Gwinoedd 'Found' Marks & Spencer

Mae cyfres gwinoedd "Found" Marks & Spencer yn gasgliad cyffrous ac arloesol sy'n gwahodd cwsmeriaid i chwilota am drysorau llai adnabyddus o fyd y gwin. 

Lansiwyd y gyfres gyda'r bwriad o ehangu gorwelion a dod â thrysorau heb eu darganfod neu amrywiaethau llai poblogaidd i'r farchnad ac mae'r gyfres 'Found' yn dyst i ymrwymiad M&S i ansawdd, amrywiaeth ac ysbryd antur ymhlith y rhai sy'n hoffi eu gwinoedd. 

Mae pob potel o fewn y gyfres 'Found' wedi'i churadu'n drylwyr i arddangos mathau unigryw o rawnwin, cyfuniadau diddorol o winoedd a hynny o wledydd llai amlwg neu rawnwin llai amlwg o wledydd poblogaidd. O bridd folcanig Mynydd Etna yn yr Eidal i winllannoedd uchel Gwlad Groeg, mae'r detholiad yn tynnu sylw at ranbarthau a chynhyrchwyr sy'n aml yn cael eu gorlethu gan ddewisiadau mwy confensiynol. Mae'r casgliad hwn wedi'i gynllunio nid yn unig i ddiddanu'r daflod ond hefyd i adrodd straeon y rhanbarthau, y gwneuthurwyr gwin, a'r traddodiadau y tu ôl i bob label.

Yr hyn sy'n gosod yr ystod Found ar wahân yw ei hymroddiad i ragoriaeth ac i hygyrchedd. Dewisir y gwiniau am eu hansawdd eithriadol a'u gwerth, gan eu gwneud yn ddewis delfrydol i'r sawl sydd yn chwilfrydig ac i'r 'connoisseur' craff fel ei gilydd. P'un a yw'n Assyrtiko ffres ac aromatig o Santorini neu Negroamaro dewr a sbeislyd o Puglia, mae'r ystod Found yn cynnig tocyn i brofiadau gwin newydd a chyffrous.

Yn ei hanfod, mae ystod Found Marks & Spencer yn fwy na dim ond detholiad o winoedd: mae'n wahoddiad i gychwyn ar daith o ddarganfyddiad ac i barchu rhanbarthau a mathau gwhanol o rawinwin. Mae'n annog yfwyr gwin i gamu allan o'u dewisiadau areferol a chysurus ac i geisio mwynhau cyfoeth yr amrywiaeth sydd gan fyd y gwin i'w gynnig. 

Drwy ddod â'r trysorau cudd hyn i'r amlwg, mae M&S yn parhau i gadarnhau ei enw da fel cyflenwr gwinoedd cain sy'n dathlu traddodiad ac arloesedd. M&S yw enillydd y wobr am yr archfarchnad sy'n gwerthu gwin gorau yr IWSC am 2024, mae'r safon ar draws yr holl ddewis yn uchel, yn gystadleuol o ran pris, yn ogystal a bod yn hygyrch ac yn cynnig gwerth am arian gyda 80% o'i gwinoedd ar werth am £10 neu lai. 

Sesiwn Blasu Gwinoedd Marks & Spencer

Mi fum yn ffodus i gael gwahoddiad gan M&S i fynychu ei sesiwn blasu gwinoedd am yr haf yn ei pencadlys yn Llundain. O'r amrywiaeth gwinoedd oedd i'w blasu, rwy'n canolbwyntio ar winoedd y gyfres 'Found' yma, gan nodi rhai o'r ffefrynnau a'r rhai dylid ei hystyried wrth ymweld ag M&S  sydd yn cynnig gwerth gwych am arian. Gan mai ysbeidiol yw'r gwinoedd yma, does dim gwarant bydd rhain ar gael ym mhob cangen o M&S, felly cadwch olwg am rhain wrth i stoc gael ei ail-gyflenwi. 

M&S Found - Verdil, Sbaen - £9.00

Blwyddyn: 2023
Lliw: Oren
Gwlad: Sbaen
Rhanbarth: Valencia
Melysrwydd: Sych
Cau: Sgriwcap
Alcohol: 12.00%
Corff: Canolig
Grawnwin: 100% Verdil

Ymddangosiad: Yn y gwydr, mae'r Found Organic Verdil 2023 gan Marks & Spencer yn disgleirio gyda lliw oren-euraidd syfrdanol, sy'n dyst i'w amser eplesu ar groen y grawnwin hynod yma. Mae'n ddeniadol ac yn weledol drawiadol sy'n dechrau taith synhwyrus sy'n datgelu gem gudd grawnwin Verdil.

