Pleser oedd derbyn gwahoddiad gan olygyddion Cylchgrawn Cara i gyfrannu argymhellion gwin ar gyfer rhifyn Hâf 2024 o'r Cylchgrawn gwych yma.
Rhoddwyd her i mi i gynnig argymhellion gwin fyddai'n gweddu'n addas i'w gweini gyda ryseitiau hafaidd Delyth Huw Thomas oedd yn cynnwys cynhwysion yr hâf yn ogystal a Harissa!
Gofynnwyd i mi gynnig argymhellion am winoedd o'r archfarchnad yn ogystal a dewis amgen o winoedd Cymreig addas ar gyfer yr eitem.
Mae'r gwinoedd isod yn gweddu'n berffaith gyda'r ryseitiau nodir, ac os am fwy o fanylion, prynwch gopi o'r cylchgrawn am y ryseitiau yn llawn!
Rysáit 1 - Cawl Pupur Coch a Harissa, gyda Croutons Mêl a Halloumi
Dyma rysait hynod hafaidd, ond heriol i baru gwin. Gyda'r elfennau sbislyd ac hallt o'r halloumi, roedd yn gamp i ddarganfod gwinoedd oedd yn gweddu gyda'r holl gynhwysion.
Morrisons ‘The Best’ Assyrtiko, Gwlad Groeg - £10
Mae'r Assyrtiko llawn cymeriad yma o ranbarth Naoussa ym Macedonia, a gynhyrchir gan Kir-Yianni, yn cynnig profiad synhwyrus ac adfywiol. Ceir nodau blodau persawrus wedi'i gymysgu ag eirin gwlanog aeddfed. Mae'r daflod yn cael ei chyfarch â sitrws gwyrdd a ffrwythau cerrig, wedi'u gwella gan ddyfnder o aeddfedu am bum mis ar waddod (‘lees’). Mae'n hynod gytbwys gydag asidedd sy’n torri drwy gyfoeth y croutons halloumi. Mae'r gorffeniad yn cael ei amlygu gan eirin gwlanog gwyn, blodau persawrus, a phinsiad o sbeis, sy’n gweddu’n berffaith gyda’r harissa, y paprika wedi’i fygu a’r halloumi fel cyfanwaith.
Mae’n win ffres ac yn gymysgedd adfywiol o sitrws, blasau mwynau ac awgrym o eirin gwlanog, gan ei wneud yn gyfuniad perffaith gyda’r cawl hafaidd yma. Dyma un o’r Assyrtiko’s gorau yn yr archfarchnadoedd yn ein barn ni, a hwdd gweld pam hefyd. Gyda’i ddylanwad o’r Canoldir, beth yn well na gwin o Wlad Groeg - Yamas!
Rhosliw Gwinllan Llaethliw, Neuaddlwyd, Aberaeron - £16 o’r Winllan ar www.gwinllanllaethliw.co.uk
Dyma win hynod o gelfydd, a gynhyrchir gan y Teulu Evans o Winllan Llaethliw ychydig i’r dwyrain o Aberaeron. Gyda’i liw melon dŵr llachar, mae'r gwin hwn yn cynnig aroglau blodau dymunol gydag awgrymiadau o ffrwythau cerrig suddlon ac afal coch ffres. Ar gyfer y rysáit yma, mae angen asidedd o fewn y gwin er mwyn cydbwyso’r sbeis o’r harissa, melyster y mêl yn ogystal â’r elfennau hallt o fewn yr halloumi.
Mae gan y gwin yma'r asidedd angenrheidiol gyda nodau o fafon a cheirios sur ar y daflod sy’n creu cyfuniad perffaith ar gyfer y rysáit trawiadol a hafaidd yma.
Rysáit 2 - Cyw Iâr Sbaenaidd
Mae paru gwin o'r un wlad â'r rysáit neu'r cynhwysion yn y rysáit yn medru gwella ac ychwanegu at fwynhad y pryd yn sylweddol. Mae'r cytgord hwn rhwng blasau'r bwyd a nodweddion y gwin lleol yn aml yn dod â'r gorau allan ym mhob un elfen o’r rysait, gan greu profiad bwyta pleserus. Ar gyfer rhai seigiau, mae'r paru hwn yn hanfodol, gan ddarparu cydbwysedd a allai fel arall gael ei fethu. Yn achos y rysáit Cyw Iâr Sbaeneg yma, byddai gwin coch Sbaenaidd cadarn gyda thannin yn gyfaill delfrydol, gan ategu blasau cyfoethog y rysait ac ychwanegu dyfnder at y blasau.
Mae'r gwin Cigales hwn, wedi'i grefftio o Tempranillo (a elwir yn lleol fel Tinta del Pais), yn cynnig mynegiant sawrus a hawdd mynd ato o'r grawnwin poblogaidd yma. Mae ganddo daflod hael o flasau mefus sych, sbeislyd, priddlyd, wedi'u hategu gan danin amlwg ond dymunol sy’n sefyll fyny i flasau’r sbeis a’r cynhwysion fel cyfanwaith. O'i gymharu â gwinoedd o’r ardal drws nesaf yn Ribera del Duero, mae’r gwin Cigales yma yn llai pwerus a beiddgar, ond yn gyfuniad sy’n cyd-weithio gyda’r holl flasau Sbaenaidd.
