Cywain - Ryseitiau o'r Ardd Nerys Howell

Blwyddyn Newydd Dda! Efallai i Sion Corn alw heibio dros y Nadolig a gadael copi o lyfr gwych Nerys Howell - 'Cywain'. 

Mae'n lyfr llawn ysbrydoliaeth am prydau bwyd tymhorol a ryseitiau newydd sydd yn cyfuno llysiau a chynhwysion tymhorol. 

Yn wyneb a llais cyfarwydd ar S4C (Prynhawn Da, Heno), BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales, mae Nerys yn un o'n prif gogyddion yng Nghymru. 

Mae'r llyfr o wasg y Lolfa yn un dwyieithog, yn llawn ryseitiau bendigendig ac yn cynnwys lluniau gwych o'r ryseitiau gan Phil Boorman. Os na ddaeth Sion Corn a chopi i chi, yna mynnwch gopi o'ch siop lyfrau lleol. 

Rydym wedi cael y fraint o gyd-weithio gyda Nerys ar awgrymu gwinoedd i'w gweini gyda rhai o'r ryseitiau yn y llyfr. Dros yr wythnosau nesaf,  byddwn yn gwneud argymhellion am winoedd  addas a hawdd i'w cyrchu fydd yn gyfuniad perffaith i'r ryseitiau yma. 

Cedwir pob hawl ar y lluniau gan Phil Boorman a chynnwys y llyfr gan Nerys Howell. Diolch am ei caredigrwydd o gael defnyddio'r lluniau a'r ryseitiau.  

Ceir mwy o fanylion am Nerys ar ei gwefan - https://www.howelfood.co.uk/cy/hafan/

Swper macrell Ceinewydd (haenau o datws, winwns, afal,sage, finegar tarragon, gyda ffiledi o facrell ar ben)

Mae macrell yn bysgodyn sy’n naturiol yn uchel mewn olew. O ganlyniad, mae angen gwin gwyn ag asidedd uchel i fod yn wrthbwynt i’r olew yma o fewn y pysgodyn. Byddai gwinoedd o Ddyffryn y Loire yn Ffrainc neu rai o winoedd gwyn ifanc Portiwgal yn ddewisiadau da ac yn cynnig gwerth am arian. Yn ogystal, byddai gwin Sauvignon Blanc o Seland Newydd neu Chile hefyd yn gymar perffaith i fecryll, gan fod yr asidedd uchel a’r blasau ffrwythau amlwg a sur yn torri drwy’r olew naturiol a geir mewn macrell. 

Argymhellion Gwin

Gan ystyried y pryd fel cyfanwaith, dyma yw ein hargymhellion ni am winoedd i’w gweini gyda’r rysáit hafaidd yma: 

Gwin Solaris Gwinllan Llaethliw, Neuadd Lwyd, Aberaeron - Ar gael o VinVan Cymru, Caerdydd - £20.00

Beth yn well na gweini pryd o fecryll Ceinewydd gyda gwin a gynhyrchwyd ychydig filltiroedd o Gei Newydd yn Neuadd Lwyd, Aberaeron. Dyma winllan Richard a Siw Evans a’r teulu, sydd yn tyfu amrywiaeth eang o rawnwin a seidr ar ei gwinllan ychydig filltiroedd tu allan i Aberaeron.  Gyda'i liw melyn golau clir, mae'r gwin hwn o rawnwin Solaris yn edrych fel haf mewn gwydryn. Ar y trwyn mae ganddo aroglau afal gwyrdd ffres ynghyd ag aroglau o eirin, ffrwythau carreg a glaswellt y ddôl. Dilynir hyn ar y daflod gyda blasau adfywiol o afal gwyrdd creisionllyd a neithdar aeddfed. Mae gan y gwin agwedd mwynol braf sy'n cael ei dilyn gan asidedd sitrws hael. Yn ddelfrydol i’w weini gyda mecryll lleol o Fae Aberteifi, mae’n cyfuno’n berffaith gyda’r pysgod a’r llysiau tymhorol bendigedig yn y rysáit yma. Pryd a gwin ar gyfer yr haf yn bendant! 

Ceir mwy am hanes gwinllan Llaethliw ar ein tudalen am winoedd Cymreig. Cliciwch y dolenni uwchben am fwy o fanylion. 

