Er na fyddai llawer yn cysylltu Cymru fel gwlad amlwg sy’n cynhyrchu gwin, mae gwinoedd Cymreig yn profi dadeni wrth i’r hinsawdd a thechnolegau tyfu gwinwydd newid a datblygu.
O ddyffrynnoedd gwyrddlas i lethrau arfordirol heulog, mae gwinllannoedd Cymru yn ffynnu, yn crefftio gwinoedd unigryw a blasus sydd erbyn hyn yn ennill cydnabyddiaeth a gwobrau rhyngwladol.
Yma yn Gwin a Mwy, rydym yn awyddus i ymhelaethu ar yr adfywiad yma mewn gwinoedd Cymreig ac am gynnig argymhellion ac ychydig mwy o wybodaeth am winllannoedd a gwinoedd Cymreig i’w trysori.
Ydy Cymru yn debyg i Ddyffryn y Loire yn Ffrainc, gyda’i hinsawdd tebyg a llethrau yn wynebu’r de? Dewch am daith gyda ni i ddarganfod mwy ac i weld os oes tebygrwydd rhwng y Loire a Chymru.
Mae'r dyddiau pan nad oedd gwin Cymreig yn ddim ond chwilfrydedd lleol wedi hen ddiflannu diolch byth. Heddiw, mae dros 30 o winllannoedd ledled y wlad yn tyfu amrywiaeth eang o rawnwin, gan gynnwys clasuron rhyngwladol megis Chardonnay a Pinot Noir, ochr yn ochr â grawnwin llai adnabyddus fel Bacchus a Seyval Blanc. Mae'r amrywiaeth hwn yn adlewyrchu ymroddiad gwneuthurwyr gwin angerddol o Fôn i Fynwy sy'n arbrofi ac yn arloesi'n gyson i gynhyrchu gwinoedd sy'n mynegi ‘terroir’ unigryw eu rhanbarthau priodol.
Tu Hwnt i'r Grawnwin
Yn wahanol i'w cyfoedion yn Ffrainc neu'r Eidal, mae gwinoedd Cymreig yn aml yn dangos cymeriad unigryw wedi'i siapio gan yr hinsawdd oer a phatrymau tywydd anrhagweladwy. Mae hyn yn trosi i winoedd sydd fel arfer yn ysgafnach eu corff, gydag asidedd adfywiol a blasau ffrwythau amlwg. Mae gwinoedd gwyn Cymreig yn dueddol o fod yn grimp ac aromatig, tra bod enghreifftiau o winoedd coch yn aml yn arddangos asidedd bywiog a thaninau cynnil.
Byd o Flasau
Mae harddwch gwinoedd Cymru yn gorwedd yn eu hamrywiaeth. O winoedd pefriog arobryn Ancre Hill Estates i winoedd naturiol Gwinllan y Dyffryn, mae pob gwinllan yn cynnig mynegiant unigryw o'i ‘terroir’ neu briddoedd ei hardal. Mae Rosé pefriog o Winllan y White Castle ger Y Fenni yn ymhyfrydu â'i ffrwythlondeb cain, tra bod Pinot Noir Gwinllan Glyndŵr yn cynnig profiad llyfn a chain. I'r rhai sy'n chwilio am rywbeth gwirioneddol unigryw, mae nifer o winllannoedd yn cynhyrchu gwinoedd naturiol a gwinoedd bio-deinameg ac organig, megis Gwinllan Velfrey ger Narberth yn Sir Benfro neu Winllan Hebron hefyd yn Sir Benfro.
Oherwydd yr hinsawdd oerach yng Nghymru, nid oes modd tyfu grawnwin sydd angen haul tanbaid a chyson i aeddfedu’r grawnwin, megis Shiraz, Pinot Grigio neu Sauvignon Blanc. Serch hynny, gyda chynhesu byd-eang a hinsawdd a thymheredd sy’n codi flwyddyn wrth flwyddyn, efallai bydd modd cynhyrchu gwinoedd fel yma yn y dyfodol.
