Wrth i Bythefnos Masnach Deg 2024 gyrraedd, rydym am ganolbwyntio ar effaith bwerus gwinoedd masnach deg ar gymunedau ledled y byd.
O'r gwinllannoedd heulog yn La Rioja, yr Ariannin, i fryniau tonnog De Affrica a Chile, mae tyfwyr gwin a chymunedau cyfagos o fewn dalgylch gwinllanoedd o'r fath wedi gweld trawsnewidiad yn eu bywydau o ganlyniad i nwyddau masnach deg, gan gynnwys gwin.
Gyda'r elusen yn yn dathlu ei 30ain pen-blwydd eleni, a'r Co-op yn dathlu 20 mlynedd o fod yn gysylltiedig gyda'r elusen, mae eu hymrwymiad i winoedd Fairtrade yn gryfach nag erioed. Mae'r Co-op yn cynnig gostyngiad o 10% ar winoedd Masnach Deg i ddeiliaid cerdyn aelodaeth yn ogystal a bod yn un o fan-werthwyr nwyddau masnach deg mwyaf y byd, mae'r Co-op yn gwahodd ni i fwynhau gwinoedd o'r radd flaenaf, ond hefyd i gyfrannu at newid cymdeithasol ac economaidd hanfodol yn y rhanbarthau lle cynhyrchir y gwinoedd hyn.
Ond beth yw tarddiad gwinoedd masnach deg a pha winoedd dylid ei hystyried fel gwinoedd da sydd hefyd yn cyfrannu at ddatblygiad cymunedau ddaw o dan adain elusen Masnach Deg?
I ddarganfod mwy am yr elsuen, cliciwch y ddolen islaw.
Mae gwin wedi bod yn sail i ddiwylliant dynol ers miloedd o flynyddoedd, ond tu ôl i'r llen, mae'r diwydiant yn aml wedi esgor ar greu byd sy'n llawn anghyfartaledd. Ar draws llawer o wledydd cynhyrchu gwin, mae ffermwyr bach a gweithwyr ar ystadau mawr yn aml yn wynebu amodau gwaith caled, cyflogau annigonol, a mynediad cyfyngedig at wasanaethau sylfaenol fel addysg, gofal iechyd a dŵr glân.
Dyma lle mae ardystiad Masnach Deg neu 'Fairtrade' yn chwarae rhan allweddol. Wedi'i sefydlu i fynd i'r afael â chamfanteisio ar lafur a gwella amodau gwaith, mae Safonau Masnach Deg yn gwarantu pris lleiaf i ffermwyr a gweithwyr am eu cynnyrch, ynghyd â Phremiwm ychwanegol elwir y Premiwm Masnach Deg. Mae'r arian a godir drwy'r premiwm ychwanegol hwn yn cael ei ailfuddsoddi yn y cymunedau lleol, gan gefnogi prosiectau hanfodol sy'n gwella safonau byw a datblygu gwell bywyd i'r rhai sy'n byw o fewn y cymunedau yma. Drwy ddewis gwinoedd Masnach Deg, mae defnyddwyr yn cefnogi mentrau sy'n cynnig cyflog teg, gofal iechyd, a chyfleoedd addysgol.
Mae pedair prif wlad sydd yn gysylltiedig â'r elusen Masnach Deg o fewn y diwydiant gwin - sef Yr Ariannin, De Affrig, Chile a Libanus. Byddwn yn nodi rhai o'r prosiectau sydd wedi elwa o'r elusen, gan nodi dylanwad yr archfarchnadoedd wrth gynnig nwyddau a gwinoedd masnach deg.
Ymhlith yr enghreifftiau gorau o effaith gadarnhaol Masnach Deg mae'r rhanbarth tyfu gwin yn La Rioja, yr Ariannin. Wedi'i leoli yng Ngheunant hardd Famatina, mae'r rhanbarth hwn yn gartref i La Riojana, un o undebau tyfu gwin mwyaf yr Ariannin. Mae'n cynnwys 500 o deuluoedd o dyfwyr sy'n rhan o gymuned ddeinamig ac arloesol. La Riojana yw un o ddeg allforiwr gwin mwyaf yr Ariannin, gan gynhyrchu amrywiaeth eang o winoedd Masnach Deg ac sydd hefyd yn organig.
