Gwinoedd Taith Iberia Lidl - Mawrth ac Ebrill 2024

Mae prynwyr gwin yr archfarchnad Almaeneg, Lidl, a sefydlodd ei hun yn y DU ym 1994, wedi bod wrthi unwaith eto yn chwilota am winoedd o ansawdd ar gyfer un o’i deithiau gwin enwog. O flasu’r gwinoedd sydd gan yr archfarchnad i’w gynnig ar ei taith diweddaraf - Taith o gwmpas Penrhyn Iberia yn Sbaen a Portiwgal - maent wedi gwneud gwaith anhygoel o ddod o hyd i winoedd gwahanol a diddorol am brisiau da ar gyfer y daith win yma. Fel gyda’r holl deithiau gwin gan Lidl, am gyfnod byr yn unig fydd y gwinoedd yma ar gael.

 Taith Gwin Penrhyn Iberia Lidl

Fel rydym wedi ei amlinellu yn flaenorol, mi fu Lidl yn gwneud taith gwin bob dau fis. Mae hyn bellach wedi newid. Erbyn hyn, bydd dewis gwin Lidl (ac eithrio ei gwinoedd craidd, sy'n nodwedd barhaol ar y silffoedd) yn cael ei adnewyddu bob mis, sy'n golygu, os ydych yn hoffi edrychiad gwin penodol a welir yn y siop, byddai'n well ei brynu yn syth, neu mi fydd wedi gwerthu allan neu adael silffoedd yr archfarchnad erbyn y tro nesaf!

Er bod yr ystod graidd, sydd ar gael trwy gydol y flwyddyn, yn cynnwys Rioja a Cava, mae Taith Gwin Penrhyn Iberia (a lansiwyd ar yr 21ain o Fawrth) yn ein hannog i chwilota am winoedd tu hwnt i’r grawnwin cyffredin neu beth rydym yn gyfarwydd â nhw. Yn rhan o’r dewis newydd yma yn Lidl, mae gwinoedd gwahanol ac anarferol megis y Paço de Bispo ffrwythus gyda blasau sbeis a phupur o Palmela, i'r de o Lisbon. Yn ogystal, mae gwinoedd arbrofol sy’n seiliedig ar yr amrywiaeth o rawnwin gwyn a dyfir yn ardaloedd Castelão, a gwinwydd aeddfed Garnacha yn ogystal â gwinoedd newydd sydd wedi ei seilio ar rawnwin Hacienda Uvanis o winwydd yn rhanbarth Castilla y Léon, Sbaen, sy’n cynhyrchu gwinoedd coch persawrus a ffrwythus. 

Uchafbwyntiau o'r Daith Win

Dyma ychydig o uchafbwyntiau rydym wedi ei flasu o’r daith ddiweddaraf yma yn Lidl:

Paço de Bispo, Palmela, Portiwgal 2022 - £6.99

Mae'r gwyn syml, hafaidd hwn yn llawn blasau ffrwythus, er ei gorff sych. Mae’n nodweddiadol o’r ardal i’r o Lisbon ac yn hynod bleserus i'w hyfed. 


Mae’n win sy’n cynnig cymeriad grawnffrwyth ychydig yn bigog wedi'i orffen gan eirin gwlanog gwyn, ac yn gorffen â chyffyrddiadau pupur a blodeuog. Ceir hefyd blasau ac aroglau perlysiau ffres ac afal gwyrdd sy’n dynodi bod hwn yn win ifanc. 

Yn hytrach na dewis potel o Pinot Grigio yr haf yma, byddai hwn yn ddewis amgen, gwahanol ond hynod bleserus. Yn gymar perffaith i salad Cesar, pysgod gwyn neu bryd o fwyd pasta hufennog megis carbonara, bydd hwn yn siŵr o fod yn boblogaidd gan nifer. 

Mae’n win gwyn sych ond cwbl unigryw gan ddangos pam bod Portiwgal yn un o’r gwledydd sydd yn cynhyrchu gwinoedd o safon ac am brisiau hynod gystadleuol. Gwin i’r haf a’r nosweithiau hir, heulog (gobeithio!) - gallwch deimlo eich bod ar wyliau yn yfed y gwin yma!

