Gwinoedd Cain Waitrose

Mae gan deuluoedd draddodiadau nadolig, megis addurniadau nadolig unigryw, caneuon i'w canu dros gyfnod y Nadolig neu fwydydd i'w bwyta fel rhan o'r dathliadau. 

Un traddodiad sydd gan gwmni Waitorse yr adeg yma o'r flwyddyn yw cynnig gwinoedd cain am £10 y botel. Mae'r gwinoedd yma yn amrywio o win coch i win gwyn, pefriog, rose a hyd yn oed Port. 

Felly beth yw'r arlwy sydd gan Waitrose ar ein cyfer eleni? Dyma gynnig ychydig o sylwadau ac argymhellion. 

Mae'r cynnig arbennig ymlaen hyd at y 12fed o Rhagfyr 2023 yn siopau'r cwmni ac hyd at y 1af o Ionawr 2024 ar wefan www.waitrosecellar.com  

I weld mwy am y gwinoedd, cliciwch ar luniau'r gwinoedd islaw

Gwinoedd Cain Waitrose - Cynnig Arbennig 2023

Villa Antinori Rosso, Tuscany, Yr Eidal

Dyma win gan un o gynhyrchwyr eiconig ac enwog ardal Tuscany yn yr Eidal, sef y Teulu Antinori. Mae'r Antinori's wedi bod yn cynhyrchu gwionedd am dros 600 mlynedd a dyma win dathliad 80 mlynedd o gynhyrchu'r genhedlaeth bresennol.  Mae'n win cyfoethog, melfedaidd, yn llawn blas ffrwythau coch megis ceirios a mefus o rawnwin Sangiovese, ac wedi ei haeddfedu mewn casgenni derw i feddalu'r tanninau. Mae'n potel sydd fel arfer yn costio £18.99 cyn y cynnig arbennig presennol. Yn ddelfrydol i'w hyfed gyda bwyd Eidalaidd o bob math, cig wedi rhostio neu pubur coch wedi ei rhostio.  

The Hedonist Shiraz, Dyffryn McLaren, De Awstralia

Dyma un o ardaloedd gwionoedd enwocaf Awstralia, sy'n creu gwinoedd cain o ansawdd uchel tu hwnt. Mae'n win llawn corff, yn dangos nodweddion ffrwythau duon ac wedi ei aeddfedu mewn casgenni der Americanaidd i greu gwin sy'n llyfn, pwerus ond melfedaidd. Gyda blasau ffrwyth megis mwyar duon, mafon aeddfed , eirin a phubur du a chardamom yn cyfuno gyda'r asidedd uchel nodweddiadol o'r math yma o rawnwin, mae'n esiampl dda o win o safon. Fel arfer yn gwerthu am £14.99 y botel. 

Chablis Esprit de Chablis, Ffrainc

Yn addas i lysieuwyr. Dyma win sydd wedi ei greu yn arbennig ar gyser Waitrose, gan ddefnyddio grawnwin gorau'r cynhaeaf. Mae'r balsa stirs amlwg, gydag elfennau mwynedd nodweddiadol ardal Chablis yn Burgundy yn cyfuno i greu gwin cytbwys, cain ond adfywiol tu hwnt. Yn ddelfrydol ar gyfer brydd y mor neu ddofednod, yn ogystal a phrydau llysieuol ysgafn. Mae'n enghraifft wych o Chablis safonol am bris anhygoel. Fel arfer yn gwerthu am £17.99. 

Bird in Hand Pefriog, De Awstralia

Dyma win prefriog delfrydol ar gyfer unrhyw ddathliad. Mae'r lliw pinc ysgafn a geir yn y grin ymt yn nodweddiadol o'r grawninwin ddefnyddir i gynhyrchu'r gwin yma, sef Pinot Noir. Ceir swigod ysgafn, gyda blasau blodau sitrws a mefus ynghyd a burum o'r broses eplesu. Mae'r blas yn hufennog, gyda ffrwythau drys ond cyfuno'n dda gyda'r asidedd i greu gwin pefriog hynod effeithiol. Mae'r botel yma fel arfer yn gwerthu am £15.99.   

Chateau de Berne Cuvee Or Provence Rose

Mae gwinoedd rose o ardal Provence yn Ne Ffrainc wedi gweld cynnydd aruthrol mewn gwerthiant dros y flwyddyn neu ddwy diwethaf. Mae'r esiampl yma sydd ar y cynnig arbennig yn win sy'n nodweddiadol o arddull ysgafn y rhanbarth ac yn esiampl gwych o win rose. Mae'n win ffres, sych ond yn cynnwys blasau ffrwythau'r haf fel mefus a mafon. Yn gyfuniad da i'w weini gyda prydau ysgafn neu fel aperitif. Mae'r gwin yma yn  gwerthu am £15.99 fel arfer.  

