A hithau yn nesau at Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhondda Cynon Taf, bu Deian yn sgwrsio gyda Shan Cothi ar rhaglen Bore Cothi BBC radio Cymru am winoedd i'w hystyried o archfarchnadoedd yn ardal Pontypridd.
Ceir rhestr a lluniau o'r gwinoedd islaw, gyda dolenni at y gwinoedd ar wefannau'r archfarchnadoedd a'r cyflenwyr.
Dathlu yn yr adlen? Barbeciw ar y maes carafannau? Mae'r gwin dan sylw yn addas at unrhyw achlysur hafaidd, boed yn yr Eisteddfod neu ar wyliau.
Rhowch wybod os ydych wedi blasu'r gwinoedd yma ac i roi eich barn arnynt!
Gyda nifer helaeth o archfarchnadoedd yn ardal Pontypridd, dyma ddewis rhai o'r gwinoedd sydd werth ei hystyried o dan £10 y botel yn ogystal â chwrw di-alcohol Cymreig newydd.
Grawnwin: 60% Gros Manseng, 30% Petit Courbu, 10% Arrufiac
Rhanbarth: Gascogny, De Orllewin Ffrainc
Cynhyrchydd: Plaimont Producteurs
Alcohol: 12.5%
Addas i Figaniaid? Ydy
Ymddangosiad:
Mae’r gwin yn cyflwyno lliw euraidd golau clir gyda thonau disglair, yn awgrymu ei bersonoliaeth fywiog.
Arogl:
Mae’r arogl yn ddeniadol gan ddangos nodau o beraroglau dwys o eirinen a melon wedi aeddfedu, wedi eu hategu gan nodiadau ffrwythau trofanol o guafa a eirinen felen. Wrth i’r gwin agor, daw cymeriad o groen lemwn melys a’i gydbwysedd ysgafn yn dod i'r amlwg, gan ychwanegu haenau o gymhlethdod.
Blas:
Ar y daflod, mae’r Saint Mont Grande Cuvée 2020 yn cynnig amrywiaeth gyfoethog o flasau. Mae’r blasau cyntaf yn cael ei nodi gan gyfuniad hyfryd o groen lemwn, pinafal ac eirinen suddlon. Yn dilyn hyn ceir cymysgedd o flasau a ffrwyth megis gellyg ac eirinen felen, i gyd yn cael eu atgyfnerthu gan wead dymunol a gafael ddaw wrth eplesu croen y grawnwin Gros Manseng gyda’r sudd. Mae hyn yn ychwanegu elfen gyfoethog, dymunol i’r gwin, a rhywbeth na cheir yn aml mewn gwin gwyn fel yma. Mae'r asidedd bywiog yn darparu elfen adfywiol, gan gydbwyso’r ffrwyth a gorffeniad miniog, ond pleserus.
Gwead a Gorffeniad:
Wrth eplesu’r sudd gyda’r grawnwin Gros Manseng am hyd at wyth awr, mae hyn yn cyfrannu at wead a gafael dymunol y gwin, sydd yn ei dro yn cynnal y gorffeniad ac ychwanegu at elfen bleserus y gwin. Ceir elfen hufennog cynnil o’r broses aeddfedu ar lwydion (malolactic fermentation) am bedwar i bum mis sydd yn ychwanegu dyfnder I’r gwin, tra bod y blas hirhoedlog yn cael ei atgyfnerthu gan elfennau sbeislyd ysgafn ddaw o groen oren a yuzu ysgafn. Mae’n hynod bleserus ac am win o’r pris yma, yn hynod ddeniadol ac yn fargen!
Argraff Gyffredinol:
Mae'r gwin nodedig hwn yn arddangos tiroedd unigryw ardal Saint Mont yn Ne Orllewin Ffrainc. Mae’r gymysgedd o fathau grawnwin lleol sy’n llai adnabyddus yn cyfrannu ei gymeriad ei hun, ac yn arwain at win gyda chymhlethdod aromatig da a chydbwysedd hyfryd o ffrwyth ac asidedd.
Paru Bwyd:
Mae’r Saint Mont Grande Cuvée 2020 yn gydymaith amlbwrpas wrth y bwrdd. Fel aperitif, mae'n adfywiol ac yn groesawgar. Mae’n cyfateb yn hyfryd gyda bwyd môr a physgod, ac mae ei asidedd adfywiol yn ategu ryseitiau tomato a llysiau rhost fel pupurau coch a betys. I’r rhai sy’n hoff o gaws a gwin, mae’n cyd-fynd yn dda gyda chaws caled a hanner caled, yn enwedig y rhai o’r rhanbarth y Pyrenees fel Ossau Iraty, yn ogystal â Manchego, Comté, Parmesan, a Gouda wedi aeddfedu.
