod sych, wedi'i gydbwyso gydag ychydig o sbeisys llysieuol a digon o asidedd I gynnig gwin cytbwys a a phleserus I’w yfed. Am Viognier, mae’r lefel alcohol yn eistedd ar 13.5% sydd ychydig yn uwch na’r hyn a geir mewn gwinoedd tebyg o Ffrainc. 

Mae hwn yn Viognier blasus ac am bris rhesymol iawn. Mae'n brin o'r blasau ‘sherbet’ sitrig a geir mewn Viognier traddodiadol o Ffrainc ac efallai yn dangos corff a chadernid cymhedrol mewn cymhariaeth a’I gefndryd Ffrengig. Serch hyn, mae’n win hyfryd am y pris ac rydym yn hoffi moeseg a’r ffaith bod cwmni Cono Sur yn gwmni sydd wedi derbyn achrediad ‘B-certified’ am gynaladwyedd a’i safiad ar gyfrifoldeb cymdeithasol a chrofforaethol. Mae hwn yn win bendigedig, ac yn werth rhagorol am arian. Sych, ond gyda ffrwythlondeb hardd, yn enwedig os gweinir y gwin heb ei oeri yn ormodol. 

 

Domaine Mandeville Viognier, Vin de Pays D’oc, Ffrainc, Marks and Spencer £9.00

Gwin gwyn ffrwythus gyda blasau ac arogl nodweddiadol o Viognier se eirin gwlanog a blodau gwyn, wedi'i grefftio’n fedrus gan y gwneuthurwr gwin Olivier Mandeville o rawnwin Viognier yn rhanbarth Languedoc yn ne Ffrainc. Mae’r gwin wedi derbyn cydnabyddiaeth IGP sy’n golygu bod y grawnwin o well ansawdd ac o ardal benodol sydd wedi derbyn cydnabyddiaeth IGP na grawnwin ddaw o amrywiaeth eang o ranbarthau Ffrianc. Serch hyn, nid yw’r grawnwin cystal a’r hyn geir mewn AOC sef tref neu bentref nodedig megis Condrieu, cartref viognier yn Ffrainc, lle gall y prisiau am winoedd fod yn sylweddol uwch. 

Ceir haenau ychwanegol o flasau afal coch yn y gwin yma, a hynny oherwydd lleoliad y gwinwydd yn ne Ffrainc. Mae’r cyfuniad o flasau gellyg ac afal yn gwneud hwn yn ddewis gwahanol I’r gweddill o’r argymhellion uchod ac er nad yw mor gyfoethog a llawn ei fynegiant a’r gwinoedd uchod, mae’n win hynod o bleserus i’w yfed ar ben ei hun, rhywbeth na ellir ei ddweud am bob viognier sydd angen bwyd fel cymar. Mae hefyd yn win sy’n addas i lysieuwyr a feganiaid ac yn ddewis gwahanol ar gyfer y gwanwyn a’r haf. 

©Hawlfraint Gwin a Mwy. Cedwir Pob Hawl.

We need your consent to load the translations

We use a third-party service to translate the website content that may collect data about your activity. Please review the details in the privacy policy and accept the service to view the translations.