Diolch i archfarchnad Lidl, bûm mewn sesiwn blasu gwin yn Llundain yn ddiweddar oedd yn arddangos gwinoedd caiff eu cyflwyno yn ystod teithiau gwin y Gwanwyn a’r Eidal ym mis Ebrill a mis Mai 2024.
Yn ogystal, roedd detholiad o winoedd o ddewis craidd Lidl sydd ar gael drwy’r flwyddyn i’w blasu.
Fel yr archfarchnad cyntaf i dderbyn cydnabyddiaeth ‘Cynnig Cymraeg’ Comisiynydd y Gymraeg, mae Lidl wedi arwain y ffordd gyda arwyddion, labeli a chyhoeddiadau Cymraeg o fewn eu harchfarchnadoedd yng Nghymru. Mae’n hyfryd gweld a chlywed y Gymraeg yn cael ei defnyddio ym mhob un o siopau Cymreig Lidl a gobeithio bydd mwy o archfarchnadoedd yn ceisio am y gydnabyddiaeth yma yn y dyfodol.
Un o ddigwyddiadau unigryw Lidl yw ei ‘Teithiau Gwin’ sy’n cynnwys gwinoedd wedi'u cyflwyno mewn bocsys pren, pob un wedi'i nodi â graddfeydd a sgoriau amrywiol. Mae’r gwinoedd penodol yma o unrhyw daith ar gael am hyd at ddau fis o gychwyn y daith, ond gall y gwin werthu allan yn gynt os yw'n math poblogaidd. Er enghraifft, gwerthwyd y gwinoedd coch o Ribera Del Duero yn Sbaen a’r Alentejo o Bortiwgal o fewn pythefnos o’i lansio yn ystod y daith diwethaf. Felly, os gwelwch y gwinoedd yma yn y siop, mae’n werth eu prynu cyn iddynt werthu allan!
Y syniad y tu ôl i'r teithiau hyn yw cyflwyno gwinoedd newydd a gwahnaol I gwsmeriaid, yn ogystal ̂a diweddaru'r detholiad yn rheolaidd, sydd yn ei dro yn hyrwyddo amrywiaeth ac ysgogi cwsmeriaid i ddod yn ôl i archwilio'r cynigion diweddaraf. Mae'r fenter hon hefyd yn helpu Lidl i benderfynu pa winoedd sy'n ddigon poblogaidd i gael eu hystyried ar gyfer eu dewis craidd o winoeddd gan sicrhau bod y ffefrynnau ar gael tu hwnt I’r daith.
Mae'r gwinoedd yn cael eu sgorio gan Richard Bampfield MW, y Cymro sy’n feistr gwin cydnabyddedig. Mae Richard hefyd yn paratoi'r nodiadau blasu a geir ar y bocsys pren yn y siop ac ar daflenni hyrwyddo’r archfarchnad. Serch hyn, nid yw Richard yn ymwneud â phrynu na dethol y gwinoedd, gan fod y penderfyniadau hyn yn cael eu gwneud yn ganolog gan Lidl yn yr Almaen. Braf oedd cael cyfarfod Richard yn y sesiwn blasu, gan gynnig cyfle i gymryd rhan mewn trafodaethau am y gwinoedd wrth iddynt gael eu blasu a’u cymharu yn ystod y sesiwn.
Gwinoedd yn canolbwyntio ar y Gwanyn a geir o’r 25ain o Ebrill 2024. Ceir amrwyiaeth eang o wledydd a phrisiau yn ystod y daith yma, gan gyflwyno grawnwin newydd, hynod a gwahanol i’r silffoedd. Mae hyn yn wahanol i’r daith arferol, sydd yn canolbwyntio ar wlad neu ranbarth benodol. Mis nesaf, bydd y daith yn canbolbwyntio ar Yr Eidal. Dyma oedd rhai o’n ffefrynnau ni o’r sesiwn blasu diweddar:
(Cliciwch ar y lluniau am fwy o fanylion)
Dyma win coch safonol a hynod grefftus o Bordeaux yn Ffrainc. Er nad yw’n win o un o winllanoedd enwog y rhanbarth, mae’n gyfuniad perffaith o Cabernet Sauvignon, Merlot a Cabernet Franc, sef y triawd enwog o rawnwin a ganiateir mewn gwinoedd o ardal Bordeaux.
Mae'r cyfuniad yma yn rawnwin dyfwyd yn ardal y Médoc – sef ochr chwith yr Afon Gironde. Mae’n win sy’n cynnig blasau ceirios a chyrens duon aeddfed, wedi'u cydbwyso'n dda â thaninau llyfn. Mae'n win aromatig, gydag aroglau ysgafn o’r derw ddefnyddir i aeddfedu’r gwin yn cymysgu ag aroglau ceirios.
Ceir corff canolig i lawn, gyda blasau o ffrwythau aeddfed a chyrens duon, gan arwain at orffeniad canolig sy'n gadael argraff a blasau pleseus tu hwnt gyda thanin cain ac asidedd cytbwys. Yn ddelfrydol gyda stêc neu fwyd barbeciw yn yr wythnoisau a’r misoedd nesaf.