Casgliad:
Os ydych yn hoff o Sauvignon Blanc neu Albariño, mae Saint Mont Grande Cuvée 2020 yn debygol o apelio. Mae ei ffrwyth bywiog, asidedd cytbwys, a chymhlethdod cynnil yn ei wneud yn ddewis hyfryd a chofiadwy. Mae’r gwin hwn yn dal hanfod un o ranbarthau llai adnabyddus de-orllewin Ffrainc, yn dathlu eu mathau grawnwin brodorol gydag urddas a hynny am bris hynod gystadleuol.
Mae'r Marzemino Trentino 2021 yma o gyfres Taste the Difference Sainsbury's yn eich gwahodd i symffoni o flasau, yn atseinio â nodau Mozart ei hun, a wnaeth ddathlu'r grawnwin hwn yn ei opera "Don Giovanni." Wedi'i grefftio gydag angerdd a chywirdeb gan Cantina Viticoltori Trentino yn ardal Mynyddoedd y Dolomites yng Nghogledd Orllewin yr Eidal, mae’n win coch ysgafn ac hafaidd, fyddai’n gwella wrthi ei oeri cyn ei weini.
Ymddangosiad: Yn y gwydr, mae'r gwin hwn yn liw coch ysgafn a thryloyw, yn disgleirio gyda bywiogrwydd ifanc. Mae'r lliw yn unig yn awgrymu ei natur ysgafn a chwareus, ond peidiwch â chael eich twyllo - mae dyfnder a soffistirewydd o fewn y gwin.
Arogl: Mae'r arogl yn Dilyn arllwys y gwin yn gymysgedd persawrus o ffrwythau'r goedwig. Mae trwyn yn cael ei gyfarch yn syth gan geirios suddiog a mafon, gyda nodau cynnil o fioledau ffres yn ychwanegu elfen flodeuol i’r cyfuniad. Ceir hefyd ychydig o nodau sbeilsyd cefndirol sy’n awgrymu'r cymhlethdod i ddod wrth ei flasu.
Blas: Ar y daflod, mae'r Marzemino hwn yn cynnig profiad ffrwythus a ffres. Mae'r thema ffrwythau coch yn parhau gyda cheirios a mafon sur yn arwain y ffordd, ynghyd â chyfoeth llyfn eirin ffres. Ceri nodau ysgafn o sbeis gan roi dyfnder hyfryd i'r gwin am win o’r pris yma. Er ei fod yn arddull ysgafn, nid yw'n brin o gymeriad - meddyliwch amdano fel awel hâf gydag ychydig o wres. Er nad yw gwin coch yn boblogaidd yn ystod misoedd cynnes yr hâf, mae’r gwin yma yn cynnig dewis amgen, ond ysgafn sy’n llawn afiaith.
Gorffeniad: Mae'r gorffeniad yn lân ac yn adfywiol. Mae’n gadael blasau sawrus a ffres, sy’n eich cymell i yfed mwy. Mae'n win cytbwys gyda asidedd da ac heb tannin arferol a geir mewn gwinoedd coch o’r rhanbarth. Mae broffil afiaethus a’i ysgafnder yn ddelfrydol i’w roi yn yr oergell, a’i weini ychydig yn oer, rhywbeth anarferol am win coch. Mae hyn yn ychwanegu at ei ffresni a’i fwynhad, gan ddangos blasau’r ffrwythau a rei gorau.
Paru Bwyd: Mae'r gwin hwn yn gydymaith amlbwrpas wrth y bwrdd. Gweinwch ef wedi'i oeri ychydig sy’n ei wneud yn gydymaith adfywiol ar gyfer amrywiaeth o brydau bwyd. Risotto madarch yw cyfuniad clasurol, sy’n adleisio'r ffrwythau a’r elfennau unigry o diroedd y Dolomites. Byddai ryseitiau pasta hufennog, efallai carbonara, hefyd yn gyfuniad hyfryd wrth i’r asidedd dorri drwy’r cig moch a’r wyau o fewn y rysait Eidalaidd yna. Byddai pizza traddodiadol hefyd yn gyfuniad gwych, gan ddod a blasau melys y tomato i’r amlwg.