Dylid hefyd ystyried nad yw Cymru yn wlad sydd yn mynd i gynhyrchu miloedd ar filoedd o boteli o win. Mae’r ansawdd o fewn y gwinoedd yma yn eithriadol o uchel, ac o ganlyniad, cadw at safon a sicrhau ansawdd mae’r gwneuthurwyr. O ganlyniad, nid yw gwinoedd Cymreig yn medru cystadlu gyda gwinoedd o wledydd sydd yn cynhyrchu cannoedd ar filoedd o boteli yn flynyddol, ac felly, mae’r pris yn mynd anffodus yn mynd i adlewyrchu ar hyn. Mae poteli gwin llonydd Cymreig i’w canfod am tua £20 y botel, gyda gwinoedd pefriog yn amrywio o £30 ac i fyny.
Gwinoedd i’w trysori a’i mwynhau ar achlysuron arbennig yw rhain ac yn hytrach na prynu gwinoedd rhatach a niferus o’ch archfarchnad neu fân-werthwr lleol, onid gwell byddai prynu llai o boteli ond prynu gwinoedd o’r ansawdd uchaf a hynny o Gymru?
Perffeithrwydd paru
Yn ein barn ni, mae gwinoedd Cymreig yn disgleirio wrth eu paru â’r cynnyrch lleol gorau. Mae bwyd môr ffres fel wystrys a chregyn gleision yn ategu at natur ffrwythus y gwinoedd gwyn, tra bod cig oen a chawsiau Cymreig yn cyd-fynd ag asidedd bywiog y gwinoedd coch a gynhyrchir. Mae’r amrywiaeth o winoedd pefriog a gynhyrchir gan winllannoedd ar draws y wlad yn ychwanegu ychydig o geinder i unrhyw achlysur, tra bod gwinoedd cyfnerthedig (fortified) yn paru'n hyfryd â phwdinau neu i’w mwynhau ar eu pen eu hunain. Yn ddiau, mae’r amrywiaeth yma o winoedd yn dangos sut mae gwinyddiaeth a balchder y gwneuthurwyr gwin mewn gwinllannoedd wedi datblygu dros y blynyddoedd a sut mae’r byd wedi dod i dderbyn gwinoedd Cymreig fel rhai i’w hystyried fel gwinoedd i’w mwynhau a’u trysori.
Ymweld â’r Gwinllannoedd
Y ffordd orau i wir werthfawrogi’r amrywiaeth o winoedd Cymreig yw ymweld â’r gwinllannoedd eu hunain. Mae llawer yn cynnig teithiau, sesiynau blasu, a hyd yn oed profiadau bwyta fel rhan o’r profiad i’r ymwelydd. Mae hyn yn sicrhau y medrir ymgolli yn llwyr o fewn y broses gwneud gwin a darganfod angerdd a dycnwch y gwneuthurwr tu ôl i bob potel. Mae hefyd yn gyfle i flasu a phrofi gwinoedd sydd efallai yn anghyfarwydd neu’n ddull newydd o gynhyrchu gwinoedd, cyn eu prynu a’u mwynhau o flaen y tân neu gyda ffrindiau.
Gwinllannoedd
Ceir amrywiaeth eang mewn gwinllannoedd ar draws Cymru. Gyda 36 gwinllan cydnabyddedig, ac yn tyfu blwyddyn ar flwyddyn, mae’r tiroedd sydd o dan winwydd yng Nghymru wedi cynyddu i dros 140 acer. Mewn cymhariaeth gyda gwledydd megis yr Eidal, Sbaen neu Awstralia, mae hyn yn nifer bychan iawn. Serch hyn, mae’r gwinoedd a gynhyrchir ar draws y wlad yn cynyddu mewn safon o un flwyddyn i’r nesaf, gyda gwinllannoedd a gwneuthurwyr yn datblygu ac yn mireinio eu gwinoedd a’u dulliau o gynhyrchu.
Er enghraifft, mae gwinllan Ancre Hill yn y Fenni wedi ei ddynodi yn winllan cwbl organig ac yn cynhyrchu gwinoedd biodeinameg yn ogystal a defnyddio dwr glaw wedi’ brosesu o fewn y broses o gynhyrchu gwin. Mae hyn yn arloesol ac yn arwain y gâd ymysg cynhyrchwyr.
Yn yr un modd, mae Gwinllan Velfrey yn Arberth, Sir Benfro yn cynhyrchu gwinoedd naturiol o’r ansawdd uchaf a hynny drwy ddefnyddio dulliau traddodiadol ac isel mewn carbon sy’n dangos gwir fynegiant a blasau’r grawnwin heb unrhyw ymyrraeth gan y gwneuthurwr gwin.
