Mae’r archfarchnad o’r Almaen, Lidl, yn ddewis poblogaidd ar gyfer siopa bwyd a diod yn y DU, gan gynnig amrywiaeth eang o fwyd a chynnyrch cartref o ansawdd uchel am brisiau cystadleuol. Gyda dros 1,100 o siopau ar draws y wlad, mae Lidl yn enw poblogaidd ar ein stryd fawr ac yn cynnig amrywiaeth helaeth o winoedd am bob math o brisiau. Mae’r safon yn medru amrywio, ac mae esiamplau da o winoedd yn medru cynnig gwerth gwirioneddol am arian.
Lidl yw’r unig archfarchnad yng Nghymru i dderbyn cydnabyddiaeth y ‘Cynnig Cymraeg’ gan Gomisiynydd y Gymraeg, gan ddangos ymrwymiad i gynnig gwasanaethau a nwyddau yn y Gymraeg.
Dyma ein argymhellion am winoedd i’w blasu yn Lidl ym mis Tachwedd 2023.
Mae prynwyr gwin yr archfarchnad a sefydlodd ei hun yn y DU ym 1994, yn gwneud gwaith gwych o ddod o hyd i feintiau bach o winoedd diddorol am bris da ar gyfer rhestr 'Wine Tour' yr archfarchnad. Rhwng y gwinoedd unigryw yma a’r gwinoedd craidd sydd gan Lidl, mae’n cynnig detholiad cynhwysfawr o winoedd o'r Hen Fyd (Ffrainc, Yr Eidal ac ati) a’r Byd Newydd (Seland Newydd, Awstralia, Chile, De Affrig ac ati) ar draws ystod gang o arddulliau.
Mae maint a pwer prynu'r archfarchnad (gan gofio bod siopau gan Lidl ar draws Ewrop a thu hwnt) yn golygu bod prisiau gwinoedd yn medru bod yn is nag mewn archfarchnadoedd eraill. Mae modd dod o hyd i fargeinion, ond mae gofyn bod yn ymwybodol o'r hyn sydd ar gael cyn mynd i'r siop yn ein barn ni. Dyma yw'r hyn rydym am geisio ei wneud yma yn Gwin a Mwy!
Fel y gwelir gyda'r holl archfarchnadoedd erbyn hyn, mae gan Lidl ddewis o nwyddau o ansawdd uwch, sef y label 'Deluxe'.
Yn gynharach eleni lansiodd Lidl ddewis gwin Deluxe sy'n datblygu ar y brandio Deluxe sydd wedi bod ar y silffoedd yn ei siopau ers 2008 mewn llinellau bwyd a diod eraill, ac wedi ennill dilynwyr ffyddlon.
Mae'r casgliad yma yn un moethus ac yn arddangos arddulliau clasurol mewn gwinoedd sy'n cynnig nodweddion clasurol yn ogystal a bod yn flashs ac hawdd i'w hyfed ym mhob achlysur. Enghraifft wych o'r ansawdd yma yw'r Sauvignon Blanc o Awarte yn Nyffryn Marlborough yn Seland Newydd. Am £7.99, mae'n engriafft glasurol o Sauvignon Blanc o'r ardal yma, ac yn esiampl gwell na nifer o'r enwau mawr sydd yn ein harchfarchnadoedd erbyn hyn. Yn yr un modd, mae'r gwin coch Shiraz o Ddyffryn Barossa yn Awstralia yn win dylid ei ystyried yn enwedig pan mae £6.99 y potel yw'r gwin yma ar hyn o bryd.
Mae’r cyfuniad yma o rawnwin Chardonnay, Chenin Blanc a Viognier o Dde Affrica yn cynnig arddull a blas cwbl gwahanol i’r hyn ddisgwylir gan y ddau math o rawnwin yma. Yn gyfoethog ac yn llawn corff, mae blas derw cefndirol i’r gwin, ond heb fod yn ormodol i ddifetha blas y ffrwyth a geir wrth gyfuno’r grawnwin yma. Mae blasau afal coch, gellyg a bricyll yn amlwg ond wedi'u cyfuno yn gelfydd mewn gwead hufennog nodweddiadol o arddull Chardonnay a Viognier. Yn ddelfrydol ar gyfer cyri cyw iar neu tofu sbeislyd, dyma engraifft sy’n dangos nodweddion Lidl ar ei orau – gwin o ansawdd ac am bris cystadleuol iawn. Prynwch tra’i fod ar gael.