Gwerth gwych a chyflwyniad arbennig i arddull a gwinoedd o Bordeaux.
Rosario Reserva, Portiwgal, 2021, 14% - £6.99
Mae Casa Ermelinda, un o gynhyrchwyr gwin mwyaf Portiwgal, yn cynhyrchu'r cyfuniad coch yma sy'n cyfuno gawnwin Touriga Nacional, Cabernet Sauvignon a Syrah. Er bod y daith win o Iberia bellach wedi pasio, mae’r gwin yma yn dangos nodweddion ffrwythus y grawnwin yma yn berffaith.
Mae'r gwin hwn yn treulio 12 mis yn heneiddio mewn casgenni derw, sy'n cyfrannu at ei broffil aromatig. Y canlyniad yw gwin canolig i lawn o ran corff sy'n gyfoethog â blasau ffrwythau coch ac yn pwyso tuag at yr ochr melysach o winoedd coch. Mae’r Touriga Nacional yn un o brif rawnwin Portiwgal ac yn un o’r prif rawnwin ddefnyddior mewn Port, sy’n esbonio pam bod y meyster yn amlwg o fewn y gwin yma.
Er y gallai fod ychydig yn rhy felys i rai (gan gynnwys fi!), mae'n debygol y bydd eraill sy'n ffafrio coch melys yn gwerthfawrogi ei gymeriad cadarn oherwydd y taninau cytbwys sy'n ychwanegu ychydig o gymhlethdod. Mae'n cynrychioli gwerth rhagorol am ei bris ac yn un o’r gwinoedd yn y daith sydd yn siwr o werthu allan yn fuan.
Te Haupapa, Pinot Noir, Seland Newydd, 2022, 13.5%, £12.99
Mae'r gwin coch yma o Ganolbarth Otago, Seland Newydd, gyda’I liw coch golau yn cuddio ei broffil aromatig cyfoethog. Mae arogl derw cywrain yn dylanwadu yn gryf ar yr arogl gyntaf o’r gwin, ond wrth i’r gwin agor i fyny ar ôl ei dywallt, mae’n datgelu arogleuon cryf o fefus a mafon aeddfed. Mae’r aroglau yma yn gwbl nodweddiadol o Pinot Noir, a dyma yw un o brif hanfodion Pinot da i nifer o’r gwybodusion, sy’n egluro apêl y math yma o rawnwin fel un o brif rawnwin coch y byd.
Mae label y botel hefyd yn sôn am bresenoldeb aroglau ceirios. Er nad yn amlwg iawn, yn dilyn cyfnod o ardywallt, mae’r gwin yma y nagor I fyny a chynnig gwahanol arolglau a blasau. Mi wnes i flasu’r gwin ar gyfnodau gwahanol, ac roedd y blasau yn amlwg wedi datblygu wrth ddod i gyswllt gyda’r awyr.
Ar y daflod, mae'r gwin yn ysgafn i ganolig ei gorff, lle mae dylanwad derw yn rhagflaenu ton o flasau ffrwythau, gan briodi'r profiad aromatig â blasau nodweddiadol Pinot Noir megis mefus a mafon aeddfed. I’r rhai sy’n hoff o winoedd Pinot Noir o Burgundy yn Ffrainc, mae’r esiampl yma o Seland Newydd yn cynnig cyfle i flasu arddull debyg ond heb dalu prisiau anhygoel am win coch o Burgundy. Er yn costio mwy na’r gwinoedd eraill yn y daith bresennol, mae’n cynnig gwerth am arian yn ein barn ni, ac mae Seland Newydd a rhanbarth Otago yn benodol yn un o’r ardaloedd sy’n cynyddu mewn poblogrwydd am winoedd cain sy’n cynnig gwerth gwirioneddol am arian yn ein barn ni.
Dyma droi at rai o winoedd gwyn y daith bresennol. Gwin wedi ei wneud o Pinot Gris, sef yr un teulu a Pinot Grigio sydd yma. Mae’n win sych (trocken) o’r Ddyffryn yr Afon Rhine yn yr Almaen.
Mae gwin Almaenig yn aml yn ail-godi atgofion am winoedd hynod o felys (Blue Nun a Libfraumilch yn benodol) gyda nifer yn cysylltu’r gwinoedd yma gyda gwinoedd rhad a melys. Mae Lidl, gyda’r gwin yma, yn ceisio chwalu’r feddylfryd yma am winoedd Almaenig ac yn llwyddo yn wych i wneud hynny.
Mae’n win sych ac ysgafn, sy’n gytbwys o ran asidedd a siwgr, ac yn hynod o bleserus I’w yfed. Yn win gwahanol i’r gwinoedd gwyn cyffredin sydd ar ein silffoedd, mae’n cyfuno blasau eirin gwlanog a gwyddfyd gan greu haenau pleserus nodweddiadol o’r gwanwyn a’r hâf. Nid yw’n win sy’n herio gwinoedd megis chardonnay neu sauvignon blanc, on dos am flasu rhywbeth gwbl unigryw a hynod, mae’n werth ystyried y botel yma fyddai’n gweddu’n berffaith gyda salad tymhorol neu quiche llysieuol hafaidd. .