Sylwadau: Nid yw'r Marzemino Trentino 2021 yma o Sainsbury’s yn win i'r rhai sy'n chwilio am ergyd tannig, feiddgar Barolo neu flasau unigryw, coediog gwinoedd o Rioja. Yn lle hynny, mae'n win ar gyfer y rhai sy’n barod i fentro ac sy’n mwynhau gwinoedd ysgafn ond pleserus. Mae'n deyrnged i'w ardal frodorol Trentino, gan gynnig darn o swyn Eidalaidd gyda phob diferyn. Yn berffaith ar gyfer gwanwyn hwyr, sipian hâf, a hyd yn oed hydref cynnar, mae'r gwin hwn yn llyfn, yn ffrwythus, ac yn hawdd iawn ei fwynhau. Gyda 12.5% ABV, mae'n ddigon ysgafn i ymgolli heb unrhyw euogrwydd, gan ei wneud yn ddewis rhagorol ar gyfer achlysuron cymdeithasol. Ein argymhelliad ni byddai ei weini yn Dilyn cyfod yn yr oergell er mwyn dangos elfennau ffrwythus y gwin ar ei gorau.
Felly, cofleidiwch y profiad o'r Marzemino yma - meddyliwch am Mozart, machlud haul Eidalaidd cynnes, a llawenydd bwyd syml a blasus. Mae'r gwin hwn yn fwy na dim ond diod - mae'n ddarn bach o'r Dolomites mewn potel a hynny am bris hynod gystadleuol!
Ymddangosiad: Mae'r Rosso Sicilia hwn yn dangos lliwiau coch afiaethus rhuddem bywiog, gyda dyfnder canolig sy’n dangos ei natur ifanc a'i ffresni.
Arogl: Mae'r proffil aromatig yn ddeniadol, gyda nodiadau ar unwaith o gyrains duon a cheirios coch. Mae'r arogleuon ffrwythau cynradd hyn yn cael eu hategu'n hardd gan is-dôn cynnil o fanila wedi'i dostio, gan awgrymu dylanwad ychydig o dderw wrth ei aeddfedu. Mae awgrymiadau cynnil o berlysiau Môr y Canoldir ac ycyhydig o sbeisys melys yn ychwanegu cymhlethdod i'r arogl, ond sy’n hynod bleserus.
Blas: Ar y daflod, mae'r gwin hwn yn llawn corff ond yn hynod o llyfn. Mae'r blasau cyrains duon a cheirios coch o'r trwyn yn cario drwodd, gan ffrwydro gyda sudd a ffresni. Mae'r blasau canolradd yn cael ei gyfoethogi gan gyfuniad o 80% Nero d’Avola ac 20% o Merlot sy’n gweddu’n hynod bleserus gyda’r blasau o fanila wedi'i dostio. Mae hyny yn ychwanegu gwead hufennog a dyfnder i’r gwin, ond heb fod yn ormodol felys. Mae'r tanninau yn fân ac wedi ei cymsgu’n ddao fewn y gwin sydd yn ei dro yn rhoi gwead melfedaidd ac yn gwella llyfnder cyffredinol y gwin. Mae'r asidedd yn llachar ac yn gytbwys, gan sicrhau gorffeniad bywiog a ffres.
Gorffeniad: Mae'r gorffeniad yn hir a phleserus, gyda'r blasau ffrwythau tywyll yn parhau ochr yn ochr â sbeis ysgafn ac ychydig o fwynoldeb. Mae cydbwysedd pleserus rhwng melysrwydd y ffrwythau aeddfed ac awgrym sawrus ddaw o ddylanwad aeddfedu mewn derw.
Paru Bwyd: Mae'r gwin yma o Sicily yn un amryddawn ac aml-bwrpas wrth weini gyda bwyd. Mae’n gyfuniad perffaith ar gyfer amrywiaeth o brydau Môr y Canoldir, megis pizza, yn enwedig pizza gydag elfennau o sbeis, megis pizza gyda nduja neu sobrassada lle mae’r elfennau ffrwythus y gwin a sbeis y pizza ategu at flasau'r Nduja. Mae hefyd yn ardderchog gyda phasta tomato rhost, gan fod ei asidedd a'i wead llyfn yn cydweithio â asidedd a melysrwydd naturiol y tomato. Byddai hefyd yn gyfuniad perffaith gyda pob math o gig rhost neu gig neu lysiau wedi ei grilio ar farbeciw. Os am brofiad ychwanegol o ffresni ac amlygu’r elfennau ffrwythus, ystyriwch gweini'r gwin hwn wedi ei oeri o flaen llaw.