Ar y map isod, gellir gweld hyd a lled y gwinllannoedd amrywiol sydd yng Nghymru. Beth am alw heibio i’r winllan agosaf a blasu yr hyn sydd gan y winllan eu gynnig. Mae’r milltiroedd carbon yn isel wrth brynu gwinoedd lleol ac efallai y cewch eich synnu gan ansawdd a cheinder y gwinoedd yma.
Gwobrau ac Anrhydeddau nodedig
Gwobrau Gwin Cymru 2023: Enillodd "Harry" Gwinllan White Castle y Gwin Cyffredinol Gorau a'r Gwin Gorau gyda PDO/PGI (Dynodiad Tarddiad Gwarchodedig / Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig).
Gwobrau Gwin Cymru 2023: Enillodd Gwinllan ‘The Dell’ yn Rhaglan, Sir Fynwy, y wobr am win rhosliw llonydd gorau Cymru am ei gwin ‘Y Lleidr’. Gan ystyried y bu i’r winllan golli ei dyfiant o rawnwin i adar duon a moch daear yn 2021, gan adael dim ond 130 potel o win, roedd derbyn y gydnabyddiaeth yma flwyddyn yn ddiweddarach yn gamp aruthrol.
Sialens Gwin Rhyngwladol 2021: Enillodd Gwinllan Conwy Winllan efydd am eu gwinoedd gwyn llonydd a phefriog.
Gwobrau Decanter World Wine 2021: Enillodd gwinllan White Castle y wobr aur am eu gwin coch ac arian am eu Pinot Noir.
Gwinllannoedd sydd wedi ennill gwobrau eraill:
Y tu hwnt i wobrau unigol, mae ansawdd cyffredinol gwinoedd Cymru wedi’i gydnabod:
Felly, er efallai nad Cymru yw'r rhanbarth cyntaf sy'n dod i'r meddwl am winoedd neu cynhyrchu gwin, nid oes gwadu'r gydnabyddiaeth gynyddol y mae cynhyrchwyr gwinoedd Cymreig yn ei chael am eu hymroddiad i ansawdd ac arloesedd. Wrth ddod i’r brig mewn cystadlaethau rhyngwladol a chael cydnabyddiaeth ehangach, mae gwinoedd Cymreig yn cynyddu mewn poblogrwydd.
P'un a ydych chi'n arbenigwr gwin profiadol neu'n chwilfrydig am archwilio blasau newydd, mae gwinoedd Cymreig yn cynnig taith hyfryd o ddarganfod a mwynhad yn ein barn ni. Gyda'u cymeriad unigryw, eu hymroddiad i ansawdd, a'u hymrwymiad i arferion cynaliadwy, mae'r gwinoedd hyn ar fin dod yn berl cudd nesaf yn y byd gwin byd-eang. Felly, codwch wydraid a chynnig llwnc destun i ddyfodol cyffrous gwin Cymreig!
Gwybodaeth Ychwanegol:
Isod, ceir dolenni i winllannoedd Cymreig a chwmnïau sydd yn gwerthu gwinoedd Cymreig:
Adnoddau:
Cymdeithas Gwinllannoedd Cymru: http://www.winetrailwales.co.uk
Gwinllannoedd Cymru – http://www.vineyards.wales
Croeso Cymru: https://www.visitwales.com/things-do/food-and-drink/award-winning-wines-wales
Gwinllanoedd a Argymhellir:
White Castle, Y Fenni – www.whitecastlevineyard.com
Gwinllan Llaethliw, Neuaddlwyd, Aberaeron – www.llaethliw.co.uk
Gwinllan Conwy – www.gwinllanconwy.co.uk
Ancre Hill, Sir Fynwy – www.ancrehillestates.co.uk
Gwinllan Velfrey, Sir Benfro – www.velfreyvineyard.com
Manwerthwyr a Siopau sy’n gwerthu gwin Cymreig:
VinVan Cymru, Caerdydd – www.vinvancymru.co.uk
Gwin Dylanwad, Dolgellau – www.dylanwad.co.uk
Blas ar Fwyd, Llanrwst – www.blasarfwyd.com
Vinomondo, Conwy – www.vinomondo.co.uk
Fine Wines Direct UK, Caerdydd – www.finewinesdirectuk.com
Mumbles Fine Wines, Y Mwmbwls, Abertawe – www.mumblesfinewines.co.uk
Cheers, Y Mwmbwls a West Cross, Abertawe – www.cheerswinemerchants.co.uk
Diod a Cegin Diod, Llandeilo – https://diod.cymru
Chilled & Tannin, Caerdydd – www.chilledandtannin.com
Cambrian Wines, Wrecsam – www.cambrianwines.com
Dyma enghraifft o win gyda blasau dwys o eirin gwlanog, sitrws a blasau ysgawen. Mae’n win hynod o gelfydd gyda diweddglo hir. Dyma, yn ein barn ni, yw ateb Cymru i win Sauvignon Blanc o Ddyffryn Loire yn Ffrainc.