Un o'r effeithiau mwyaf arwyddocaol o werthu grawnwin a chynhyrchu gwin Masnach Deg yn La Rioja yw gosod cyfleuster dŵr glân i'r gymuned. Diolch i'r Premiwm ychwanegol a delir am y grawnwin yma o dan gynllun Masnach Deg, mae'r cyfleuster hwn yn darparu dŵr yfed diogel a glân i'r pentref cyfan, datblygiad hanfodol mewn ardal lle'r oedd mynediad at ddŵr glân yn her aruthrol yn y gorffennol.
Yn ogystal, mae'r cyllid wedi galluogi adeiladu ysgol uwchradd sy'n gwasanaethu dros 600 o blant. Mae'r ysgol hon, a adeiladwyd gyda chyllid Masnach Deg uniongyrchol o Brydain, yn cynnig addysg rhad ac am ddim ac o ansawdd uchel ac yn rhoi cyfleoedd i ddatblygu a dysgu sgiliau, llythrenedd a rhifyddeg i lawer o deuluoedd yn y rhanbarth. Yn ogystal, mae canolfan gofal iechyd fawr ar fin cael ei hadeiladu, gyda'r nod o wasanaethu tua 10,000 o bobl gyda gofal iechyd arbenigol.
Mae'r Co-op yn cynnig dau win rhagorol o'r rhanbarth hwn, sef yr Irresistible Fairtrade Tilimuqui Sparkling Brut a Irresistible Fairtrade Organic Malbec, pob un yn adlewyrchu terroir unigryw La Rioja tra'n cefnogi cynnydd cymdeithasol ac economaidd y gymuned. Ceir mwy o fanylion islaw.
Mae De Affrica, cynhyrchydd mwyaf gwin Masnach Deg y byd, yn gartref i 24 o sefydliadau cynhyrchwyr gwin Fairtrade.
Mae diwydiant gwinoedd y wlad wedi’i faeddu gan anghyfartaleddau hanesyddol a gysylltir ag apartheid, gyda materion dwfn wedi’u gwreiddio fel cyflogau gwael, tai annigonol, a diffyg hawliau gweithwyr.
Fodd bynnag, mae cyflwyniad ardystiad Masnach Deg wedi arwain at welliannau sylweddol yn safonau llafur ac amodau gwaith, ac wedi cynyddu safon byw trigolion yr ardaloedd lle tyfu grawnwin yw'r brif ffrwd i greu incwm
Mae'r arian ddaw o werthu ffrwythau a grawnwin Masnach Deg yn cefnogi popeth o ddarparu addysg a gofal iechyd i wella tai, gan roi cyfleoedd i weithwyr nad oedd ar gael iddynt o'r blaen.
Mae'n wir i ddweud bod y fasnach win wedi cynyddu safon byw, ymestyn oes cymunedau, ac wedi darparu addysg, gofal meddygol a dŵr glân i gymunedau tlawd a difreintiedig yn Ne Aaffrig, a hynny ar adeg pan oedd y wlad yn dechrau torri'n rhydd o'r gyfundrefn apartheid a'r diffyg buddsoddiad a fu yng nghymunedau bobl dduon y wlad.
Yn yr un modd, yn Chile yn Ne America, mae naw sefydliad cynhyrchwyr yn elwa o safonau Masnach Deg.
Mewn gwlad lle mae tyfwyr gwin bach yn wynebu ansicrwydd marchnad a thlodi, mae'r achrediad a ddarperir gan Masnach Deg yn yn darparu sefydlogrwydd ariannol sydd ei angen yn fawr ac yn sicrhau bod ffermwyr yn derbyn pris teg am eu grawnwin.
Mae'r diwydiant gwin wedi tyfu yn aruthrol yn Chile dros y tri degawd diwethaf, ac mae llawer o hyyn o ganlyniad i ffermwyr a chynhyrchwyr gwin yn gwerthu gwinoedd i wledydd fel Prydain a'r Unol Daleithiau oedd yn gwarantu prisiau cystadleuol a marchnad barod am winoedd o ansawdd.
Fel un o'r gwledydd sydd yn tyfu gyflymaf o ran nifer y gwin a gynhyrchir, mae Chile yn enghraifft erffaith o sut mae diwydiant oedd yn gymharaol fychan wedi medru manteisio ar sicrhau prisiau teg a sefydlog am winoedd, tra'n datblygu enw da am ansawdd. Yn wir, mae nifer o gynhyrchwyr mawr y wlad yn parhau i ddwefnyddio'r grawnwin a dyfir gan undebau a chymdeithasau tyfu gwin ac yn talu prisiau da, sydd hefyd yn sicrhau bod buddsoddiad mewn cyfleusterau addysg, iechyd ac hamdden o fewn rhai o gymunedau tlotaf y wlad.