Broglia Navi DOCG, Yr Eidal

Daw'r gwin yma o winllanoedd y teulu Broglia yn ngogledd orllewin yr  Eidal. Mae'n win cywrain, ond hefyd yn win diddorol. Wedi ei eplesu a'i aeddfedu gyda'r burum am gyfnod, mae'n win sy'n langos cymhlethdod, ond hefyd ffresni. Mae nifer yn amheus iwan o'r arddullyma o win Eidalaidd, gan ei fod yn mediru bod yn niwtral iawn o ran blas i'w gymharu gyda gwinioedd eraill. Mae'n win da i'w weini gyda bwyd y mor o bob math yn ogystal a dofednod. Mae'r gwin yn gwerthu am £16.99 fel arfer.  

St Clair Sauvignon Blanc, Seland Newydd

Yn win addas i lysieuwyr a feganiaid. Plannwyd y winllan yma yn areal Marlborough o Ynys Ddeheuol Seland Newydd yn 1978. Wedi ei lleoli yn Nyffryn Wairau, mae'r hinsawdd a'r tirwedd yn ddelfrydol i dyfu'r grawnwin yma ddaw yn wreiddiol o Ffrainc. Mae'r blasau trofanol yn amlwg yn gwin ymt sy'n cynnwys grawnffrwyth a blasau ac arogly llysieuol cryf, nodweddiadol o'r arddull yma . Mae'n win sy'n gyfoethog ac yn esiampl gwell na'r cyffredin o win Sauvignon Blanc gyda blasau mwynedd na welir mewn esiamplau eraill. Mae'n gwerthu am £15.99 y botel fel arfer. 

Montecillo Reserva Rioja, Sbaen

Dyma win newydd i silffoedd Waitrose. Wedi ei gynhyrchu gan ddefnyddio grawnwin Tempranillo, mae'n enghraifft dda o arddull a blasau unigryw ardal Rioja. Am fwy o wybodaeth am yr ardal synod yam, each i'n tudalen benodol am winoedd Rioja. Mae'n win sy'n dangos cymeriad yn dilyn proses hirach nag arfer o eplesu, ac yn dilyn cyfod o ddwy flynedd mewn casgenni derw, a 18 mis ychwanegol mewn potel cyn ei rhyddhau i werthu. Er nid y Rioja garou i ni ei flasu yma yn Gwin a Mwy, mae'n gyflwyniad da i winoedd o'r rhanbarth yma am y pris yma. Fel arfer yn gwerthu am £15.99 y botel. 

Kopke Special Reserve Port

Er bod port yn Cael ei ystyried yn wirod gan nifer, gwin caerog (fortified wine) yw'r arddull yea o Bortiwgal. Mae'r grawnwin yn Cael ei tyfu yn Nyffryn Douro, cyn cael ei gwasgu a'i eplesu mewn casgenni derw. Mae gwahanol fathau o arddulliau port i'w cael a byddwn yn esbonio mwy am hyn yn yr wythnosau nesaf. Mae'r enghraifft yma wedi ei chynhyrchu gan un o gynhyrchwyr Port hynaf Portiwgal, ac yn tangos nodweddion ffrwythau sych, gyda blasau caramel melts. Yn gyflwyniad da i port ac yn gymar perffaith i gaws neu bwdinau siocled o bob math. Yn gwerthu am £14.99 fel arfer.  

Norton Malbec Reserve Finca Argelo, Yr Ariannin

Mae'r gwinllanoedd lle tyfir y grawnwin ar gyfer y gwin yma tua 1920 troedfedd neu 950 medr uwchben lefel y mor ar lethrau'r Andes. Gan fod y winllan mor uchel, mae'r winwydd yn forfod chwilota am ddwr a mwynau yn llawer mwy nag men gwnillan gyffredin ar laer glad. O ganlyniad i hyn, mae'r blasau yn fwy crynodedig (concentrated) sy'n golygu gwin sy'n llawn mynegiant gyda blas ffrwythau duon cyfoethog. Mae'r blasau yn aros am amser hir gyda thanninau amlwg. Yn ddelfrydol gyda golwyth neu prydau madarch swmpus. Yn gwerthu am £15.99 fel arfer.  

Chateau Liversan Cru Bourgeois Haut-Médoc, Bordeaux, Ffrainc

Gwin arall newydd i silffoedd Waitrose.  Mae'n win canolig ei ddwyster, gyda nodweddion amlwg o ffrwythau duon, megis cyrens duon a mwyar duon, gydag arogl tybaco cefndirol. Mae'r tanninau yn llyfn gyda diweddglo hir a phleserus. Am win gynhyrchwyd yn 2015 ac am y pris yma, mae'n werth prynnu potel i'w blasu dros gyfnod y Nadolig. Nid yr engrhaifft orau o win Bordeaux sydd ar werth yn Waitrose, ond yn gyflwyniad da unwaith eto i arddull unigryw Bordeaux. Fel arfer yn gwerthu am £15.99 

©Hawlfraint Gwin a Mwy. Cedwir Pob Hawl.

We need your consent to load the translations

We use a third-party service to translate the website content that may collect data about your activity. Please review the details in the privacy policy and accept the service to view the translations.