Gwin wedi ei gynhyrchu yn gyfangwbl o rawnwin Solaris, mae’n win gydag asidedd uchel, ond yn gytbwys gyda lefelau siwgr dymunol ond heb fod yn rhy felys. Yn ddelfrydol gyda unrhyw rysáit bwyd y môr, cregyn gleision neu wystrys. Mae’r winllan wedi’i lleoli ger Cyffordd Llandudno, ac mae’r hinsawdd tyfu yn gwbl unigryw, gyda microhinsawdd na welir yn unrhyw le arall yng Nghymru. Ceir cyfleoedd hefyd am deithiau o gwmpas y winllan, a chyfle i flasu’r gwinoedd a gynhyrchir.
Dyma winllan sydd wedi datblygu yn sylweddol ers plannu’r gwinwydd cyntaf yn 2012. Cynhyrchir gwinoedd Gwyn o rawnwin Solaris, gwin coch o winwydd Rondo, yn ogystal a grawnwin rhyngwladol megis Pinot Noir a Chardonnay oherwydd yr hinsawdd. Cynyhyrchir gwinoedd llonydd a phefriog, ac yn ddibynnol ar y cynhaeaf, mae’r winllan yn cynhyrchu gwinoedd melys yn ogystal a hynny o rawnwin Solaris sydd wedi ei aeddfedu ar y winwydd am gyfnod hirach nag ar gyfer gwin llonydd. Byddai’r gwin melys yn gyfuniad bendigedig gyda chaws glas megis Perl Wen neu Môn Las, ond hefyd yn wych gyda siocled tywyll.
Mae gwinllan Llaethliw wedi ei leoli ychydig filltiroedd o arfordir Ceredigion yn Neuaddlwyd ger Aberaeron. Ers is Richard a Siw Evans brynu’r ystâd yn 2008, mae dros 15,000 o winwydd wedi’i plannu ar yr ystâd. Yn amrywio o rawnwin Rondo a Regent coch, i Orion a Solaris gwyn, mae’r winllan yn gwbl organig ac ni ddefnyddir unrhyw chwyn laddwyr na chemegolion ar y winllan. Prosiect arallgyfeirio oedd hwn i’r cwpwl yma, ac ynghyd a Jac ei mab a’r teulu, mae’n fenter deuluol sy’n cynnig amrywiaeth o winoedd llonydd a pefriog, yn ogystal a seidr a llety hunan-arlwy ar y winllan.
Yma yn Gwin a Mwy, mae’r gwin Solaris gwyn yn ffefryn gennym. Dyma win adfywiol a chwaethus, gyda blasau eirin gwlanog aeddfed, lemwn ac ysgawen, nodweddion amlwg o’r math yma o rawnwin, ond sydd wedi ei gynhyrchu mewn modd cywrain a gwahanol i’r gwin o Winllan Conwy.
Mae’r asidedd uchel a blasau mwynol yn dangos nodweddion priddoedd rhwng y môr a mynyddoedd y Cambrian yn fendigedig. Yn gytbwys o ran melyster gyda gorffeniad hir a chwaethus, dyma win gwyn sy’n dangos gwinoedd Cymreig ar ei orau yn ein barn ni. Gyda’r newid mewn tywydd yn flynyddol, mae’r gwinoedd yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn, ond mae’r safon yn uchel ac yn dangos datblygiad y winllan a’r cynhyrchwyr wrth addasu i’r hinsawdd. Rydym wedi argymell y gwin yma ar gyfer un o ryseitiau Nerys Howell, sef pryd o Macrell Cei Newydd – Bendigedig!