Arogl: Ar y trwyn, mae arogleuon byw o groen oren a lemwn yn cymysgu gydag awgrym hynod o 'quince', gan baratoi'r daflod am brofiad blasu cymhleth ac atyniadol. 

Blasau: Wrth gymryd y diferyn cyntaf, mae'r daflod yn cael ei chyfarch gyda chymysgedd o flasau sitrws, lle mae bywiogrwydd zest oren a lemwn yn cydblethu gydag is-donau melys cynnil gellyg.Mae'r gwead y gwin hwn yn arbennig o nodweddiadol. Mae yma asidedd hyfryd a phwysau corff canolig sy'n adfywiol a boddhaus. Mae pob sip yn datgelu haenau o flasau nodweddiadol o'r ardal yma o Sbaen, wedi'u cefnogi gan gafael ffenolaidd ysgafn sy'n ychwanegu dyfnder heb orchfygu'r nodau ffrwythau cain.

Un o nodweddion mwyaf nodedig y Found Organic Verdil yw ei orffeniad hynod sy'n cynnwys blasau sawrus o'r môr. Mae'r naws hallt hon yn gwella'r profiad o yfed y gwin, gan ei wneud yn hynod atyniadol. Mae'n orffeniad sy'n eich galw yn ôl am ddiferyn arall, yn berffaith ar gyfer y prynhawniau hamddenol yn mwynhau yn yr heulwen.

Mae'r cydbwysedd rhwng y blasaua a'r asidedd yma'n rhyfeddol. Er gwaethaf ei ABV o 12%, mae'n win sy'n llawn personoliaeth a chymhlethdod. Mae'r asidedd wedi'i osod yn berffaith, gan ychwanegu elfen fywiog sy'n cadw'r gwin yn adfywiol ac yn llawn mynegiant. Mae'r melysrwydd cynnil a'r gwead ffenolaidd yn cydbwyso'n gyson, gan ddarparu profiad blasu crwn a chyflawn.

Mae Marks & Spencer wedi darganfod gwin hynod unigryw a chytbwys gyda'r gwin hwn. Mae'r Found Organic Verdil 2023 yn enghraifft drawiadol o'r hyn y gall grawnwin Verdil ei gynnig, ac mae'n sefyll allan fel un o'r gwinoedd oren gorau rwyf wedi cael y pleser i'w flasu. Mae ei ymddangosiad eithriadol, gydag arlliw oren ysgafn, a'r cydbwysedd hyfryd o flasau yn ei wneud yn werth arbennig.  Mae'r gwin hwn yn siŵr o greu argraff gyda'i swyn a'i gymeriad unigryw ac werth ei flasu am y pris yma.

Marks & Spencer, Found Agiorgitiko, Nemea, Peloponnesus, Gwlad Groeg 2021 - £9.00

Blwyddyn: 2021
Lliw: Coch
Gwlad: Groeg
Rhanbarth: Nemea, Peloponnesus
Melysrwydd: Sych
Cau: Sgriwcap
Alcohol: 13.5%
Corff: Ysgafn i Ganolig
Grawnwin: 100% Agiorgitiko

O'r gwinllannoedd enwog yn Nemea yng Ngwlad Groeg ac wedi ei gynhyrchu yn arbennig i M & S mewn cydweithrediad â'r gwindy enwog Semeli, mae'r Found Agiorgitiko 2021 Marks & Spencer yn cynnig cyfle i ddianc i fyd cyfoethog traddodiadol gwin Groegaidd. 

Mae'r gwin hwn yn agor gyda phersawr sy'n swyno'r synhwyrau ar unwaith, gan ddangos cyfuniad o ffrwythau coedwig ddu ffres, cofnodion duon suddlon, a phrŵns blasus. Mae awgrym cynnil o leicrys yn gweu trwy'r proffil aromatig, gan ychwanegu cymhlethdod a swyn.

Ar y daflod, mae'r Agiorgitiko hwn yn ddatguddiad o flasau ffrwythau tywyll aeddfed – meddyliwch cofnodion duon, prŵns, a chyffyrddiad o siocled tywyll sy'n rhoi cyfoeth melfedaidd. Mae'r tanninau'n hynod o feddal ac wedi'u hintegreiddio'n dda, gan gyfrannu at natur y gwin sy'n hawdd ei yfed ac yn hygyrch. Mae ei gymeriad ffrwythus, llawn sudd yn ei wneud yn gydymaith rhagorol ar gyfer amrywiaeth o seigiau, o gigau wedi'u grilio i fwsaka Groegaidd clasurol.