Fel un o'r prif brynnwyr o winoedd Masnach Deg o Chile, mae partneriaethau'r Co-op gyda'r rhanbarthau hyn yn sicrhau bod ffermwyr a gweithwyr gwin yn cael eu grymuso i fuddsoddi yn eu cymunedau a gwella eu hansawdd bywyd.
Mae Libanus, gwlad sy’n enwog am ei thraddodiad hir o gynhyrchu gwin, wedi cymryd camau sylweddol tuag at arferion cynaliadwy a moesegol drwy fabwysiadu egwyddorion Masnach Deg. Er bod diwydiant gwin Libanus wedi canolbwyntio’n hanesyddol ar ansawdd a thraddodiad, mae cyflwyno achrediad Masnach Deg wedi dod ag ymwybyddiaeth newydd i ffermwyr a gweithwyr o fewn y diwydiant drwy wella amodau gwaith, talu cyflogau teg a datblygiad cymunedol.
Mae mentrau Masnach Deg yn Libanus wedi grymuso cynhyrchwyr gwin lleol i gael mwy o reolaeth dros eu cadwyni cyflenwi, gan sicrhau eu bod yn derbyn pris teg am eu grawnwin. Mae hyn wedi bod yn arbennig o bwysig mewn rhanbarth sydd wedi wynebu heriau economaidd a gwleidyddol sylweddol. Mae cyflwyno Masnach Deg wedi cynorthwyo i sefydlogi incwm, gan roi’r sicrwydd ariannol sydd ei angen ar ffermwyr i fuddsoddi yn eu gwinllannoedd a gwella eu technegau cynhyrchu.
Mae’r Premiwm Masnach Deg wedi cael ei ailfuddsoddi mewn sawl menter allweddol ar draws Libanus. Mae’r rhain yn cynnwys:
Rhaglenni Addysg: Mae cyllid wedi’i ddyrannu i wella mynediad i addysg i blant gweithwyr gwinllannoedd. Mae ysgolion newydd wedi’u hadeiladu, ac mae’r rhai sy’n bodoli eisoes wedi derbyn cyllid ar gyfer deunyddiau ac isadeiledd, gan roi gwell cyfleoedd i blant o ardaloedd gwledig.
Gwelliannau Gofal Iechyd: Mae Masnach Deg hefyd wedi ariannu rhaglenni gofal iechyd, gan helpu cymunedau i gael mynediad at wasanaethau meddygol hanfodol, a oedd yn anodd eu cyrraedd neu’n rhy ddrud. Mae hyn wedi cael effaith hynod fuddiol ar les teuluoedd yn y rhanbarthau cynhyrchu gwin.
Prosiectau Dŵr a Glanweithdra: Mewn gwlad lle gall mynediad at ddŵr glân fod yn gyfyngedig, mae arian Masnach Deg wedi helpu i adeiladu cyfleusterau dŵr glân ac i wella isadeiledd glanweithdra, gan sicrhau bod trigolion yn cael mynediad at ddŵr yfed diogel.
Mae effaith Masnach Deg ar gymunedau sy’n cynhyrchu gwin yn Libanus wedi bod yn sylweddol. Mae gan ffermwyr a gweithwyr amodau byw gwell, cyflogau gwell, a mwy o gyfleoedd i fuddsoddi yn eu teuluoedd ac yn eu dyfodol. Nid yn unig mae Masnach Deg wedi cryfhau diwydiant gwin Libanus, ond mae hefyd wedi darparu llwybr ar gyfer twf cynaliadwy, gan sicrhau y gall y cymunedau hyn ffynnu am genedlaethau i ddod.
Mae dylanwad Masnach Deg ar y diwydiant gwin byd-eang yn tyfu ac yn cynyddu mewn poblogrwydd. Ar draws yr Ariannin, De Affrica, a Chile:
Pam Mae Gwinoedd Masnach Deg yn Bwysig?