Mae gwinoedd o ardal Muscadet yn Nyffryn y Loire yn Ffrainc yn winoedd perffaith i’w hyfed ar ei pen ei hun neu i gyd-fynd â bwyd, yn enwedig pysgod a bwyd môr. Mae’r arddul yn sych, yn ysgafn mewn corff gyda nodau sitrws lemon bywiog. Mae yna hefyd flasau afal gwyrdd ond hefyd yn sawrus gyda ychydig o flas mwynau a halen. Mae’r enghraifft yma yn ffres a ffrwythlon, ac yn gyflwyniad da i'r arddull. Mae gwinoedd o Muscadet wedi gwella yn ddirfawr yn y blynyddoedd diwethaf ac mae’r esiampl yma yn cynnig gwerth am arian gwirioneddol ac yn gyfuniad da gyda seigiau a bwyd y môr dros gyfnod y Nadolig.
Mae Cremant yn aml yn cael ei weini fel dewis amgen i Siampen traddodiadol. Mae’n cael ei gynhyrchu yn yr un modd a Siampen, ond gan nad yw wedi ei gynhyrchu yn ardal nodedig Champagne, ni fedrir ei alw yn win o’r ardal yma. O ganlyniad, mae’r gwin yn dipyn rhatach, yn dangos yr un nodweddion a Siampen, ac yn boblogaidd iawn ym mariau a bwytai Paris. Mae’r enghraifft yma sy’n rhan o ddewis craidd Lidl yn esiampl gwych o sut medrir cynhyrchu gwinoedd yn y dull traddodiadol, ond heb y prisiau traddodiadol am winoedd pefriog o’r math yma. Mae’n win ysgafn, sych gydag arddull ‘aperitif’, gyda ffrwythau afal gwyrdd ac asidedd nodweddiadol o’r math yma o win. Grawnwin Chenin Blanc sydd bennaf yn y gwi, gyda rhywfaint o Chardonnay yn y gymysgedd. Yn win perffaith am ddathliad neu wydraid cyn unrhyw achlysur arbennig gyda canapes.
I’r sawl sydd yn chwilio am win melys ac arddull gwahanol I’r cyffredin, mae’r gwin yma ar gyfer yr anturiwr gwi. Gwin hanner sych a melys o Jurançon yn ne-orllewin Ffrainc yw hwn, sy’n gyfuniad o rawnwin Gros Manseng a Petit Manseng, sydd wedi'u gadael i hongian ar y winwydden yn hirach na grawnwin ar gyfer y gwinoedd sych nodweddiadol o’r ardal yma. Drwy wneud hyn, mae’r gwneuthurwyr gwin yn cynyddu’r maint o siwgr naturiol o ferwn y grawnwin yn ogystal a'r asidedd. Canlyniad hyn yw gwin sy’n felys i'w flasu, ond mewn ffordd ysgafn a hawdd ac mewn arddull aperitif - byddai'n flasus gyda paté afu cyw iâr ar dost, neu bwdinau ffrwythau ysgafnach. Mae'n olau ac yn ffres, gyda nodiadau mêl, ac awgrym o siwgr haidd. Yn win gwahanol i Sauternes melys ac yn bris rhesymol am win o’r ansawdd yma.
O’r holl winoedd sydd ar gael yn Lidl, dyma, yn ein barn ni, yw un o’r gwinoedd gorau sydd ar silffoedd yr archfarchnad. Mae'n potel sy’n cynnig gwerth anhygoel am arian, gan arddangos nodweddion clasurol Chianti tra hefyd yn dangos ffresni a blasau llawn persawr. Mae’r aroglau o geirios tywyll yn flaenllaw, a blasau byddai fel arfer i’w canfod mewn Chianti Reserva wedi ei aeddfedu (a gyda pris tipyn uwch!). Ceir hefyd blasau nodweddiadol o’r arddull yma sef y nodau priddlyd ac aeddfedrwydd ffrwythau’r llwyni megis mwyar duon ac arogl mieri. Mae’n enghraifft wych o win coch Eidalaidd - perffaith ar gyfer unrhyw rysait pasta a thomato canol wythnos!
Yn win newydd i ochr ‘Deluxe Lidl, mae'r Shiraz hwn yn fynegiant syml ond eithaf sawrus o Shiraz o Ddyffryn Barossa yn Ne Awstralia. Mewn hinsawdd gynnes fel gwelir yn Nyffryn Barossa, mae’r grawnwin Shiraz yn cynhyrchu gwinoedd llawn corff, swmpus gydag elfennau o sbeis a blasau mwyar duon aeddefed. Mae’r cyfuniad yma o ffrwythau aeron tywyll gyda nodau wedi’u tostio o fewn y casgenni yn berffaith ar gyfer cig rhost neu wedi ei grilio neu gyda chaws caled. Unwaith eto, mae’n werth da am y pris hwn, yn enwedig cyn yr 22ain o Dachwedd. Mae’n siwr o werthu allan yw ein barn ni am y gwin hwn.
©Hawlfraint Gwin a Mwy. Cedwir Pob Hawl.
We need your consent to load the translations
We use a third-party service to translate the website content that may collect data about your activity. Please review the details in the privacy policy and accept the service to view the translations.