Casgliad: Mae gwin yma o Morrisons yn fynegiant hyfryd o arddull gwin o Sicily, gan arddangos mathau grawnwin brodorol y rhanbarth a'r cydweithrediad medrus gyda'r gwinwr Federico Stella. Mae'n cynnig gwerth rhagorol am y pris ac yn gweddu’n dda gyda amrywiaeth eang o fwydydd ac achlysuron. Mae’n win hynod, llawn corff ond sydd hefyd yn llyfn ac yn dal hanfod diwylliant unigryw gwin o’r ynys ar waelod tir mawr yr Eidal. Os ydych am win aml-bwrpas i’w fwynhau gyda phryd bwyd neu ar ei ben ei hun, mae'n siŵr y bydd y gwin hwn yn plesio gyda'i flasau ffrwythus bywiog, ei wead llyfn, a'i gymhlethdod cynnil, ac yn gymar delfrydol i’w rannu wrth i’r haul wawrio ar y Brifwyl!
Pris: £9.49
ABV: 12.5%
Rhanbarth: Dyffryn Loire, Ffrainc
Amrywiaeth Grawnwin: Cabernet Franc
Ymddangosiad:
Os am win sy’n edrych fel machlud yr haul ar ddiwrnod braf, yna dyma’r gwin i chi. Mae’r lliwiau meddal rhosliw’r gwin a’r swigod mân yn dawnsio'n addurnol yn awgrymu'r eiddilwch sydd i ddod.
Arogl:
Cynnil ac atyniadol, mae'r arogli'n agor gyda swyn persawrus y Cabernet Franc â persawr mafon a mefus ffres. Mae’r nodiadau cynnil o fefus ffres a blodau’r llwyn yn cydblethu sy’n creu arogl sy’n ddeniadol ac ysgafn.
Blas:
Ar y daflod, mae'r Crémant de Loire Rosé hwn yn datgelu elfennau cain y grawnwin gyda’r ffrwythau hafaidd coch yn amlwg. Mae’n feddal, adfywiol ac yn hynod ddeniadol ar y daflod, gydag asideedd cytbwys, bywiog. Ceir blasau gwsberis coch a briallu, wedi'u cydbwyso'n berffaith gan ffrwythau coch cynnil sy’n hynod apelgar. Mae'r asidedd yn fywiog gan gynnig ffresni sy'n berffaith fel aperitif neu ddathliad bach.
Gorffeniad:
Mae'r gorffeniad yn sych ac yn hir, gyda blasau bisged neu furum sy'n nodweddiadol o win a gynhyrchir drwy ddefnyddio’r dull traddodiadol fel fel a ddefnyddir yn ardal Champagne. Yn wir, mae’r arogl a’r blas yn ymdebygu i siampen, ond am bris tipyn llai. Mae'n gadael argraff barhaol o asidedd grawnffrwyth gyda gwead hufennog, pleserus. Potel i ddathlu llwyddiant Eisteddfodol neu anrhydedd yn sicr!
Argraff Gyffredinol:
Mae'r Crémant de Loire Rosé hwn yn ddewis rhagorol fel dewis amgen i Siampen traddodiadol, gan arddangos arbenigedd Dyffryn Loire mewn gwinoedd pefriog a gynhyrchir gan ddefnyddio’r dull traddodiadol o eplesu gwin cyffredin ac yna mewn potel. Mae ei asidedd cytbwys, ffrwythau coch cynnil, a gorffeniad bywiog ac adfywiol yn ei wneud yn ddewis hyfryd ar gyfer unrhyw achlysur neu ddathliad. Am y pris, mae’n hynod o grefftus ac yn dangos bod modd prynu gwinoedd o safon am brisiau cystadleuol. Mae Cremant fel yma, boed o’r Loire, Bordeaux, Jura neu Alscae yn cael eu cynhyrchu yr un fath a siampen, ond am brisiau llawer mwy deniadol a chystadleuol.
Paru Bwyd:
Yn berffaith fel aperitif, mae'r Crémant de Loire Rosé hwn hefyd yn paru'n hyfryd gyda chanapés sawrus ysgafn fel blinis eog ei fygu, crostini caws gafr, neu melon wedi'i lapio gyda prosciutto neu ham Gaerfyrddin. Mae ei broffil ffrwythau cynnil a'i asidedd yn ategu blasau'r seigiau hyn, gan ei wneud yn gydymaith delfrydol ar gyfer dechrau soffistigedig i unrhyw pryd bwyd.