Albarino - Senorio de Rubios Manuel D’Amaro Albarino, Galicia, Gogledd Sbaen - 2017 - £14.95 - ar gael o Ultracomida - Aberystwyth ac Arberth neu ar www.ultracomida.co.uk 

Dyma fynegiant o rawnwin gwinllannoedd gorau’r cynhyrchwyr yma o Ogledd Sbaen. Mae’r gwin wedi ei aeddfedu am gyfod tipyn hirach nag sydd yn arferol ar gyfer gwin o’r math yma, ac o ganlyniad, yn win sy’n hollol wahanol i’r hyn ddisgwylir. Mae’r gwin yn lliw dyfnach na’r gwinoedd ifanc arferol ac yn cynnig dehongliad cwbl newydd i’r gwin sy’n ddiddorol ac yn dangos bod modd aeddfedu’r gwin am gyfnodau hirach. Mae’n colli’r ffresni nodweddiadol, ond mae’r haenau o flasau cyfoethog, hufennog yn gwneud i fyny am hyn. 

Byddai’r gwin yn ddelfrydol i’w weini gyda’r mecryll a’r llysiau tymhorol, sydd yn flasau cryf. Mae’r corff o fewn y gwin yn cynnig ei hun yn dda i’r pryd fel cyfanwaith, ac yn rhywbeth gwahanol i’w ystyried. 

Gwin Rhosliw - Y Lleidr - Gwinllan ‘The Dell’, Raglan, Sir Fynwy. Ar gael o VinVan Cymru, Caerdydd, £23.00. 

Mae nifer o’r farn nad oes modd yfed gwin coch neu win rhosliw gyda bwyd y môr. Gan ystyried mai pryd hafaidd, ysgafn sydd yma, byddai gwin rhosliw fel ‘Y lleidr’ yn ddelfrydol ar gyfer y rysáit yma. Yn enillydd medal aur yng Ngwobrau Gwin Cymru 2023, dyma rosé sych gyda lliw gwridog bendigedig. Nodiadau o fefus a mafon ffres a rhywbeth tebyg i'r glaw cyntaf ar ôl cyfnod o dywydd cynnes, sych. 

Mae’r asidedd yn uchel ac felly’n torri drwy’r olew naturiol o fewn y ffiledi o fecryll yn fendigedig. Daw’r enw o’r ffaith i adar duon fwyta rhan fwyaf o rawnwin y winllan yn 2021, gan olygu mai ond 130 potel a gynhyrchwyd! Mae’n win campus ac yn berffaith ar gyfer diwrnod o haf a phryd o fwyd bendigedig fel y ceir yn y rysáit yma. 

Ceir mwy o hanes y winllan a gwinoedd eraill o Gymru mewn rhan benodol o'r wefan ar winoedd Cymreig. Cliciwch ar y dolenni uwchben i ddarganfod mwy am winoedd Cymreig. 

Muscadet Sevre et Maine Sur Lie 2022 - Specially Selected o Aldi - £6.99

Mae gwinoedd Muscadet yn winoedd safonol, ond hynod gystadleuol o ran pris o Ddyffryn Loire yng nghanolbarth Ffrainc. Mae wedi'i wneud o rawnwin Melon de Bourgogne, grawnwin cymharol niwtral sy'n dibynnu'n helaeth ar dechnegau gwneud gwin i ddod â'r gwin i'w lawn botensial.

Un o nodweddion mwyaf diffiniol Muscadet sur lie yw ei broses heneiddio, sy'n golygu treulio amser "sur lie," sy'n golygu "ar yr lees." Y 'lees' yw'r celloedd burum marw sy'n weddill yn dilyn y broses eplesu. Yn achos Muscadet sur lie, mae'r gwin yn aros mewn cysylltiad â'r celloedd burum marw yma am sawl mis, fel arfer rhwng tri mis a deuddeg mis, er y gall rhai heneiddio am sawl blwyddyn.


Mae Muscadet sur lie yn adnabyddus am fod yn win ysgafn, sych ac adfywiol gydag aroglau a blasau ffrwythau sitrws, fel lemwn a grawnffrwyth, yn ogystal ag afal gwyrdd, gellyg, ac weithiau nodau mwynol. Mae'n win bwyd amlbwrpas sy'n paru'n dda ag amrywiaeth o brydau, yn enwedig bwyd môr. Mae'r lefelau asidedd yn uchel, ond gytbwys gyda'r ffrwyth a'r siwgr o fewn y ffrwyth ac mae'r enghraifft yma o Aldi yn gyfuniad perffaith gyda pysgodyn sy'n llawn olew megis macrell. 

 Yn win hynod gelfydd ac am y pris yma yn Aldi, yn win arbennig i'w weini gyda rysait fel yr un yma gan Nerys. Tref ger dinas Nantes yw Muscadet, a gyda'r cysylltiadau a gefeillio rhnwg dinas Nantes (Neu Naoned) a Dinas Chaerdydd, mae'n win fydd yn sicr o blesio a pharu'n dda gyda'r rysait. Dyma yn wir yw bargen yr wythnos felly prynwch hon cyn iddi werthu allan yn eich Aldi lleol!