Yng nghystadleuaeth Gwinoedd Cymru 2023, dyma oedd gwin rhosliw gorau Cymru. Hawdd yw gfweld pam i’r beirniaid gael eu swyno gyda’r gwin yma, sy’n esiampl gwych o win rhosliw sych a chwaethus, gyda blasau cain mefus a mafon.
Cymysgedd o rawnwin Pinot Noir a Seyval Blanc sydd yn y gwin yma – cyfuniad sydd yn gweithio’n dda gyda’i gilydd i greu gwin llawn afiaith, ond gydag alcohol isel o 11%. Gwinllan deuluol bychan yng nghanol Sir Fynwy yw Gwinllan y Dell, ac er i winwydd Seyval Blanc a Phoenix gael eu plannu ar y winllan ar ddechrau’r mileniwm yma, bu rhaid i’r perchnogion presennol, Dan a Lucy Alford, blannu mwy o winwydd gan ganolbwyntio ar blannu gwinwydd Pinot Noir a Solaris. Canlyniad hyn yw gwinwydd sy’n cynhyrchu gwin gwyn a rhosliw, yn ogystal a chreu jin gyda chroen y grawnwin Pinot Noir.
Mae’r rhosliw yma yn ddelfrydol i’w weini ar noson o hâf, dros barbeciw neu gyda chyda chigoedd wedi’u halltu fel ham Caerfyrddin neu charcuterie. Bu bron i’r winllan golli ei holl dyfiant o rawnwin Pinot Noir a Seyval Blanc yn 2021 a hynny wrth i foch daear ac adar duon fwyta’r grawnwin – dyna pam y gwelir aderyn du ar y label, gan i’r ‘lladron’ yma fod yn ysbrydoliaeth am y gwin a’i enw! Potel gwerth ei hystyried gan ddangos datblygiad gwin Cymreig i gynhyrchu gwin welir gan amlaf mewn gwledydd tipyn cynhesach na Chymru.
Cynhyrchir gwin gwyn sych gydag ychysg o spritz cwbl wych o’r enw ‘Yr Afanc’ gan y winllan hefyd, sy’n gymysgedd o rawnwin cwbl unigryw sef Reichensteiner, Phoenix, Schonberger ac Ortega. Yn llawn blasau sitrws, gellyg ac arogl porfa we3di ei dorri, dyma esiampl o’r hâf mewn gwydr yn ein barn ni!
Rydym yn ffodus iawn yma yn Gwin a Mwy o gael blasu gwin cwbl newydd sydd i’w lawnsio i’r farchnad o fewn yr wythnosau nesaf gan winllan White Castle, sef gwin rhosliw pefriog Esmae gan Winllan White Castle.
Mae Robb Marchant yn un o lysgenhadon amlycaf gwinoedd Cymreig. Yn arloeswr mewn plannu a thyfu gwinwydd ar ei winllan tu allan i dref Y Fenni yn Sir Fynwy, mae Robb Merchant a’r teulu wedi bod ar flaen y gâd wrth hyrwyddo a datblygu y diwydiant gwin yng Nghymru dros y blynyddoedd. Yn enillwyr llu o wobrau rhyngwladol, dyma wneuthurwr gwin adnabyddus sy’n cynhyrchu gwinoedd o’r safon a’r ansawdd uchaf.
Mae’r gwin rhosliw pefriog yma a wneir o rawnwin Seyval Blanc a Regent yn esiampl wych o sut medrir cynhyrchu gwin o’r ansawdd uchaf posib sy’n cymharu â siampên rhosliw o Ffrainc yn ein barn ni. Yn olau mewn lliw, ceir arogl o flodau ysgawen a gwsberis cain. Mae’r swigod yn ysgafn a chain, ond gyda chorff cadarn a blasau burum a bisgedi amlwg – nodweddion sy’n dangos aeddfedu ar ‘lees’ y burum.
Dyma win chwaethus, soffistigedig ar gyfer achlysur arbennig yn ein barn ni. Ni ddefnyddir unrhyw bapur arian (foil) o amgylch gwddf y botel a hynny er mwyn lleihau ar ôl troed carbon a gwastraff y winllan. Mae hyn yn rhywbeth mae cynhyrchwyr fel White Castle a manwerthwyr megis Waitrose wedi ei ddatblygu o fewn y misoedd diwethaf ac mae’n gam i’w groesawu wrth ystyried gwastraff. Bydd y gwin yma ar gael ar gyfer gwyliau’r Pasg 2024 - beth yn well na gwydraid neu ddau i ddathlu’r Pasg a dyfodiad y gwanwyn a’r hâf!