Drwy ddewis gwinoedd Masnach Deg, mae defnyddwyr yn dod yn rhan o symudiad byd-eang dros gyfiawnder cymdeithasol a chynaliadwyedd. Mae Masnach Deg yn sicrhau bod ffermwyr a gweithwyr ar raddfa fach yn cael eu talu'n deg, yn cael eu trin gyda pharch, ac yn cael y cyfleusterau sydd eu hangen arnynt i ffynnu. Mae hefyd yn darparu i brynwyr gwinoedd o ansawdd uchel, a gynhyrchir yn foesegol, o rai o'r rhanbarthau gwin mwyaf enwog yn y byd. Mae'r Co-op wedi bod ar flaen y gâd yn hyrwyddo'r nwyddau yma am ddau ddegawd, ac mae Waitrose hefyd wedi cynyddu ar y dewis o nwyddau masnach deg a gwinoedd a werthir o fewn eu siopau ar draws y wlad. Yn ddiau, dyma'r ddau archfarchnad sydd wedi hyrwyddo'r negesuon moesol am nwyddau Masnach Deg, gan sirhau newid byd i gymunedau ar draws y byd o ganlyniad i'w hymroddiad i'r elusen yma.
Wrth i ni ddathlu Pythefnos Masnach Deg 2024, mae'n werth cofio bod pob potel o win Masnach Deg rydych chi'n ei phrynu yn helpu i gefnogi prosiectau hanfodol ledled y byd. Boed yn win pefriog o La Rioja yn yr Ariannin neu'n goch cadarn o Dde Affrica, mae eich dewis yn gwneud gwahaniaeth pendant i fywydau miloedd o ffermwyr, gweithwyr, a'u teuluoedd.
Gyda'r dewis o winoedd Masnach Deg yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn, dyma gynnig argymhellion o'r gwinoedd gorau yn ein barn ni o'r gwledydd nodir uchod.
Cliciwch ar y llun i agor dolen yr archfarchnad am y gwinoedd yma.
Ymddangosiad
Mae’r gwin yn tywallt i'r gwydr yn felyn gwellt golau gyda swigod mân a chyson. Mae'r swigod cain ond cyson hyn yn rhoi bywiogrwydd i'r gwydr, gan wneud iddo ddisgleirio’n brydferth, sy'n nodweddiadol o’r dull Charmat (yr un dull a ddefnyddir i greu prosecco).
Arogl
Mae'r aroglau yn llawn perlysiau ac yn hynod ffrwythus, gan gynnig nodau blodau'r ysgawen, gellyg ffres, lemwn ffres a grawnffrwyth. Ceir awgrym cynnil o flasau trofannol, gyda 'kiwi' ac eirin gwlanog yn ychwanegu cymhlethdod. Mae’r arogl yn ffres, blodeuog, ac yn nodweddiadol o Torrontés, sef math o rawnwin brodorol o'r Ariannin, gan ddal arddull unigryw’r grawnwin gyda thro pefriog.
Blas
Ar y daflod, mae'r gwin yn sych ac yn fywiog, gan arddangos asidedd llachar. Mae'r blasau'n adlewyrchu'r trwyn, gyda lemwn, afal gwyrdd, a gellyg yn cymryd y blaen, gydaag arogleuon grawnffrwyth ac awgrym o eirin gwlanog. Mae ysbryd ffres fel 'sherbet' yn rhedeg trwy'r gwin, gan wella ei gymeriad ffres, crensiog. Mae’r swigod yn cymedrol ei lefel, gan gyfrannu at wead dymunol, tra bod y gorffeniad yn fywiog ac yn adfywiol.
Paru Bwyd
Mae'r Torrontés pefriog hwn yn gyfuniad amlbwrpas gyda nifer o seigiau. Mae ei asidedd a'i flasau bywiog yn cyd-fynd yn hyfryd gyda bwyd môr, fel gorgimwch neu cranc. Mae saladau ysgafn, yn enwedig rhai gyda olew sy'n cynnwys sitrws, cyw iâr wedi’i grilio, a choginio Thai hefyd yn bartneriaid gwych. I'r rhai sy'n hoff o gaws, mae asidedd y gwin yn torri drwy'r hufenedd caws gafr yn hawdd, tra bod ei broffil sitrws yn cyd-fynd â phwdinau lemwn.
Casgliad
Mae'r Coop Irresistible Fairtrade Tilimuqui Sparkling NV yn win pefriog ffres a bywiog gyda chymhlethdod aroglus sydd yn siŵr o greu argraff. Wedi'i wneud o 100% Torrontés a'i gynhyrchu gan ddefnyddio dull Charmat, mae’r gwin hwn yn cynnig dehongliad unigryw o rawnwin gwyn nodweddiadol yr Ariannin. Gyda’i swigod bywiog, aroglau blodeuog, a thaflod ffres, 'zesty', mae'n ddewis perffaith i’r rheini sy’n chwilio am opsiwn ysgafn, gyda llai o alcohol ar 10.5%. Yn ddelfrydol ar gyfer dathliadau, mae'n sefyll allan fel aperitif adfywiol neu fel gwin sy’n gweithio’n dda gyda llu o seigiau ysgafnach.