Laus, Chardonnay Somontamo, Sbaen, 2023 - £6.99

Mae'r Chardonnay yma gyda’i wead hynod o feddal a chelfydd, gyda blasau eirin gwlanog, grawnffrwyth a melon, gyda gorffeniad gydag ychydig o sbeis. Dychmygwch Chardonnay o Ffrainc yn hytrach nag Awstralia neu’r Unol Daleithiau, a chewch chi ddim eich siomi gyda’r gwin yma.

Anghofiwch y syniad o Chardonnay cyffredin rydych wedi ei yfed yn y gorffennol, sy’n llawn blasau derw ac yn unigryw mewn blas - i’r graddau bod pobl wedi syrffedu ar yfed Chardonnay (unrhyw un y categori ABC - ‘Anything But Chardonnay’?!). Mae’r blasau ffrwythau trofannol a sitrws gyda chynildeb fanila a blasau cnau yn gyfuniad perffaith gydag eog wedi’u fygu neu saws hufennog. Yn win sydd hefyd yn addas i lysieuwyr.

Mae hwn yn win ifanc, afieithus, gyda chorff canolig mewn cryfder a lefel alcohol cymedrol fydd (gobeithio) yn chwalu’r farn negyddol am chardonnay. Am y pris yma, mae’n cynnig gwir werth am arian yn ein barn ni.

Felix Solis, Viña Albali Verdejo, Vino de la Tierra de Castilla, Castilla y Léon, Sbaen, 2022 - £6.99

Dyma win medal ar y daflod, yn ddymunol ac yn grwn, gyda chymeriad blodeuog ysgafn, sitrws gyda ychydig o flas  grawnffrwyth ar y gorffeniad. Yn win nodweddiadol o’r hyn mae’r Sbaenwyr yn ei yfed gyda phryd o fwyd, mae’n win sydd heb ennill ei le fel mathau eraill o rawnwin mwy poblogaidd. Dyma’r cyfle efallai i arbrofi.  

Mae’n win gwyn hynod o hawdd ei yfed oherwydd ei gorff ysgafn a blasau ffrwythus. Mae’r blasau yn datblygu ar y daflod ac yn gorffen gydag awgrym o ffrwythau carreg megis eirin gwlanog. 

Ni fydd hwn yn win fydd yn plesio pawb, ond fel gwin i’w rannu ar noson o haf, mae’n gwneud dewis amgen, gwahanol i winoedd poblogaidd megis Sauvignon Blanc neu Pinot Grigio. Beth am flasu gwin gwahanol, heb dorri’r banc yr haf yma! Am y pris yma, ni fydd llawer ar ôl yn Lidl. 

Hacienda Uvanis, Garnacha Old Vines, Navarra, Sbaen 2021 - £7.49

Daw’r gwin yma o winwydd aedddfed Garnacha (Grenache) sydd rhwng 500 a 700 metr uwchlaw lefel y môr yn ardal Navarra yng ngogledd ddwyrain Sbaen.

Mae’n win ffres, llachar a phersawrus yn llawn mafon persawrus a cheirios ynghyd ag awgrymiadau perlysiau a sbeisys. Yn gytbwys o ran mynegiant gydag ychydig o dderw a blasau’r tir yn dynodi aeddfedrwydd y gwin, mae’n hynod o ddeniadol a phleserus i’w yfed.  O flasu’r amrywiol winoedd sydd gan Lidl i’w gynnig fel rhan o’r ‘Daith Win’ bresennol, dyma i ni yw un o’r gwinoedd gorau i’w blasu o’r rhai sydd ar werth.

Mae gwinoedd o ardal Navarra yn llawn blas, yn chwaethus ac yn paru’n hynod o dda gyda chigoedd rhost neu gig wedi’u coginio ar farbeciw. Mae’r gwinoedd yma hefyd yn cynnig gwell werth am arian na’r gwinoedd ychydig i’r gorllewin o Navara yn ardal Rioja. Unwaith eto, mae prynwyr Lidl wedi darganfod gwin safonol a gwahanol fydd yn boblogaidd iawn - byddai gwin cyffelyb mewn archfarchnadoedd eraill neu mewn manwerthwyr eraill yn costio tipyn yn fwy na’r un yma. Prynwch tra medrwch yw ein cyngor ni!