Carpinus Harslevelu, Hwngari, 2022, 12% - £9.99 - Dewis Richard Bampfield MW
Tyfir y grawnwin yn y gwin yma yn un o ranbarthau gwin enwocaf Hwngari, sef rhanbarth Tokaji. Mae ardal Tokaji yn gartref i rai o winoedd melys gorau'r byd, ond mae'n dod yn fwyfwy adnabyddus hefyd am ei win gwyn sych. Mae'r rhan fwyaf o'r rhain wedi'u gwneud o rawnwin Furmint, ond mae'r un yma yn Lidl wedi ei wneud o 100% Hárslevelu, sy’n gwbl unigryw i Hwngari. Cynhyrchir y gwin gan y teulu Bai o winllannoedd yng nghanol y rhanbarth, ar odre mynyddoedd Carpathia. Mae'r priddoedd yma yn folcanig, ac yn rhoi mwynoldeb cain i'r gwin, sy'n gysylltiedig â blasau eirin gwlanog gwyn llawn sudd a thrwyn blodeuog a blasau sitrws.
Wrth ei flasu, mae'r melyster mêl tyner yn amlwg, wedi'i gyferbynnu'n ddiymdrech gan nodau sitrws adfywiol ac aroglau blodeuog. Ar y daflod mae’n sidanaidd-llyfn, ac mae'r asidedd cytbwys yn darparu gorffeniad hirgoes cain. Wrth baru â bwyd, byddai caws cyfoethog, hufennog fel Roquefort yn berffaith i bwysleisio blasau melys y gwin. Byddai’n paru'n wych â seigiau Asiaidd sbeislyd, gan dymheru'r sbeis yn osgeiddig a di-drafferth. O ran bwydydd melys, byddai’n ddelfrydol â phwdinau ffrwythau megis tarten gellyg ffres neu strwdel afal traddodiadol. Er mwyn mwynhau blasau ac aroglau cyfoethog Carpinus Tokaji Hárslevelű 2022 yn llawn, argymhellir ei weini ar dymheredd rhwng 10 ° C a 12 ° C. Mae hyn yn sicrhau bod y gwin yn parhau i gael ei fireinio wrth ganiatau i'r blasau cynnil ddisgleirio.
Dyma win llawn direidi, yn llawn cymeriad, er yr alcohol is na'r cyffredin. I’r sawl sy’n hoff o rawnwin Riesling, byddai hwn yn ddewis gwahanol ond pleserus yn ein barn ni. Hawdd gweld pam mai hon oedd hoff win Richard o'r daith yma.
Mae'r daith Eidalaidd sydd i ddod ym Mis Mai gan Lidl yn cynnwys Valdobbiadene Prosecco newydd, ond mewn gwirionedd, roedd y Prosecco o winoedd craidd Lidl yn esiampl wnaeth amygu ei hun I mi yn ystod y sesiwn blasu yma.
Mae’r achrediad DOCG sydd gan y Prosecco yma yn ei ddyrchafu i lefel uwch o Prosecco na’r a geir mewn archfarchnadoedd. Drwy edrych ar wddf y botel, ceir label wedi ei brintio yn dynodi statws DOCG y gwin yma. Mae hyn yn golygu bod ansawdd a safon y Prosecco dipyn uwch na’r cyffredin. O flasu’r gwin yma, hawdd yw gweld bod y safon gryn dipyn yn uwch gyda corff cadarnach a gwell teimlad ar y daflod nag a geir gyda esiamplau eraill.
Mae'r gwin yma o adran graidd Lidl yn cynnig cymhlethdod a dyfnder sy'n pontio'r bwlch rhwng siampên a DOC Prosecco traddodiadol yn ein barn ni. Daw’r grawnwin Glera o fewn y gwin o un o ardaloedd tyfu gorau’r Veneto yng Ngogledd yr Eidal rhwng trefi Conegliano a Valdobbiadene. Dim ond grawnwin o’r ardal yma ganiateir o fewn y gwin yma ac felly mae’r ansawdd yn gyson.
Gyda phroffil blas sy'n gyfoethog mewn afalau a gellyg, mae'n cyflwyno cymhlethdod hyfryd sy'n adfywiol ac yn sylweddol. Mae'r Prosecco hwn yn cynnig dewis arall diddorol i'r rhai sy'n gweld Prosecco safonol yn rhy ysgafn o gorff, ac am y pris yma, mae’n werth ystyried prynu potel neu ddwy o’r gwin yma ar gyfer dathliadau neu i fwynhau ar ôl wythnos yn y gwaith!
©Hawlfraint Gwin a Mwy. Cedwir Pob Hawl.
We need your consent to load the translations
We use a third-party service to translate the website content that may collect data about your activity. Please review the details in the privacy policy and accept the service to view the translations.