Ymddangosiad
Coch rwbi dwfn, gydag ymyl fioled fywiog sy’n dangos natur ifanc ac egniol y gwin. Mae ganddo ddwysedd canolig, bron yn inc ei olwg, sy'n addo cydbwysedd da rhwng strwythur a blas.
Arogl
Yn agor gyda ffrwydrad o fwyar duon ac eirin tywyll suddlon. Yn dilyn ei arllwys, ac wrth i'r arogl ddatblygu, mae nodau blodau fioled yn ymddangos, wedi’u cydbwyso'n gelfydd gan ychydig o wreiddlys a phinsiad ysgafn o bupur du nodweddiadol gan rawnwin Shiraz neu Syrah fel y'i gelwir yn Ffrainc.
Blas
Mae mwyar duon suddlon a mwyar gwyrdd yn dominyddu’r daflod, wedi’u cydbwyso’n wych gan hyfrydwch blodau fioled a thipyn o wreiddlys. Mae'r Shiraz yn cyfrannu tanninau mân a phinsiad o bupur, tra bod y Carignan yn dod â ffresni ysgafn a bywiog i'r cyfuniad yma. Mae'n win corff canolig, ond gyda dyfnder sylweddol, ac mae ganddo wead llyfn a gorffeniad boddhaol gyda chynildeb a nodau cefndirol o sbeis sy'n gytbwys ac yn ychwanegu elfen sawrus i'r gwin.
Paru Bwyd
Dyma win fyddai'n paru'n dda gyda amrywiaeth eang o fwydydd, yn arbennig gyda seigiau sbeislyd o'r Dwyrain Canol, pob math o gigoedd rhost fel cig eidion neu gig oen, neu gigoedd wedi’i grilio fel stêc neu golwythau cig oen. Gwin suddlon sy’n gweithio’n dda gyda byrddau o gigoedd wedi eu sychu (charcuterie) a llysiau rhost. Byddai' hefyd yn paru’n wych gyda chawsiau caled, aeddfed megis Cheddar neu Manchego.
Casgliad
Mae'r gwin hwn yn enghraifft o sut i gyfuno grawnwin am gyfuniad ystyrlon a chwaethus, gyda'r Shiraz yn cynnig strwythur a sbeis, a'r Carignan yn ychwanegu ysgafnder a ffresni. Yn ddelfrydol gyda seigiau sbeislyd o’r Dwyrain Canol, cigoedd rhost, neu wedi’i oeri ychydig gyda charcuterie. Mae ei gredydau Masnach Deg yn ychwanegu gwerth cymdeithasol i’r gwin, gan ei wneud yn ddewis blasus a chyfrifol.
Ymddangosiad
Lliw lemwn golau - mae’r Chenin Blanc hwn yn cyflwyno lliw llachar a chlir. Mae ei arlliw bywiog a'i liw yn dangos mai gwin ifanc gydag ansawddd ffres sydd yma.
Arogl
Ar y trwyn, mae'r gwin hwn yn wahoddol ar unwaith gyda pherarogl o afal gwyrdd a bricyll aeddfed. Mae nodiadau lemwn a leim llachar yn dod i'r amlwg, wedi’u hategu gan fflach o fwynoldeb. Mae hefyd awgrymiadau cynnil o flodau ac ychydig o gyfoeth melus, gan awgrymu cymhlethdod o dan yr arwyneb ffres, disglair.
Blas
Mae’r daflod yn fywiog ac adfywiol, yn dangos blasau sy’n adlewyrchu’r arogl. Mae’r afal gwyrdd a’r zest sitrws yn dod â asidedd dyfrllyd, wedi’i gydbwyso’n berffaith gan y bricyll ffrwythus a’r nodau meddal, melys. Mae asgwrn cefn mwynol amlwg sy’n rhoi ymyl soffistigedig i'r gwin, gan ychwanegu at orffeniad glân. Er ei fod heb aeddfedu mewn casgenni derw, mae’r gwin yn cyflwyno gwead crwn, gyda chydbwysedd pleserus o asidedd a dwyster ffrwythau.
