Gyda'r nadolig ond ychydig wythnosau i ffwrdd, dyma grynhoi ychydig mwy o syniadau am anrhegion bwyd a gwin.
Cliciwch ar y lluniau islaw am fwy o wybodaeth a chysylltiad I gwefannau'r cwmniau perthnasol.
Llyfr coginio dwyieithog gan yr arbeingwraig bwyd Nerys Howell. Gan ganolbwyntio ar ryseitiau a llysiau o'r ardd, mae'n lyfr sy'n defnyddio cynwhysion tymhorol gyda lluniau gwych o'r holl ryseitiau. Mae Nerys yn enw a gwyneb cyfarwydd ar raglenni megis Prynhawn Da a Heno ar S4C ac yn arbenigwraig ar fwydydd a diodydd Cymreig. Llyfr gwerth ei gael yn yr hosan Nadolig ac un bydd yn ddefnyddiol drwy'r flwyddyn.
Er nad yn win, rydym yn hoff iawn o'r jin yma, sy'n jin organig, traddodiadol wedi ei gynhyrchu a llaw yn Talog, Sir Gaerfyrddin. Yn enillwyr tair Seren y 'Good Taste', a'r unig jin yng Nghymru sydd wedi derbyn y gymeradwyaeth yma, mae'n llyfn, yn flasus ac yn jin unigryw sy'n cwmpasu ardal Sir Gaerfyrddin yn wych. Gyda dewis o jin sych Llundain (London Dry) neu Jin gyda blasau pubur pinc, meryw a merfain lemonaidd neu meryw a deilen llawryf, mae'n jin sydd yn cyfuno'n wych gyda thonig 'Fever Tree'.
Un o'r jin's gorau rydym wedi ei flasu yma yn Gwin a Mwy.
Menter Richard a Siw Evans a'r teulu yn Neuadd Lwyd, ger Aberaeron yw Gwinllan Llaethliw. Yn dilyn penderfyniad i arallgyfeirio a phlannu gwinwydd, mae'r winllan yn cynhyrchu gwinoedd gwyn, coch a rose, yn ogystal a gwinoedd pefriog. Mae'r winllan hefyd yn cynnig teithiau a sesiynau blasu, yn ogystal a chynhyrchu seidr - Hansh. Mae llety hunan arlwy ar gael ac mae'r profiad o gael aros ar y winllan a blasu ffrwyth llafur Richard a Siw yn brofiad anhygoel. Anrheg cwbl unigryw! Ceir mwy o fanylion am y teithiau a'r sesiynau blasu ar ei gwefan. Gwinoedd bendigedig sy'n gweddu i unrhyw achylsyur.
Mae siop Gwin Dylanwad yn Nolgellau yn gyrchfan poblogaidd i win-garwyr wrth deithio ar hyd yr A470 rhwng y De a'r Gogledd. Mae Dylan a Llinos yn cynnig amrywiaeth helaeth o winoedd o bob cyfandir, gyda gwasanaeth personol ac argymhellion gwych am winoedd a paru bwydydd. Rhai o'n ffefrynnau ni yma yn Gwin a Mwy yw'r dewis o hamperi gwin a bwyddydd gynnigir. Mae'r amrywiaeth a'r prisiau yn gystadleuol tu hwnt, gyda nwyddau a gwinoedd safonol yn rhan o'r hamperi yma. Os am flas bwydydd a nwyddau Cymreig, wedi ei dewis yn ofalus, yna does unman gwell na Gwin Dylanwad i gynnig anrhegion fydd yn sicr o blesio!
Dyma un o'r nwyddau gwin mwyaf defnyddiol rydym wedi ei brofi yma yn Gwin a Mwy. Trwy osod y llewys yn y rhewgell, medrir oeri gwin i'r tymheredd cywir o fewn 20 munud. Os yw'r gwin wedi ei oeri eisoes, yna mae'n cadw'r gwin ar y tymheredd priodol am ychydig oriau. Mae'n ddelfrydol ar gyfer pob math o ddigwyddiadau, o bicnics yn y parc, bwyta yn yr ardd yn ystod yr haf neu i gadw'r gwin ar y tymheredd cywir dros swper gyda ffrindiau. Daw mewn lliw du, coch, pinc neu oren. Anrheg defnyddiol tu hwnt bydd yn siwr o blesio drwy'r flwyddyn.
Os am anrheg a phrofiad cwbl gwahanol, yna mae VinVan Cymru yn Marchnad y Corp, Treganna, Caerdydd yn cynnig amrywiaeth eang o nosweithiau blasu gwin. Mae Sara - "Cwin y Gwin" a pherchennog VinVan Cymru - yn hynod o brofiadol wrth arwain nosweithiau o'r fath, gan gynnig themau unigryw a gwinoedd sy'n gweddu i'r thema hynny. Medrir hefyd prynu talebau ar gyfer y nosweithiau ymt neu beth am alw heibio i weld y dewis gwych o win sydd ar gael ac I gael sgwrs ac argymhellion gan y "Cwin" ei hun!
©Hawlfraint Gwin a Mwy. Cedwir Pob Hawl.
We need your consent to load the translations
We use a third-party service to translate the website content that may collect data about your activity. Please review the details in the privacy policy and accept the service to view the translations.