Mae'r gwin yma o gynhaeaf 2021 yn dyst i sgil gwneuthurwyr gwin M&S a'u partneriaeth â Semeli, gan gyflwyno gwin sydd yn  hynod o hoffus ac yn gytbwys iawn. Mae'n ymgorffori hanfod Agiorgitiko, gan gynnig cyflwyniad bywiog ac hygyrch i swyn gwin coch Groegaidd.

Mae'r ystod Found Marks & Spencer yn parhau i greu argraff gyda'i hymrwymiad i arddangos amrywiaethau a rhanbarthau llai adnabyddus, ac nid yw'r Agiorgitiko hwn yn eithriad. 

Am werth gwych, mae'n gwahodd y gwin garwyr brwdfrydig a phrofiadol yn ogystal a'r rhai sy'n chwilfrydig am winoedd a grawnwin newydd i ddarganfod byd amrywiol a hyfryd gwin Groegaidd.

M&S Found Vinho Verde Rhosliw, Portiwgal, 2023 - £8.00

Wrth i chi gamu i fyd bywiog M&S Found Vinho Verde, daw traddodiad ynghyd â thechnegau creu gwin modern o fewn y rhosliw yma.  Dychmygwch ardd hâf yng ngogledd Portugal, lle mae Quinta das Arcas, gwinllan deuluol sydd wedi'i leoli rhwng afonydd y Douro a'r Minho, yn creu rhoslwi mor swynol ag y mae'n fywiog.

Yn y gwydr, mae'r Vinho Verde rhosliw hwn yn dangos ei hun mewn lliw pinc blasus, gan awgrymu'r profiad bywiog sydd i ddod. Wrth agor y potel, byddwch yn canfod arogl gyffrous o mwyar logan ('loganberry'), yn eich denu gyda'r addewid o ginio ar y traeth a digonedd o haul. 

Beth sy'n gwneud y gwin rhosliw yma yn arbennig? Mae'n gymysgedd o 65% Touriga Nacional a 35% Espadeiro, grawnwin a adnabyddir am gynhyrchu gwinoedd Port. Mae Touriga Nacional yn dod â dyfnder ac atyniad, tra bod Espadeiro yn ychwanegu nodyn ffrwythig hoffus i'r cyfuniad yma. 

O ran paru bwyd, ma'r cynhyrchwyr, Fernando Machado a Henrique Lopes yn awgrymu mwynhau'r rhosliw yma gyda phaella pysgod. Dychmygwch y blasau'n cyd-wedddu - melysder y llysiau a'r elfen sawrus o'r pysgod, sy'n gyfuniad perffaith gyda'r gwin yma. Byddai saladau ysgafn, cyw-iâr wedi ei rostio neu fwyd y môr yn gyfuniad gwych gyda'r gwin yma yn ogystal. 

Ond sut gall gwin a elwir yn 'verde' fod yn pinc? Er adnabyddir Vinho Verde fel gwin gwyrdd, nid yw'n ymwneud â lliw ond â dull cynhyrchu'r gwin - sef gwin ffres, ifanc - sy'n ymgorffori ysbryd gogledd Portugal. Arbrofi gyda gwinoedd coch yn y dull o greu gwin gwyn cyffelyb sydd wedi digwydd yma, ac mae'n arddull sy'n fwyfwy poblogaidd ac yn ddelfrydol ar gyfer yr hâf gyda'i 11% o alcohol. 

Felly, yr haf hwn, pan fyddwch yn chwilio am win sy'n cynnig amrywiaeth o flasau megis sudd gellyg, grapeffrwyth pinc, a melysion mae'r M&S Found Vinho Verde rhosliw yma yn cynnig cyfle i arbrofi a blasu gwin ysgafn, ond llawn afiaith. Mae'n win gwych i'w yfed ar ben ei hun, gyda prydau ysgafn ac am y pris yma, yn dangos bod gwerth gwirioneddol mewn gwinoedd o Bortiwgal.

M&S Found Arinto, Portiwgal, 2022 - £8.00

Ymddangosiad: Disglair ac yn glir gyda lliw lemwn golau, yn awgrymu ei fywiogrwydd ifanc.

Arogl: Mae'r aroglau cntaf yn agor gyda pheraroglau cain o flodau gwyn a phroffil sitrws amlwg wedi'i ddominyddu gan leim a lemwn ffres. Ceir hefyd arogl sawrus ac ychydig yn hallt sy'n atgoffa o awel y môr, wedi'i ategu gan nodiadau cynnil o fêl a sbeis golau.