Paru Bwyd
Mae'r asidedd yn ffres gyda proffil ffrwythlon y Chenin Blanc hwn yn ei wneud yn gydymaith gwych i amrywiaeth o seigiau. Mae’n paru’n hyfryd â bwyd môr ffres fel berdys wedi’u grilio yn ogystal â saladau ysgafnach a seigiau pysgod gwyn. Mae'r melysrwydd cynnil a'r mwynoldeb hefyd yn ei wneud yn bartner gwych ar gyfer seigiau Asiaidd aromatig fel cyri Thai neu salad nwdls Fietnamaidd, lle mae ei asidedd yn torri trwy'r blasau cyfoethog ac yn cyd-fynd â choginio sbeislyd.
Casgliad
Mae'r Waitrose Fairtrade Chenin Blanc hwn yn fynegiant hyfryd o’r grawnwin, gan gynnig ffresni adfywiol a blasau ffrwythlon llachar am bwynt pris hygyrch iawn. Mae'r cymhlethdod cynnil o'i fwynoldeb a'i nodau melys yn ei wneud yn fwy na dim ond gwin i’w yfed bob dydd. Yn berffaith ar gyfer achlysuron achlysurol neu fel gwin bwyd amlbwrpas, mae’r potel hon yn gyflwyniad gwych i Chenin Blanc De Affrica, gan ddarparu ansawdd cyson a gwerth rhagorol. Hefyd, mae ei ardystiad Masnach Deg yn golygu bod pob potel yn cefnogi’r gymuned ar fferm winllan Stellenrust yn Ne Affrig.
Ymddangosiad
Mae’r Malbec hwn yn arllwys lliw porffor tywyll sy'n awgrymu ei gorff llawn. Mae’r gwin yn glynu wrth y gwydr gyda gwelededd amlwg, gan awgrymu cyfoeth a dwyster.
Arogl
Are y trwyn, mae'r gwin yn agor gyda aeron duon a cheirios tywyll aeddfed, gyda haenau o felysrwydd bron fel jam. Mae ansawdd persawrus gyda nodau cain o rosynau sychion wedi'u hatgyfnerthu gan siocled tywyll a sbeis derw cynnil o'r broses heneiddio mewn derw Ffrengig ac Americanaidd newydd.
Blas
Ar y daflod, mae’r Malbec hwn yn hael ac yn llewni'r geg gyda blasau ffrwythau duon suddlon fel cyrens du, ceirios duon, ac eirin coch aeddfed. Mae'r gwin yn dangos cydbwysedd cain rhwng ffrwyth a sbeis, gyda nodau o bupur du a chyffyrddiad o fanila. Mae’r tanninau yn llyfn ond cadarn, gan roi strwythur, tra bod y gorffeniad yn hir a llawn halltedd, o bosib wedi’i ddylanwadu gan y gwinllannoedd ucheldirol. Mae hwn yn win cadarn a chyfoethog, ond yn parhau'n ffres oherwydd ei asidedd llachar.
Paru Bwyd
Mae’r Malbec hwn yn paru’n hyfryd gyda seigiau calonog megis stêcs wedi’u grilio, cawliau cig eidion cyfoethog, neu golwythau oen, lle mae ei ffrwythau cryf a’i dannin yn ategu blasau cadarn y cig. Ar gyfer opsiwn llysieuol, ystyriwch ei baru â phasta gyda tomato neu seigiau sy’n cynnwys olewydd du, madarch, a llysiau wedi’u grilio. Mae asidedd suddlon a strwythur tannig y gwin yn ei wneud yn gyfaill perffaith i blatiau caws sy’n cynnwys cawsiau cryf fel Manchego neu cheddar aeddfed.
Casgliad
Mae Co-op Fairtrade Irresistible Organic Malbec 2021 yn enghraifft nodedig o Malbec o'r Ariannin, gan gynnig gwerth ardderchog am ei bris. Gyda’i gorff llawn, proffil ffrwythau aeddfed, a’r derw wedi’i gyfuno’n dda, mae’n win sy’n rhagori am y pris, yn enwedig o ystyried ei gefndir moesegol. Mae’r fenter Masnach Deg y tu ôl i’r botel hon yn cynnwys ariannu ysgol yn Tilimuqui, yn ychwanegu at ei apêl. Perffaith ar gyfer y rhai sy’n chwilio am win sy’n flasus, sy'n cynnig gwerth am arian yn ogystal a bod yn win sy'n hybu'r elusen a gwlla bywydau yn ardal La Rioja yn yr Ariannin.
©Hawlfraint Gwin a Mwy. Cedwir Pob Hawl.
We need your consent to load the translations
We use a third-party service to translate the website content that may collect data about your activity. Please review the details in the privacy policy and accept the service to view the translations.