‘Dia Mundial del Malbec’ 

Diwrnod Rhyngwladol Malbec 

Nodwch eich dyddiaduron - Mae Ebrill 17eg rownd y gornel, a bydd y rhai sy'n hoff o win yn codi gwydraid i ddathlu Diwrnod Malbec y Byd ar y diwrnod yma. Mae'r gwin coch beiddgar, ffrwythus hwn wedi cynyddu mewn poblogrwydd yn aruthrol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond mae ei hanes diddorol yn ymestyn yn ôl canrifoedd. Dewch i ddeall mwy am Malbec, gan ystyried ei nodweddion, ffeithiau diddorol, ac argymhellion i baru Malbec gyda bwyd blasus i wneud Diwrnod Malbec y Byd sydd hyd yn oed yn fwy arbennig!

Beth yw Malbec?

Mae Malbec, brenin gwin coch yr Ariannin, wedi ffrwydro mewn poblogrwydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ond mae gan y gwin ffrwythus hwn hanes hynod ddiddorol sy'n mynd y tu hwnt i'w enwogrwydd presennol.

Grawnwin gyda Dau Gartref

Efallai bod Malbec i nifer yn gyfystyr â'r Ariannin erbyn hyn, ond mewn gwirionedd mae'n tarddu o ardal Cahors yn Ne Orllewin Ffrainc. Yno, fe'i gelwir yn ‘Cot’ neu ‘Auxerrois’ ac fe'i defnyddir i wneud gwinoedd cadarn, priddlyd gyda mymryn o sbeis. Mae’r ardal yma rhyw 160km i’r Dwyrain o Bordeaux, gyda phriddoedd llawn calch ac afonydd troellog, mae’n ardal berffaith i dyfu’r math yma o rawnwin. Fodd bynnag, bu bron i aeaf caled yn y 1950au ddileu Malbec yn gyfan gwbl yn Ffrainc, gan baratoi'r ffordd ar gyfer ei esgyniad i frig gwinoedd coch gynhyrchir yn yr Ariannin.

Yn ffynnu yn yr Andes

Daeth Malbec o hyd i'w gartref perffaith yn nhalaith Mendoza yn yr Ariannin. Mae'r gwinllannoedd uchder uchel yma gyda golau haul dwys ac awelon oer yr Andes yn caniatáu i'r grawnwin aeddfedu'n llawn, gan ddatblygu blasau ffrwythau dwys a lliw porffor dwfn. Mae'r dyddiau cynnes a'r nosweithiau oer yn helpu i gadw asidedd y grawnwin, gan greu cydbwysedd perffaith yn y gwin terfynol. Dyma un o brif rinweddau llwyddiant Malbec yn ardal Mendoza, a dyma le ceir rhai o’r gwinoedd a’r gwinllannoedd Malbec gorau. Mae gwin Malbec o’r Ariannin yn win beiddgar, dwys ac yn cynnig amrywiaeth eang o flasau ac aroglau, gan ddibynnu ar y dirwedd, y cyfnod aeddfedu a hyd yn oed lleoliad y winllan sy’n creu blasau unigryw. Ceir blasau eirin aeddfed, sbeis a hyd yn oed cocoa i’r gwinoedd yma.

‘Dia Mundial del Malbec’

Cymaint yw dylanwad y grawnwin ar ddiwylliant a chymdeithas yn Ariannin fel bod diwrnod wedi ei neilltuo fel Diwrnod Malbec - yr 17eg o Ebrill - sy’n gyfle i ddathlu cais yr Arlywydd Domingo Faustino Sarmiento am fath Newydd o rawnwin i’w blannu yn y wlad o Ffrainc. Yn Sbaeneg, dynodir y diwrnod yn ‘Dia Mundial del Malbec’ sef ‘Malbec ar draws y byd’. Yn wir, mae Malbec bellach yn un o’r prif fathau o rawnwin a dyfir mewn gwinllannoedd o Ddyffryn Napa yn Califfornia, ardal Stellenbosch yn Ne Affrig i Ddyffryn Maipo yn Chile. Ceir hefyd gwinoedd rhosliw o’r grawnwin yma sydd yn cynyddu mewn poblogrwydd ar draws y byd. Mae Malbec felly yn win a welir ar draws y byd erbyn hyn.