Blas: Ar y daflod, mae'r Arinto hwn yn datgelu ei natur sych a'i asidedd uchel, gan gyflenwi ffresni sy'n dŵrhau'r ceg. Mae'r asidedd ddaw o'r blasau sy'n tebygu i cyrd lemon (lemon curd) yn rhoi gwead cyfoethog a dyfnder, wedi'i gydbwyso gan y mwynoldeb fflintaidd sy'n cadw'r gwin yn finiog ac yn fywiog. Mae'r ymyl hally a sawrus yn ychwanegu cymhlethdod a chymeriad nodedig, gan ein hatgoffa o awelon môr yr Iwerydd oer o’i darddiad yn Lisbon, sef yr ardal lle tyfir y grawnwin ar gyfer y gwin yma. 

Diweddglo: Mae'r diwedd yn hir ac yn afieithus, gyda blasau sitrws parhaol a nodyn sawrus a hallt adfywiol sy'n gwahodd cymryd diferyn arall.

Casgliadau: 

Mae M&S Found Arinto 2022 yn enghraifft wych o'r math yma o rawnwin a dyfir ym Mhortiwgal sydd yn amlach na pheidio heb ei werthfawrogi. Mae ei asidedd bywiog a'i nodiadau mwynol cymhleth yn ei wneud yn ddewis amgen i Picpoul de Pinet neu Muscadet. Mae'r gwin hwn nid yn unig yn aperitif boddhaol iawn ond hefyd yn paru'n wych â physgod brasterog ac apératifs ysgafn. Byddai pryd o bysgod a sglodion ffress yn ddelfrydol gyda'r gwin yma, gan dorri drwy'r elfennau seimllyd, a chynnig blasau adfywiol sy'n gweddu i'r cynhywsion. 

Gyda 12.5% ABV ac am werth nodedig o £8, mae'n werth rhoi cynnig arno i unrhyw un sy'n frwdfrydig am win ac yn chwilio am rywbeth newydd ac adfywiol, ond sydd ddim am dorri'r banc wrth arbrofi. 

M&S Found Saperavi o Kakheti, Georgia - £10.00

Edrychiad: Ceir lliw dwfn, hudol cochlas yn llifo i’r gwydr, gan addo’r blasau beiddgar o Saperavi gwerthfawr Georgia.

Arogl: Mae’r gwin hwn yn daith synhwyraidd drwy berllan yn Georgia yn hwyr yn nhymor yr hydref. Yr aroglau cyntaf yw aroglau ffrwythau tywyll, aeddfed - mwyar duon, ceirios, ac eirin dansus (damson) - wedi’u hamgylchynu gan sbeis hudolus cassis a mymryn o fwg. Wrth iddo agor, mae nodau  daearol a mymryn o ledr a thybaco yn ychwanegu cymhlethdod fel noson glyd wrth y tân.

Blas: Mae’r diferyn cyntaf yn brofiad unigryw! Mae blasau ffrwythau eirin ac eirin dansus n yn dominyddu, gydag asidedd bywiog sy’n cadw’r gwin yn ffres a bywiog. Mae’r tanninau yn gadarn ond yn gyfeillgar, yn berffaith ar gyfer paru â phrydau cadarn a chigoedd wedi'i rhostio. Mae tapestri o flasau yn datblygu gyda pob diferyn: ceirios a mwyar duon yn cwrdd â ffrwythau duon, tra bod y manylion o licrys, siocled, a choffi yn ymddangos yn swynol yn y cefndir. Mae'n win pwerus, ond cain, fyddai'n ddelfrydol gyda barbeciw, cigoedd rhost neu brydiau llysieuol sy'n cynnwys madarch ac sy'n llawn blas. 

Gorffeniad: Mae’r gorffeniad yn hir ac yn foddhaol, gyda’r nodau o'r mefus mwyaf cyfoethog a llyfn yn aros yn hyfryd, wedi’u cwblhau ganelfennau mwynol sy’n adlewyrchu’r pridd calchfaen o Kakheti yn Georgia.

Paru

Cig ar y Barbeciw: Mae cymeriad beiddgar, ffrwythlon Saperavi yn cyd-fynd yn wych â’r cig wedi’i goginio dros tân, gan greu profiad a chyfuniad perffaith rhwng y bwyd a'r gwin. 

Prydau Madarch: Mae blasau daearol madarch yn cael eu dyrchafu gan sylfeini daearol y gwin ei hun, gan greu cyfuniad perffaith.