Gwin pefriog, organig a bio-deinameg o winllan Ancre Hill tu allan i DreFynwy sydd gennym yma. Wedi’i gynhyrchu o 100% o rawnwin Pinot Noir, dyma enghraifft o win gwin pefriog yn arddull ‘Blanc de Noir’ Ffrengig, gan mae grawnwin tywyll yw Pinot Noir.
Dyma potel sy’n dangos gwir gwerth am arian yn ein barn ni. Mae’n llawn blasau sitrws ac afal ffres tra’n chwaethus ac yn hynod ddeniadol gyda swigod mân. Er yn dangos ffresni, mae’n win dwys ac afiaethus, ac yn dangos blasau mwynol tirwedd Sir Fynwy yn berffaith.
Mae’r winllan yn un o’n rhai amlycaf yng Nghymru, gan gynhyrchu gwinoedd o’r safon uchaf. Gyda gwinwydd ar lethrau sy’n wynebu’r de, mae’r grawnwin yn cael y cyfle gorau i aeddfedu ac hynny mewn gwinllan sy’n gwbl organig ac yn arloesi gyda dulliau tyfu a chynaeafu sy’n defnyddio’r technoleg diweddaraf a hynny mewn gwin-dŷ ddatblygwyd gyda pwyslais ar gynaladwyedd.
Mae enghreifftiau eraill gwych o winoedd pefriog gan Ancre Hill, megis y gwin Blanc De Noirs gwreiddiol sydd cystal (os nad yn well!) na’r hyn gynhyrchir gan wneuthurwyr amlwg ac enwog ochr draw i Glawdd Offa. Yn win ar gyfer dathliad neu achlysur arbennig ac yn esiampl o sut mae gwinoedd pefriog Cymreig wedi datblygu yn y blynyddoedd diwethaf.
Gwinllan sefydlwyd yn 2017 yw Gwinllan Velfrey. Yn un o’r gwinllannoedd ifancaf a’r diweddaraf yng Nghymru, mae’r winllan wedi creu enw da i’w hun wrth gynhyrchu gwinoedd pefriog hynod chwaethus a deniadol. Yn enillwyr amryw o wobrau, mae hyn yn dipyn o gamp am winllan newydd ac ifanc, gan bod angen i winllan aeddfedu a datblygu am nifer o flynyddoedd cyn medrir cynhyrchu grawnwin i’w gwerthu.
Mae’r enghraifft yma yn dangos arogl blodeuog cain ysgawen a gellyg gan gyfuno blasau sitrws ac eirin gwlanog ynghyd a blasau bara a brioche melys o’r broses eplesu ac aeddfedu am gyfnod o 18 mis. Gydag asidedd uchel, ond adfywiol, mae’n win hynod o gytbwys gyda diweddglo deniadol fydd yn goron ar unrhyw ddathliad yn ein barn ni. Cymysgedd o rawnwin Seyval Blanc, Pinot Noir a Chardonnay a geir yma, sy’n aeddfedu yn dda yn haul godidog Sir Benfro. Mae’r tir a’r priddoedd ar y winllan yn debyg iawn i’r hyn a geir mewn rhanbarthau tyfu gwin enwocaf Ffrainc, a gydag awelon o’r mor, mae’r amodau tyfu yn berffaith gan roi blasau mwynol, aeddfed godidog i’r gwin.
Yn enillwyr medal arian yng ngwobrau’r Gymdeithas Win Brydeinig yn 2023, gyda’r beirniad gwin amlwg Oz Clarke yn dewis y gwin yma fel un o’r gwinoedd pefriog gorau ym Mhrydain, mae’n enghraifft wych o sut mae gwin pefriog gynhyrchwyd yn y dull traddodiadol fel y gwenir yn ardal Champagne yn cael ei efelychu yma yng Nghymru. Mae’r winllan hefyd yn cynnig bwyty a theithiau blasu o amgylch y winllan hefyd. Cynhyrchir gwin pefriog rhosliw gwych o’r enw ‘Rhosyn’ gan y winllan, ac mi fyddwn yn adolygu’r gwin yma yn fuan yn y dyfodol.