Gwledd i'r Synhwyrau

Mae Malbec yn adnabyddus am ei liw porffor a'i flasau beiddgar. Disgwyliwch blasau o ffrwythau tywyll ar y daflod, gyda nodiadau o fwyar duon, eirin, a cheirios du. Yn dibynnu ar y rhanbarth a heneiddio’r gwinoedd yma,  efallai y byddwch hefyd yn dod o hyd i awgrymiadau o fioledau, pupur, fanila, a sbeis pobi. Fel arfer mae tannin Malbec yn feddal ac yn grwn, sy'n ei wneud yn win hawdd iawn i’w yfed ac yn gymar perffaith i amrywiaeth health o fwyd.

Ffeithiau diddorol:

  • Mae Malbec yn un o'r ychydig rawnwin gwin coch sydd ag asidedd naturiol uchel, gan ei wneud yn ddewis gwych i lysieuwyr gan y gall wrthsefyll prydau heb gig.
  • Mae'r Ariannin yn dathlu "Diwrnod Malbec" ar yr 17eg o Ebrill bob blwyddyn.
  • Er gwaethaf ei liw tywyll, nid yw Malbec mor uchel mewn tanin â gwinoedd coch eraill megis Cabernet Sauvignon.
  • Dylid gweini gwin Malbec rhwng 15 - 20 gradd selsiws;
  • Yn ddelfrydol, dylid ei ardywallt (decant) am o leiaf 30 - 60 munud cyn ei weini, er mwyn i’r blasau ffrwythus agor fyny a gwir ddyfnder ffrwythus y gwin gael ei flasu;
  • Gall Malbec fforddiadwy aeddfedu mewn casgenni derw am gyfnod byr - rhwng 4-6 mis, tra bod Malbec’s gynhyrchir i’w cadw yn hytrach na’i yfed yn syth gael ei haeddfedu am gymaint â 18-20 mis mewn casgenni derw.
  • Daw’r enghreifftiau gorau o winoedd Malbec o winllannoedd yn ardal Lujan de Cuyo a Dyffryn Uco yn Mendoza. Mae’r gwinoedd yma yn fwy beiddgar, yn llawn blasau ffrwythau tywyll megis mwyar duon ac wrth aeddfedu yn datblygu blasau siocled/mocha a llysiau duon bach.

Paru Bwyd ar gyfer Pob Achlysur

Mae hyblygrwydd Malbec yn ei wneud yn win gwych i baru gyda bwyd o bob math. Dyma rai argymhellion am fwydydd fyddai’n gymar perffaith gyda gwydraid o Malbec:

  • Cigoedd wedi'u grilio: Mae blasau ffrwythau beiddgar a thanin meddal Malbec yn ategu stêcs, byrgyrs a selsig wedi'u grilio'n hyfryd. 
  • Stiwiau a Chaserolau: Mae stiwiau cyfoethog a chalon yn dod o hyd i bartner perffaith ym Malbec. Mae asidedd y gwin yn torri trwy'r arddull gyfoethog welir mewn caserol moethus, tra bod blasau'r ffrwythau yn gwella'r nodau sawrus o fewn y rysáit.
  • Cawsiau Beiddgar: Gall caws glas a Cheddar sydd wedi ei aeddfedu ymdopi â phersonoliaeth feiddgar Malbec. Mae tannin y gwin yn gymorth i lanhau'r daflod ar ôl pob brathiad o’r caws hufennog.

 Ble arall tyfir  Malbec?

Tra bod yr Ariannin yn teyrnasu fel y wlad sydd a’r nifer mwyaf o winllannoedd yn tyfu Malbec, tyfir y grawnwin yma mewn rhanbarthau a gwledydd eraill megis Chile, Talaith Washington, ac Awstralia. Yn ogystal, mae Malbec yn un o’r grawnwin a ganiateir mewn gwinoedd o ardal Bordeaux yn Ffrainc. Mae pob rhanbarth yn cynnig gogwydd unigryw ar y grawnwin, felly gall blasu esiamplau gwahanol o Malbec fod yn antur hwyliog i unrhyw un sy'n hoff o win, ac yn gyfle i arbrofi gyda’r grawnwin yma.

 

Argymhellion Malbec Gwin a Mwy

Buenas Vides, ‘Specially Selected’ Malbec Organig, Mendoza, Yr Ariannin 2023 - Aldi - £7.49

Mae dau fath o Malbec ar werth ar hyn o bryd yn Aldi - un gyda label glas a’r un yma, sef y fersiwn organig gyda’r label gwyrdd. Wedi blasu’r ddau win yma gyda’i gilydd mewn digwyddiad diweddar gyda Aldi, roedd yn amlwg bod y fersiwn Organig yn rhagori.