Casgliad:
I'r rhai sy'n hoff o Prosecco rhosliw, ond sy'n chwilio am ddewis amgen mwy soffistigedig a chymhleth, mae'r Crémant de Loire Rhosliw yna werth ei ystyried a’i flasu. Mae ei broffil aromatig, ei swigod gweithgar, a'i orffeniad adfywiol yn ei wneud yn ddewis sy'n sefyll allan, gan adlewyrchu crefftwaith o ansawdd uchel gwinoedd sbarclyd Dyffryn Loire. Am £9.49, mae'n cynnig gwerth eithriadol, gan ddarparu profiad blas sy'n cystadlu hyd yn oed â Siampen rhosliw sydd bedwar gwaih y pris!
Ymddangosiad: O’i arllwys i mewn i wydr, mae ‘Yma o Hyd’ yn datgelu lliw euraidd cyfoethog sy’n nodweddiadol o IPA wedi’i grefftio’n dda. Mae’r cwrw â phen ewynnog, gwyn sy’n gwasgaru’n araf, gan adael gwlith ysgafn ar y gwydr.
Arogl: Mae’r trwyn yn cael ei gyfarch yn syth gydag arogl ffrwythau trofannol bywiog. Nodau mango, 'passion fruit', ac awgrym o bin-afal sy’n amlygu wrth ei arogli a'i arllwys, gan greu arogl adfywiol. Ceir hefyd nodau ysgafn o sitrws a phinafal sydd yn ychwanegu cymhlethdod, wedi’u cydbwyso gan felysrwydd ysgafn nodweddiadol cwrw o'r math yma.
Blas: Ar ôl blasu, yr argraff gyntaf yw chwerwder meddal sydd yn hygyrch ac yn foddhaus. Mae'r chwerwder hwn yn cael ei ategu'n gyflym gan y blasau ffrwythau trofannol a nodwyd yn yr arogl, gyda mango a 'passion fruit' yn arwain y ffordd. Mae nodau'r bragau (malt) wedi’i cymysgu'n dda, gan ddarparu melysrwydd tebyg i fisgedi gan greu blas llyfn a nodweddiadol iawn o IPA's fel yma.
Gorffeniad: Mae gan 'Yma o Hyd' gorff canolig-ysgafn gyda charbonad (carbonation) cymhedrol, gan ei gwneud yn adfywiol a hynod ddymunol. Mae’r gwead yn llyfn, ac mae’r diwedd yn lân, gan adael chwerwder dymunol sy’n parhau ac awgrym o ffrwythau trofannol ar y tafod.
Argraff Gyffredinol: Mae IPA Di-Alcohol 'Yma o Hyd' gan Dirwest yn enghraifft hyfryd o gwrw di-alcohol nad yw’n cyfaddawdu ar flas neu brofiad. Mae’n cynnig proffil cytbwys iawn gyda chyfuniad cytûn o chwerwder a nodau ffrwythau trofannol. Yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sy’n chwilio am flas llawn IPA ond heb yr alcohol, mae hefyd yn addas i figaniaid a does dim glwten o fewn y cwrw di-alcohol yma. Mae'r cwrw yma yn berffaith ar gyfer mwynhau ar ddiwrnod heulog neu fel cydymaith adfywiol i bryd o fwyd, ond heb yr alcohol.
Bydd gwirod di-alcohol tebyg i Jin ar gael o ddechrau mis Medi, ac mae’r cwmni wrthi yn paratoi a chynhyrchu lager di-alcohol newydd fydd i’w lawnsio yn yr wythnosau nesaf.
Am gwrw di-alcohol Cymreig, mae’n ddewis hynod, llawn blas, ond heb y caloriau – 37 calori ymhob can i fod yn gywir. Cwrw heb y cur pen a’r caloriau!
Ar gael o Blas ar Fwyd Llanrwst, Gwin Dylanwad Dolgellau, Wally's Caerdydd, Canolfan Arddio Pugh's yn Radyr, Deli Griff ym Mhenarth a Marchnad Caerdydd, Adra (ar lein), Cwrw Llŷn, Bragdy Cybi, Pitchfork Llandeilo, Marchnad Fferm y Bontfaen ac hefyd yn Clwb y Bont Pontypridd a Clwb Pontypridd dros yr Eisteddfod!
©Hawlfraint Gwin a Mwy. Cedwir Pob Hawl.
We need your consent to load the translations
We use a third-party service to translate the website content that may collect data about your activity. Please review the details in the privacy policy and accept the service to view the translations.