Cawsiau: Mae cawsiau cyfoethog yn cyfuno’n wych gyda tanninau strwythuredig Saperavi, gan wella’r gwin a’r caws.

Casgliadau

Mae’r Saperavi yma yn win hynod drawiadol ac yn ddewis amgen i win megis Malbec neu Cabernet Sauvignon. Mae ei bris yn hynod gystadleuol am ddim ond £10 y botel yn wych, ac yn gyfle i arbrofi gyda gwinoedd gwahanol. Mae'n cynnig proffil llawn blasau mwyar duon llyfn sy’n sicr o godi unrhyw pryd bwyd neu ddiodydd gyda ffrindiau sy'n hoff o win llawn cymeriad a chadernid. 

Mae Georgia, gyda’i hanes hi o gynhyrchu gwinoedd sy’n dyddio’n ôl i 6,000 CC, wedi rhoi i ni win sydd yn hynafol yn ei arddull ac yn hollol fodern yn ei apêl. 

I mi, dyma un o'r bargeinion gorau yn M&S ar hyn o bryd, gan gynnig profiad gwych a gwin sy'n hynod foethus ac yn ddewis amgen i'r gwinoedd traddodiadol sydd fel arfer yn cael eu prynu mewn archfarchnadoedd. 

M&S Found Susumaniello Rosé, Yr Eidal 2023 - £9.00

Blwyddyn: 2023
Lliw: Rhosliw
Gwlad: Yr Eidal
Rhanbarth: Apulia
Melysrwydd: Ffrwythus a melys
Cau: Sgriwcap
Alcohol: 12.5%
Corff: Ysgafn i Ganolig
Grawnwin: 100% Susumaniello

Edrychiad: Yn y gwydr, mae'r rosé hwn yn cyflwyno lliw efydd ysgafn, yn debyg i fachlud haul Môr y Canoldir. Mae ei eglurder a'i ddisgleirdeb yn cynnig gwahoddiad deniadol i archwilio ymhellach.

Trwyn: Mae'r proffil aromatig yn dyner ond yn swynol. Mae'n agor gyda cymysgedd persawrus o aeron coch sbeislyd - meddyliwch am fafon ffres a mefus gwyllt - wedi'u gweu gyda nodyn blodau cynnil sy'n atgoffa am arogl blodau gwyllt yn blodeuo ar ddiwrnod cynnes o hâf. Mae arogl nodedig o oren gwaed ('blood orange') suddlon yn ychwanegu tro citrws adfywiol wrth ei arogli. 

Taflod: Ar y daflod, mae'r Susumaniello Rosé hwn yn ddawns gywrain o flasau. Mae'n ysgafn ac yn adfywiol, ond yn llawn chwaeth, gan gydbwyso ei natur dyner gyda phersonoliaeth fywiog. Mae'r aeron coch sbeislyd yn parhau i ddisgleirio, gan ddarparu  egrwch hyfryd sy'n cael ei feddalu gan felyster yr oren gwaed. Mae'r ffresni sitrws yma yn cael ei ategu gan arlliw o flodau gwyllt, sy'n ychwanegu haen o gymhlethdod a soffistigeiddrwydd.

Gorffeniad: Mae'r gorffeniad yn ffres ac yn adfywiol, gan adael argraff barhaus o sitrws suddlon ac awgrym o flodau'r maes. 

Paru Bwyd: Mae'r rhosliw hwn yn bartner da i amryw o brydau ysgafn a ffres. Mae'n paru'n hyfryd gyda mozzarella a thomatos ffres, gan amlygu hufenedd y caws a melyster y tomato. Mae hefyd yn wych gydag ystod o 'antipasti' ysgafn, gan ei wneud yn ddewis perffaith ar gyfer awr aperitivo achlysurol ond soffistigedig.

Argraff Gyffredinol

Mae M&S Found Susumaniello Rosé 2023 yn esiampl hyfryd o math rawnwin aeth allan o ffasiwn ond sy'n ail-ymddangos mewn rhosliw fel yma.  Mae'n win sy'n cynnig gwerth rhagorol ac yn win o ansawdd uchel fydd yn sicr o roi profiad blasu unigryw. P'un a ydych chi'n newydd i Susumaniello neu beidio, mae'r rhosliw hwn yn sicr o swyno gyda'i gymeriad cain ac adfywiol a'i flasau cytûn.

©Hawlfraint Gwin a Mwy. Cedwir Pob Hawl.

We need your consent to load the translations

We use a third-party service to translate the website content that may collect data about your activity. Please review the details in the privacy policy and accept the service to view the translations.