Wrth i'r tymheredd ostwng a'r clociau newid, mae'r paratoadau ar gyfer y Nadolig yn yr archfarchnadoedd wedi dechrau. Dyma’r amser pryd gwelir nifer o gynigion arbennig i ddenu cwsmeriaid, ac yma yn Gwin a Mwy, byddwn yn ystyried beth sy’n cynnig gwerth am arian ymysg yr archfarchnadoedd. Felly dyma gychwyn ein cyfres gydag adolygiad o winoedd Morrisons.
Gyda bron i 500 o siopau ar draws y DU, mae Morrisons yn un o’n harchfarchnadoedd mwyaf gyda dewis helaeth o winoedd am brisiau cystadleuol sy’n creu argraff. Dyma yw pumed archfarchnad fwyaf Prydain, sy’n canolbwyntio ar gynnyrch o Brydain ac sydd yn cadw amrywiaeth eang o winoedd a hynny ar wahanol brisiau a safon.
Wrth i dymor y Nadolig nesáu, ar yr adeg paratowyd yr erthygl yma, mae Morrisons yn cynnal ymgyrch ‘prynu chwe photel a chael 25% i ffwrdd’ ymhlith ei gyfres winoedd ‘The Best’ - cyfres labeli preifat yr archfarchnad sy’n cyflwyno rhanbarthau clasurol a grawnwin o bob cwr o’r byd am brisiau cystadleuol.
Wedi tyrchu ymysg y silffoedd am winoedd, dyma felly ychydig o argymhellion am winoedd i’w hystyried yn Morrisons yn ystod Mis Tachwedd
Gyda tymor y Nadolig yn agosau, dyma ystyried ddau esiampl o win Pefriog - y naill o Ffrainc a'r llall o Brydain
Mae amser y Nadolig yn dangos y gwerthiant mwyaf mewn gwin pefriog dros y flwyddyn. Yn aml, gwelir prisiau cystadleuol ymysg yr archfarchnadoedd am Siampen a gwinoedd pefriog eraill - cynnig Morrisons eleni yw Siampen hufennog Charles Clément Brut NV (£24) sy’n cynnig gwin o ansawdd uchel a chystal â’r gwneuthurwyr Siampen enwog, ond am bris tipyn llai na’r brandiau enwog. Mae'r blasau burum a brioche meddal ac afal gwyrdd yn amlwg yn y siampen hwn. Gyda blasau cnau a gorffeniad hufennog, mae hwn yn esiampl da iawn o siampen am bris da dawn, sydd hyd yn oed yn well gyda'r cynnig arbennig sydd gan Morrisons min yma.
Os am rywbeth yn nes at adref, yna ein hargymhelliad yw Gwin Pefriog Seisnig 2010 o gyfres ‘The Best’. Mae hon yn enghraifft wych o ddatblygiad gwinoedd Prydeinig gan ddangos ansawdd sydd gyfystyr a Siampen o Ffrainc. Mae’n win pefriog gyda blasau bara a burum, croen oren a sitrws gyda gorffeniad hir a hufennog, gyda’r siwgr o fewn y ffrwyth yn torri ar yr asidedd uchel. Er nad wedi ei gadarnhau, mae nifer o’r farn mai gwneuthurwyr y gwin yma yw camni Nyetimber, sy’n win hynod ac uchel ei safon, ac sydd yn costio tipyn mwy na phris y gwin hwn yn Morrisons. Os felly, byddai hyn yn esbonio’r safon a’r arddull hynod uchel yn y gwin hwn, ac yn fargen gwerth ei hystyried. Yr unig bwynt negyddol sydd gennym yw dyluniad y label… er, wedi dweud hynny, mae’n esiampl wych o winoedd a gynhyrchir ym Mhrydain a hynny heb dorri’r banc!
Mae cynnyrch a labeli archfarchnadoedd yn medru cynnig dewisiadau rhatach ac o ganlyniad, safon is. Gyda Morrisons, mae’r label a ddefnyddir i ddynodi ansawdd, sef ‘The Best’ yn ein barn ni yn dangos safon hynod uchel a chystadleuol am brisiau rhesymol. Mae’r amrywiaeth o winoedd hefyd yn health ac yn dangos nodweddion pob math o rawnwin ac arddulliau ar draws y byd.
Os am y ‘clasuron’, ein hargymhellion yw gwinoedd Chablis, Barolo, Rioja Reserva, Chianti Classico a Bordeaux Supérieur o gyfres ‘The Best’. Mae'r rhain yn cynnig gwerth am arian, ac os oes cynnig arbennig ymlaen, yn werth ei hystyried a’i prynu ymlaen llaw.