Yn ein barn ni, mae'n werth gwario'r £1 ychwanegol ar hwn dros y fersiwn label glas 'safonol' o Malbec Aldi. Mae'n win tipyn gwell mewn  safon am ond ychydig yn fwy. Mae aroglau ffrwythus y mwyar duon yn arwain at daflod lyfn, gyda blasau eirin tywyll, mwyar duon a nodau o berlysiau yn dynodi gwin ifanc. Nid yw'n win cymhleth, ond mae haelioni ffrwythus y gwin yn enghraifft dda o’r nodweddion mae pobl sy’n mwynhau Malbec yn chwilio amdano. Yn llawn haenau blasus, mae’n win delfrydol gyda ryseitiau cyfoethog neu gyda phrydiau megis prydiau pasta Bolognese, lasagne neu gyda stêc.

Dyma win sy’n dangos gwerth am arian, gan gynnig profiad gwych o ansawdd uchel am bris hynod o gystadleuol.

Domaine Bousquet, Gaia Organic Malbec, Uco Valley - Siop ‘Cheers’ Y Mwmbwls a West Cross Abertawe - www.cheerswinemerchants.co.uk neu ar gael yn Waitrose, www.haywines.co.uk  Chilled & Tannin, Caerdydd -www.chilledantannin.com  - Amrywio o £13.95.

Dyma win ddaw o stabl un o gynhyrchwyr gwinoedd organig gorau ac uchaf eu parch yn Ariannin. Ceir amrywiaeth o winoedd gan y cynhyrchwr, o winoedd sy’n rhatach ond yn dangos nodau sawrus a blasus i rai o winoedd gorau’r Ariannin. Gyda gwinllannoedd ar draws Mendoza a Dyffryn Uco, mae’r newid yn y dirwedd a’r uchder yn cael ei amlygu o fewn yr amrywiaeth o win a gynhyrchir.

 Mae Malbec o winllannoedd organig uchder uchel fel yr un yma o ardal Gualtallary yn Nyffryn Uco yn cael ei gynaeafu â llaw a'i aeddfedu mewn casgenni derw Ffrengig am wyth mis. Ceir arogleuon sbeislyd cynnes o lus, cyrens duon a mafon yn ogystal â cheirios du gydag ychydig o aroglau mwg a lledr sy’n dynodi aeddfedrwydd y gwin. Yn dilyn cyfnod wedi ei ardywallt, mae’n win sy’n agor fyny i ddangos taflod gytbwys, gyda thanin crwn, melfedaidd, ffrwythau du a sbeis a geir mewn licris gydag ychydig o sbeis seren anis - yn ogystal â pherlysiau sych wedi'u taenellu ar y gorffeniad.

 Yn win ffres, ffrwythus a chymhleth, mae’n ddelfrydol ar gyfer stêc neu ddarn o gig eidion wedi ei fygu - mynnwch botel ar gyfer barbeciw dros yr haf!.

Dona Paula El Alto Malbec - Lujan de Cuyo - Waitrose - £11.99 - (pris arferol £15.99)

Gan symud i ardal arall o Ddyffryn Mendoza, Finca El Alto medd rhai arbenigwyr yw cartref brodorol grawnwin Malbec yn yr Ariannin. Gyda thua 430 hectar o winwydd plannwyd yn 1959, gydag amgylchedd a hinsawdd sych a heulog yn ystod y dydd a nosweithiau oer, mae’r tywydd a'r hinsawdd yn berffaith i dyfu grawnwin yn yr ardal yma. Mae hyn yn golygu bod unrhyw winoedd o’r ardal yn rhai o ansawdd a safon eithriadol o uchel. Dyma ardal sydd wedi cynhyrchu rhai o winoedd gorau’r Ariannin ac mae cenhedlaeth newydd o gynhyrchwyr yn barod i arbrofi a mentro wrth ddatblygu ar winoedd y gorffennol.

Dyma win sydd yn llawn aroglau a blasau ffrwythus nodweddiadol o rawnwin Malbec. Ceir aroglau o ffrwythau coch, llus yn ogystal â pherlysiau ac ychydig o sbeis. Mae’r blasau o’r broses aeddfedu yn mewn casgenni derw yn gynnil a thanin sy’n amlwg ond heb fod yn or-bwerus sy’n rhoi ffresni i’r gwin. Er nad yn win arbrofol a Newydd, mae’n win sy’n hynod bleserus ac yn llawn afiaith. 

Am win o’r safon yma, mae’r pris gwreiddiol (£15.99 y botel) yn dangos gwerth am arian a safon uchel -  am y pris gostyngol yma, mae’n bris anhygoel ac yn werth ei brynu yn ein barn ni. 