Gwin wedi ei gynhyrchu o 100% o rawnwin Rondo yw hwn. Mae aroglau a blasau eirin coch, ceirios a mwyar duon yn amlwg yn y gwin, gan greu corff cadarn ond gyda strwythur tanin llyfn i’r gwin.
Mae gwinoedd a gynhyrchir o rawnwin Rondo yn medru bod yn felys ac yn aml heb corff a sylwedd yn ein barn ni. Mae’r gwin yma yn wrthbwynt i hyn, gan ddangos nodweddion a blasau cryf, heb y melyster ddaw yn draddodiadol o’r math yma o rawnwin. Yn gyfuniad perffaith gyda chig oen wedi’i rhostio, byddai hwn yn gweddu’n dda fel gwin i’w weini dros wyliau’r Pasg. Mae diweddglo gydag ychydig o flasau sbeislyd yn ychwanegu at fwynhad y gwin yma, byddai hefyd yn wych gyda chaws caled aeddfed fel caws Teifi neu gaws Cheddar aeddfed gan Gwmni Caws Eryri.
Gyda theithiau o amgylch y winllan, perllan sy’n tyfu afalau i wneud seidr ‘Hansh’ a llety hunan-arlwy ar gael ar y winllan yn ogystal, byddai’n ymweliad diddorol i un o winllannoedd newydd ar arloesol Cymru.
White Castle, Harry – Sir Fynwy
Er mae gwin o rawnwin Rondo fel yr un o Llaethliw yw hwn, mae’r gwin yma yn wahanol am ei fod wedi ei aeddfedu yn gyntaf mewn dur di-staen ac yna mewn casgenni derw Ffrengig i greu gwin cyfoethog a chorff canolig.
Yn win coch clasurol, tywyll, mae’n cyfuno aroglau ffrwythau aeron tywyll â blasau mwyar duon ac eirin gydag asidedd bywiog am win o’r math yma. Gyda’r blasau ychwanegol wrth aeddfedu mewn casgenni derw, mae’r cyfuniad yn chwaethus, clasurol ac yn esiampl o sut medrir cynhyrchu gwin coch yn arddull gwinoedd Ffrengig yma yng Nghymru. Dyma win pwerus a chelfydd iawn, sy’n fynegiant clasurol o’r grawnwin a’r dull o
Yn enillydd gwin coch gorau Cymru yng ngwobrau Gwin Cymru 2021, mae’n win hynod a gosgeiddig, ac yn gymar perffaith gyda chig coch, caws aeddfed neu ar ben ei hun. Mae’r gwin wedi ei enwi ar ôl wŷr y perchnogion, Robb a Nicola Merchant, sydd yn gobeithio y bydd yn ennyn diddordeb i barhau gyda’r winllan ac i gynhyrchu gwinoedd yn y dyfodol. Gwin i’w drysori o winllan enwog a gwneuthurwyr sydd wedi gwneud cymaint i ddod a sylw’r byd i winoedd o Gymru.
Er bod gwinllannoedd a cynhyrchu gwin yn ddiwydiant lled-newydd yng Nghymru, mae gwinoedd Cymreig wedi ennill eu lle ar silffoedd ein harchfarchnadoedd, yn ogystal ag ennill gwobrau dros y blynyddoedd diwethaf. Er i Marcwis Bute dyfu gwinllan a chreu gwin ger Castell Coch yng Nghaerdydd ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, oedd yn ôl pob sôn, yn llawn siwgr, mae’r gwinoedd gynhyrchir yng Nghymru heddiw o’r safon a’r ansawdd uchaf.
Gyda gwinllannoedd organig a biodeinameg yn defnyddio technegau tyfu arloesol, mae dyfodol disglair i ddiwydiant gwin Cymru. Mae’r gwinoedd yn ennill gwobrau rhyngwladol, a pwy sydd angen teithio a phrynu gwinoedd o wledydd eraill pan fo gwinoedd chwaethus, safonol gyda ni yng Nghymru! Iechyd Da!
©Hawlfraint Gwin a Mwy. Cedwir Pob Hawl.
We need your consent to load the translations
We use a third-party service to translate the website content that may collect data about your activity. Please review the details in the privacy policy and accept the service to view the translations.