Er bod y Barolo yn costio £16.00, mae hwn yn bris cystadleuol am win o’r ansawdd yma. Mae’n win llawn mewn corff, yn feiddgar o ran blas ac yn dangos nodweddion Neibbiolo, sef y prif fath o rawnwin a ganiateir mewn Barolo yn hynod gelfydd. Yn cael ei adnabod fel ‘brenin y gwinoedd, gwin y brenhinoedd’, mae Barolo yn win a drysorir gan yr Eidalwyr. Mae blasau cryf ac unigryw’r Neibbiolo, gyda’i aroglau rhosyn a ffrwythau duon yn gwbl unigryw i’r math yma o win. Yn paru’n dda gyda helgig o bob math neu gaserol swmpus yn ogystal â chaws caled, mae’n win o safon ac yn dangos gwerth am arian gyda’r cynnig arbennig sydd ymlaen yn Morrisons ar hyn o bryd.
Gan aros yn yr Eidal, un o’r gwinoedd a’r ardaloedd enwocaf am win yn yr Eidal yw Chianti. Gwinoedd coch gynhyrchir yma fwyaf, gydag esiamplau da o winoedd Chianti yn dangos blasau ceirios a thannin llyfn. Mae’r hinsawdd yn ffafrio gwin ysgafnach, gyda bryniau a dyffrynnoedd Tuscany a’r tymheredd cyson ac awelon o for y Canoldir yn ychwanegu at y broses o aeddfedu’r grawnwin yn arafach nag yn ne’r Eidal. Mae’r gwin yma wedi ei gynhyrchu o rawnwin Sangiovese, Merlot a Cabernet Sauvignon, gyda’r rhan helaethaf yn rawnwin Sangiovese. Mae’r gwin wedi ei aeddfedu mewn casgenni derw am gyfnod byr, hyd at dri mis, gan gadw’r blasau o ffrwythau coch yn ffres, a heb amharu yn ormodol ar y tannin. Esiampl dda o win Chianti ac yn un i’w weini gyda phasta a saws tomato, lasagne cig neu lysieuol neu i’w yfed ar ben ei hun. Bellissimo!
Er bod enw’r gwin yn swnio’n Almaenig, gwin o Alsace yn Nwyrain Ffrainc yw'r Gewurtztraminer yma gan Morrisons. Daw’r grawnwin yn wreiddiol o’r Almaen ac mae dylanwad Almaenig cryf ar y rhanbarth yma o Ddwyrain Ffrainc. Gyda mynyddoedd y Vosges yn cynnig cysgog rhag gwyntoedd a glaw, mae’n ardal ddelfrydol i dyfu grawnwin megis Riesling a Gweurztramier. Mae’r blasau a’r ffrwythau aeddfed yn amlwg yn gwin yma, gyda mango yn cyfuno gydag ychydig o sbeis. Yn win tipyn mwy melys na gwinoedd gwyn eraill megis Chardonnay neu Sauvignon Blanc, mae’n gyfuniad perffaith gyda bwyd sy’n cynnwys sbeis neu fwyd o Wlad Thai neu yn wir, wrth fwyta pwdinau gyda ffrwythau melys. Mae’n enghraifft o win sy’n wahanol i’r cyffredin ac sy’n gweddu’n berffaith gyda bwyd sbeislyd ac yn gylle i arbrofi gyda gwin ac arddull gwahanol i'r cyffredin. .
I gwblhau unrhyw achlysur arbennig, mae gwinoedd melys yn ychwanegu at unrhyw ddathliad. Mae’r Ffrancwyr yn hoff o’i gwinoedd melys gyda phob math o fwyd, gan gynnwys cyw iâr, ond yma ym Mhrydain, gwin i’w yfed adeg pwdin neu gyda chaws y gweinir y gwinoedd yma. Yma yn Gwin a Mwy, does dim byd gwell na gwydraid o win melys, cysurus i fynd gyda’r pwdin neu gaws Cymreig. Mae’r gwin Botrytis Semillon o gyfres ‘The Best’ (37.5cl - hanner potel) am £7.50 yn esiampl o win cain, llawn sitrws ac yn gyfoethog, ond heb fod yn rhy felys. Wedi ei gynhyrchu yn Ne Ddwyrain Awstralia gan gwmni De Bortoli, mae’r grawnwin wedi cynaeafu yn hwyrach, gan adael i’r ffyngau botrytis amsugno’r dŵr o’r grawnwin tra ar y gwinwydd, gan adael neithdar melys o fewn y grawnwin er mwyn creu’r gwin yma. Gydag arogl bricyll a sitrws, mae hwn yn win da i’w baru gyda phob math o gaws, ffrwythau ffres neu darten lemwn.
Ac yn olaf, os ydych am ddathliad ond am leihau ar yr alcohol neu’n gorfod gyrru, mae’r Rosé Pefriog Di-alcohol gan Kylie Minogue 75cl (£7.00) yn gyfuniad ffres o win ysgafn, llawn ffrwyth a blas ond heb yr alcohol. Er bod gwinoedd o’r math yma yn medru bod yn or-felys, mae hwn yn gytbwys o ran siwgr a ffrwyth ac yn ddelfrydol os am leihau’r alcohol neu os am ddathlu heb gur pen y bore wedyn!
©Hawlfraint Gwin a Mwy. Cedwir Pob Hawl.
We need your consent to load the translations
We use a third-party service to translate the website content that may collect data about your activity. Please review the details in the privacy policy and accept the service to view the translations.