Fel medrir ei ddychmygu, mae gan archfarchnad fwyaf Prydain ddewis health o winoedd gan amrywio yn fawr mewn pris ac mewn safon. Mae ein harbenigwyr wedi bod yn tyrchu ymysg y silffoedd yn Tesco fel nad oes rhaid i chi wneud hynny.
Dylid nodi hefyd bod prisiau’r gwinoedd yn medru amrywio os defnyddir carden ‘Clubcard’ Tesco gan fod cynigion arbennig ar gael wrth ddefnyddio’r garden yma
Rydym wedi dewis esiamplau o win Coch, Gwyn a Rosé sydd yn dangos gwerth am arian a safon yn Tesco mis yma.
Mae'r Malbec hwn o'r Ariannin sydd yn enillydd nifer o wobrau gan wybodusion y byd gwin. Wedi ei greu gan y Teulu Catena, sef un o deuluoedd amlycaf byd y gwin yn Ne America, mae’r grawnwin wedi eu cynaeafu gyda llaw o lethrau mynyddoedd yr Andes, sy’n rhoi blas gosgeiddig o fwyar duon, eirin a siocled. Mae’n win sy’n chwaethus, yn llawn corff ac yn dangos nodau o sbeis sy’n cyfuno’n wych gyda’r ffrwythau duon. Mae'n win perffaith ar gyfer paru gyda chigoedd wedi'u grilio neu stiwiau swmpus yr Hydref neu brydau bwyd gyda madarch o bob math.
Malbec gwych arall o'r Ariannin ac yn un sydd yn boblogaidd iawn gan win-garwyr! Wedi ei ddynodi fel un o’r gwinoedd gwerth am arian gorau gan Tim Atkin MW, mae'r gwin hwn yn llyfn, gyda blasau o ffrwythau coch a sbeis. Mae’n win sy’n iau na’r malbec arall rydym wedi ei adolygu, ac mae hyn yn amlwg wrth ystyried lliw ac aeddfedrwydd y gwin. Yn dilyn chwe mis mewn casgenni derw Ffrengig ac Americanaidd, mae’n win ifanc ond cytbwys. Mae'n werth gwych am arian ac yn win lefel sylfaenol, ond hynod dderbyniol sy’n gweddu at gigoedd rhost neu fwyd llysieuol swmpus.
Ffaith: Ystyr Trivento yw ‘Tri Gwynt’, sef gwyntoedd polar, zonda a sudestada. Dyma’r gwyntoedd sy’n cyfrannu at flas unigryw grawnwin o ardal Mendoza yn Yr Ariannin, wrth i’r gwyntoedd reoli’r hinsawdd tyfu, gan aeddfedu’r grawnwin yn hwy mewn tywydd cynnes.
Mae'r Cabernet Sauvignon Chile hwn yn llawn corff ac yn gyfoethog, gyda blasau cyrens duon, mwyar duon a chedrwydd. Mae’r winllan wedi ei lleoli yn Nyffryn Maule lle mae’r hinsawdd a’r pridd cyfoethog yn rhoi corff unigryw i’r gwin, gan hefyd gynnig ffresni yn y ffrwythau tywyll amlygir o fewn y gwin. Yn win hawdd paru gydag amrywiaeth eang o fwyd, mae'n berffaith ar gyfer achlysuron arbennig.
Mae'r Carménère hwn o Chile yn esiampl o win a grawnwin unigryw dyfir yn Ne America. Yn wreiddiol o Ffrainc, mae’r grawnwin yma wedi addasu’n dda i’r hinsawdd gynnes o winllannoedd Peumo yn Nyffryn Cachapoal. Mae’n win sy’n dangos nifer o elfennau, yn llyfn ac yn gymhleth, gyda blasau cyrens duon, mwyar duon a sbeis. Os am arbrofi gyda gwin a grawnwin gwahanol i’r cyffredin, mae gwin yma yn esiampl dda ac yn dangos gwerth gwirioneddol am arian ac yn werth ei flasu. Mae’n paru’n dda gyda chigoedd rhost, golwyth neu seigiau cyfoethog a chaws caled.
Mae'r Sauvignon Blanc hwn o Seland Newydd yn ffres gydag asidedd uchel, gyda blasau gwsberis, grawnffrwyth a ffrwythau trofannol. Yn win ifanc, dyfir yn ardal Marlborough ar Ynys Ddeheuol Seland Newydd, mae’n esiampl o win poblogaidd sydd wedi sefydlu ei hun fel un o brif winoedd gwin y DU. Mae’r ffrwythau a dyfir yn Nyffryn Wairau yn cynnig corff a blasau ffrwythau trofannol i’r gwin, tra bod y ffrwythau a gymysgir o Ddyffryn Awatere yn cynnig asidedd a blasau sitrws amlwg. Y canlyniad yw gwin sy’n berffaith ar gyfer paru gyda bwyd môr neu salad neu i’w fwynhau ar ei ben ei hun.
Mae'r Chablis hwn o ardal Gogledd Burgundy yn Ffrainc yn esiampl cain a safonol, gan ddangos blasau ffrwythau sitrws, blodau gwyn, a mwynau. Mae gwinoedd wedi eu creu yn yr ardal ers y 12fed ganrif ac yn winoedd cywrain tu hwnt. Grawnwin Chardonnay ddefnyddir i greu’r gwin, ond mae’r arddull yn ysgafn ac heb ei aeddfedu mewn casgenni derw. Mae blasau afal gwyrdd a sitrws yn amlwg yn y gwin yma ac yn gyfuniad perffaith gyda bwyd y môr neu Bysgod a Sglodion oherwydd yr asidedd uchel yn y gwin. Mae’n gostus, ond yn bris ffafriol iawn i’w gymharu â Chablis eraill o’r ardal all gostio gryn dipyn yn fwy. Gwin achlysuron arbennig!
Mae'r rosé hwn o'r Languedoc yn Ne Ffrainc yn binc golau a thyner, gyda blasau ffrwythau coch a sitrws. Mae’n win sy’n nodweddiadol o ardal De Ffrainc a’r ffordd o fyw hamddenol, sy’n paru’n dda gyda bwyd y môr neu fwyd sy’n cynnwys elfennau o sbeis ysgafn. Mae'n werth gwych am arian am y safon o’i gymharu â Rosés eraill o’r un ardal. Er yn win ifanc, mae ffresni’r gwin yn amlwg ac mae’r botel hefyd yn bwynt trafod dros y bwrdd bwyd!
Mae'r rosé hwn o Dde Dyffryn Rhône yn Ffrainc yn ddyfnach o ran lliw i winoedd rose traddodiadol o Dde Ffrainc. Yn adnabyddus am gynhyrchu gwinoedd cymhleth a gosgeiddig, mae ardal y Rhône yn cynnig gwerth am arian na welir mewn ardaloedd tebyg yn Ffrainc. Mae hwn yn win ifanc, ond medrir ei gadw a’i aeddfedu os dymunir. Mae’n win sych, llawn corff a mynegiant, gyda blasau o ffrwythau coch megis mafon, grawnffrwyth a sbeis. Mae'n rosé llawn corff sy'n berffaith ar gyfer paru gyda bwyd megis prydau sbeislyd, caws neu bwdinau ffrwyth a medrir ei yfed ar unrhyw adeg o’r flwyddyn.
©Hawlfraint Gwin a Mwy. Cedwir Pob Hawl.
We need your consent to load the translations
We use a third-party service to translate the website content that may collect data about your activity. Please review the details in the privacy policy and accept the service to view the translations.