Mae'n win byddai’n cyfuno’n dda gyda’r cynhwysion i greu profiad hynod o bleserus ac yn gyfuniad gwych gyda'r cyw iâr.
Gwin o Gymru - ‘Harry’ O Winllan White Castle, Y Fenni - £26.50 o’r winllan - www.whitecastlevineyard.com
Dyma win a gynhyrchir gan Robb a Nicola Merchant ychydig filltiroedd tu allan i dre’r Fenni. Gyda’i lethrau yn wynebu’r haul, mae’r grawnwin Rondo yma yn cael cyfle i aeddfedu a datblygu i’w llawn botensial, cyn cael ei gwasgu a’u heplesu mewn casgenni derw Ffrengig. Mae hyn yn rhoi blasau hynod gytbwys, myglyd i’r gwin, gyda thanin meddal ond pleserus, a chorff canolig i’r gwin. Byddai’n win hynod o addas gyda’r rysáit yma yn ein barn ni.
Wedi ei enwi ar ôl wŷr y perchnogion, mae’n un o’r gwinoedd Cymreig mwyaf llwyddiannus. Yn enillwyr gwin coch gorau Cymru yn 2023 a llu o wobrau eraill, mae’n win ychydig yn fwy costus na gwinoedd eraill o’r archfarchnad, ond yn werth ei flasu, yn enwedig gyda rysáit hynod fel yr un yma.
Wrth baru bwyd gyda unrhyw fath o bysgod, nid yn unig bod rhaid ystyried y pysgod ei hun, ond hefyd yr hyn a weinir gyda’r pysgod. Mae’r rysáit yma yn cynnwys elfennau sitrws gyda’r oren, yn ogystal â sbeis o’r harissa. I gadw at geinder y penfras, rhaid cael gwin sy’n gytbwys gyda rhain i gyd. Mae’r gwin yma o M&S yn un sy’n gwneud hyn yn berffaith!
M&S - Cotes du Rhone Blanc, Pont de Fleur - £9.00
Fel arfer, gwinoedd coch a gynhyrchir gan winllannoedd enwog y Cote Du Rhone yn Ne Ffrainc. Beth sy’n wahanol yma yw mai cyfuniad o Grenache Blanc, Viognier a Marsanne sydd yma, 3 math o rawnwin gwyn sy’n paru’n berffaith gyda bwydydd o bob math. Mae rhain yn rawnwin delfrydol i’w cyfuno gyda’i gilydd i greu gwinoedd sy’n hynod bleserus ac yn gweddu i amrywiaeth eang o ryseitiau.
Mae’n win cytbwys, llyfn gyda cheinder a nodau sitrws. Mae’n ddelfrydol ar gyfer unrhyw rysáit, gan baru’n gelfydd gyda sbeis o bob math, asidedd neu fwydydd sy’n cynnwys elfennau melys. Mae’n win sydd yn ychwanegu at geinder y penfras, ac yn cyfuno’n berffaith gyda’r elfennau o sitrws a sbeis. Mae’n win o safon am bris hynod gystadleuol, ac yn berffaith i’w yfed dros fisoedd yr haf.
Gwin ‘Pydew’ o Winllan Conwy, ger Cyffordd Llandudno - £19.95 o’r winllan ar www.gwinllanconwy.co.uk
Cyfuniad o amrywiaethau grawnwin Ortega a Phoenix, wedi'i enwi ar ôl y ‘Pydew’ prydferth lle mae'r winllan wedi'i lleoli yw’r gwin yma. Mae hwn yn win gwyn lled-sych gydag arogleuon o ellyg aeddfed ac afalau. Ar y daflod, mae nodiadau o sitrws yn dod i'r amlwg, gan gynnig profiad blasu cyfoethog ac adfywiol. Yn gweddu’n berffaith gyda bwyd y môr, mae’n ddewis gwahanol, ond yn un fydd yn siŵr o roi pleser gyda’r rysáit hafaidd, bendigedig yma.
Discover more about our extensive range of professional services. We constantly update this page, but if you still can’t find what you’re looking for, please feel free to get in touch with us – we will be more than happy to help.
Os am win sy’n addas ar gyfer unrhyw achlysur hafaidd, gan gynnwys yr holl ryseitiau yma, yna mae’n anodd curo gwinoedd rhosliw. Yn gweddu’n berffaith gyda bwydydd o bob math, ceir enghreifftiau gwych a rhesymol o winoedd rhosliw ar draws y byd. Er dweud hyn, mae’r gwin rhosliw Assyrtiko Syrah gan gwmni Athlon a werthir yn Aldi am £9.99 yn ddewis perffaith i’r hâf yn ein barn ni.
Yn gyfuniad o 75% Assyrtiko a 25% o Syrah, mae’r sitrws adfywiol a'r blasau mwynol o’r grawnwin Assyrtiko yn asio’n berffaith gyda’r ffrwythau coch sbeislyd sy’n nodweddiadol o rawnwin Syrah. Mae’n sawrus, yn llawn cymeriad ac yn gymar perffaith i’r ryseitiau yma neu unrhyw ddathliad dros yr haf. Iechyd Da!
©Hawlfraint Gwin a Mwy. Cedwir Pob Hawl.
We need your consent to load the translations
We use a third-party service to translate the website content that may collect data about your activity. Please review the details in the privacy policy and accept the service to view the translations.