 

Almocreve Reserva, Alentejano, Portiwgal 2020 - £6.99

Mae'r gwin coch yma sy’n gyfuniad o rawnwin Aragonez, Trincadeira ac Alicante Bouschet yn llawn blasau cyrens duon a cheirios wedi’u cyplysu gyda thaninau cynnil a chorff meddal, llyfn. Mae’r ffaith bod y gwin wedi’i aeddfedu mewn casgenni i’w flasu yn syth, gyda blasau myglyd, cynnil sy’n rhoi ychydig o bwysau a chorff canolig bendigedig i’r gwin. Mae’r gwead a chorff y gwin yn gadarn, ond hefyd yn gynnil ac yn hynod dderbyniol

 Mae’r math yma o rawnwin yn un sydd yn adnabyddus ym Mhortiwgal, ond heb unrhyw son na dilynwyr yma yng Nghymru. Dyma ble mae prynwyr gwin crefftus yn ennill ei bywoliaeth, drwy ddarganfod mathau o win a grawnwin sydd yn cynnig rhywbeth gwahanol a heriol i’r gwinoedd traddodiadol rydym yn gyfarwydd â nhw.

Mae’n win ffrwythus ond gydag arogl blodau a pherlysiau mewn arddull feiddgar sy'n berffaith ar gyfer llysiau wedi'u grilio neu gigoedd barbeciw. Potel arall i’w phrynu cyn i’r daith win presennol orffen yn ein barn ni - yn ddelfrydol ar gyfer nosweithiau a phartïon dan y lloer. 

270 Alta Expression, Ribera del Duero, Sbaen 2021 - £7.99

Os yw’r ddau win coch rydym wedi ei argymell ychydig yn ffrwythus ac ysgafn ar gyfer y gwanwyn a’r haf, yna dyma newid y cywair yn llwyr gyda'r gwin yma o ardal Ribera del Duero yn Sbaen.

Mae'r gwin coch yma a gynhyrchir o rawnwin tempranillo yn feiddgar a heriol, gan gynnig aroglau a blasau ffrwythau duon dwys gyda digon o sbeis derw a chyffyrddiadau o dybaco, siocled, pridd a pherlysiau. Ceir hefyd blasau ceirios du sy’n creu proffil blasau sy’n ddwfn a phleserus. Efallai nad yw’r blasau yn aros ar y daflod am hir oherwydd bod ychydig yn llai o thaninau nag sydd yn arferol mewn gwinoedd o’r ardal yma, mae’n win dylid ei ystyried cyn iddo werthu allan.  

Mae’r broses aeddfedu mewn casgenni derw i’w flasu yn amlwg yn y botel yma, gyda lliw tywyll ond pleserus, gyda blasau sydd yn cyfuno’n hynod o gelfydd gyda’i gilydd. Ein hargymhelliad am fwyd i’w baru gyda’r gwin yma byddai cig eidion rhost neu gig oen rhost. 

Mae’n win llawn corff a mynegiant, ac unwaith eto, gallai’r gwin yma gostio gryn dipyn yn fwy na’r pris yma yn Lidl pe byddai’n dod o wlad megis Ffrainc neu’r Eidal. Un arall o’n ffefrynnau yn Lidl a gwin fydd yn sicr o werthu allan yn fuan yn ein barn ni.  

Casgliadau

Unwaith eto, mae Lidl a’u prynwyr gwin wedi taro deuddeg drwy gynnig gwinoedd gwahanol, gwbl wych fel rhan o’r daith yma o benrhyn Iberia. 

Mae’r prisiau yn gystadleuol, y dewis a’r amrywiaeth mewn rhanbarthau yn wych ac os am arbrofi gyda grawnwin a gwinoedd newydd a gwahanol am yr haf heb dorri’r banc, dyma yw’r cyfle i wneud hynny. Gobeithio cawn nosweithiau cynnes a digon o haul yn yr wythnosau a’r misoedd nesaf, fel yn Sbaen a Portiwgal, i fwynhau’r gwinoedd yma!

©Hawlfraint Gwin a Mwy. Cedwir Pob Hawl.

We need your consent to load the translations

We use a third-party service to translate the website content that may collect data about your activity. Please review the details in the privacy policy and accept the service to view the translations.