DV Catena Malbec, Mendoza, 2021 - Sainsbury’s - £10.00 (Pris arferol £13.00)

Daw’r enghraifft yma o gynhyrchwyr gwin enwocaf Yr Ariannin, Gwinllan Catena. Nicolas Catena oedd un o arloeswyr gwreiddiol y diwydiant gwin yn yr Ariannin ac mae dyled y byd gwin yn fawr iddo am dyfu a meithrin gwinoedd o’r ansawdd uchaf yn ardal Mendoza. Gyda gwinllannoedd ar draws Mendoza, daw’r grawnwin yn y gwin yma o winwydd plannwyd yn ardal Tupungato, sydd tua 1,500 metr uwchben lefel y môr, Lunlunta sydd 920metr uwchben lefel y môr, Agrelo sydd 950metr uwchben lefel y môr a Paraje Altamira sydd 1,095metr uwchben lefel y môr.

Gyda’r gwinllannoedd yma ar lethrau’r Andes, ceir digon o haul, dwr i ddyfrhau’r gwinwydd yn naturiol, yn ogystal â phriddoedd mwynol sy’n creu gwin hynod chwaethus. Gydag aroglau cynnil o eirin, ceirios du a nodau fanila a blodau’r maes, mae’r blasau yn atgyfnerthu’r aroglau gan ddatblygu blasau mwyar duon, lledr a sbeis o’r broses eplesu ac aeddfedu. Yn win hynod grefftus ac yn gyfuniad o rawnwin ar draws y rhanbarth, mae’r cyfuniad yn berffaith ac yn siŵr o blesio. 

Dyma win ar gyfer barbeciw neu gig oen wedi ei rhostio’n araf fydd yn gweddu’n berffaith gyda’r blasau ac aroglau ffrwythus. Gwych!.

Morrisons ‘The Best’ Grand Montana Reserve Uco Valley Malbec - £11.00 (ceir gostyngiad pellach o 25% os prynir unrhyw 3 potel o winoedd ‘The Best’)

Rydym yn hoff iawn o winoedd ‘The Best’ o Morrisons yma yn Gwin a Mwy. Ceir gwinoedd o safon uchel am brisiau hynod gystadleuol o fewn y dewis yma, ac nid yw’r gwin yma yn ddim gwahanol. Unwaith eto, mae prynwyr gwin Morrisons wedi cyd-weithio gydag un o brif gynhyrchwyr yr Ariannin, sef cwmni a gwindy Zuccardi i greu gwin hynod gelfydd o Ddyffryn Uco un o brif ranbarthau gwin Mendoza a’r Ariannin. 

 Yn win dwys, llawn blas a mynegiant, mae’n dangos nodau o lus bywiog a ffrwythau mieri megis mwyar duon gyda nodau o arogl dail te. Mewn cymhariaeth gyda’r gwinoedd eraill argymhellir, mae hon yn win tipyn purach gyda ffresni digamsyniol. Mae’r lefel alcohol yn uchel, ac fe welir hyn yn amlwg wrth droi’r gwin yn y gwydr, gan adael coesau neu ddagrau hir ar y gwydr. Er y lefel uchel o alcohol, mae’n win cydnerth ond llyfn, ffrwythus ond heb fod yn or-felys a ffrwythus. Dyma esiampl wych o gynhyrchydd gwinoedd cain yn cyd-weithio gydag archfarchnad i greu gwin unigryw am bris anhygoel. 

Dyma yn wir yw un o’n hoff winoedd hyd yma yn 2024 gan ddangos cynildeb mynegiant, blasau adfywiol a gwerth anhygoel am win o’r ansawdd yma.

Casgliadau

Mae taith Malbec o rawnwin a ddefnyddir fel rhan o’r gwin cymysgir yn Ffrainc i seren fwyaf blaenllaw gwinoedd yr Ariannin yn dyst i'w hyblygrwydd a'i nodweddion fel gwim aml-bwrpas. Gyda’i flasau beiddgar, amlochredd, a hanes diddorol, mae Malbec yn siŵr o barhau i swyno yfwyr gwin am flynyddoedd i ddod. 

Felly, codwch wydr i’r grawnwin hyfryd hwn sydd wedi dod o hyd i’w wir gartref dan haul De America ar yr 17eg o Ebrill - Salud!

Am fwy o fanylion, cliciwch ar y ddolen isod i wefan Gwinoedd yr Ariannin. 

©Hawlfraint Gwin a Mwy. Cedwir Pob Hawl.

We need your consent to load the translations

We use a third-party service to translate the website content that may collect data about your activity. Please review the details in the privacy policy and accept the service to view the translations.