Cyri Iogwrt Cyw Iâr

Mae gwin a chyri yn swnio fel cyfuniad annhebygol - wedi'r cyfan mae miliynau o bobl ledled y wlad yn dueddol o ddewis cwrw gyda'u cyri, er enghraifft Cwrw Cobra gyda phryd Indiaidd. Fodd bynnag, gall y gwydraid o win cywir i’w weini gyda’r cyri fod yr un mor hyfryd â'ch pryd yn ein barn ni. Mae’r rysáit yma yn un sydd yn gofyn am fwytho’r cyw iâr gydag iogwrt a sbeisys, sy’n cynnig cyfuniad gwahanol i’r cyri traddodiadol.  

Un o reolau sylfaenol  paru gwin â bwyd yw rhoi ystyriaeth i’r cig neu brif elfen y rysáit.  Yn yr achos yma, cyw iâr yw’r prif gynhwysyn gydag amrywiaeth o sbeis, ond heb fod yn or-sbeislyd. I gael y gorau allan o’r rysáit, ein barn ni yw paru gwin gwyn ffrwythus ag asidedd uchel, fydd yn ychwanegu, nid tynnu i ffwrdd, o’r blasau cain yn dilyn cyfnod o fwytho’r cig cyn ei goginio. Ar y llaw arall, os yw'r pryd yn arbennig o sbeislyd, dylid ystyried gwin â lefel alcohol is a digon o felyster i wrthsefyll y sbeis. 

Argymhellion ac arddulliau Gwin

Ar gyfer unrhyw pryd sy'n cynnwys ychydig o sbeis, mae'n hynod bwysig bod y gwin yn cyfuno gyda'r blasau yma, nid ei gwrthsefyll ac herio'r blasau sbeislyd. Mae gwinoedd gydag alcohol is na'r cyffredin, rhwng 9% - 12% mewn alcohol, yn gymar perffaith i pryd cyri fel yma, gan nad yw'r alcohol yn herio'r sbeis nac ychwaith yn amharu ar y blasau. Rydym yn argymell gwinoedd addas islaw a chliciwch ar y lluniau i ddilyn dolen at y cyflenwyr dan sylw. 

Riesling - Dr H Thanisch, Mosel, Yr Almaen - £17.50 o Gwin Dylanwad, Dolgellau.

Mae Riesling yn win sydd yn cynnig  ffresni unigryw ac awgrym o sbeis. Mae’r cyfuniad yma yn ei wneud yn win gwych i’w baru gyda chyrri hufennog ysgafn fel yr un yma. Dyma lle mae'r Riesling Almaeneg yma yn dod i mewn, gyda'i nodau ffrwythus o fricyll a ffrwythau trofannol a blas mwynau yn gymorth i glymu'r gwahanol flasau at ei gilydd. 

Mae’r esiampl yma o Win Dylanwad yn Nolgellau yn cynnwys blasau ffres o ffrwythau aeddfed ac ychydig o felyster sydd yn gytbwys gyda’r asidedd uchel o fewn y gwin. Mae'r gwin yn ysgafn ar ei draed gyda gorffeniad glân, ond heb fod yn or-felys. Mae’n win delfrydol i’w baru gydag unrhyw fwyd sy’n cynnwys sbeis, a gyda’r asidedd yn hollti’r haenau hufennog o iogwrt yn y rysáit yma, mae’n gyfuniad delfrydol i’w weini gyda reis a bara naan. 

Chenin Blanc - 2022 Finest Stellenbosch Chenin Blanc, De Affrig, Tesco - £8.75 (£7.00 gyda charden Clubcard)

Mae gwin Chenin Blanc yn win medrir ei baru gyda phob math o fwyd, ac yn win hawdd ei yfed a’i gyfuno gyda phrydau traddodiadol neu brydau sy’n cynnwys sbeis. Er nad yw'n ffefryn gan bawb oherwydd y blasau gwahanol a throfanol medrir ei hamlygu o fewn y gwin, mae'n gyfuniad clasurol gyda bwydydd sbeislyd fel yma. 

Gan fod y cyw iâr wedi ei flasu gydag iogwrt a sbeis, mae Chenin Blanc yn win da i dorri drwy’r iogwrt hufennog, gan arddangos blasau’r sbeis a’r cyw iâr yn berffaith. Mae’r esiampl yma o Tesco yn cynnwys blasau bricyll, pupur gwyrdd a ffrwythau trofannol. Mae’r melyster naturiol yma yn cyfuno’n dda gyda’r asidedd uchel, fydd yn ychwanegu at fwynhad y cyw iâr a’r sbeisys ysgafn o fewn y rysáit. Mae’n win hynod o grefftus ac yn cynnig gwir werth am arian, fel nifer o winoedd o Dde Affrig, am y pris yma yn ein barn ni. 

Gruner Veltliner - Kamptal Grüner Veltliner (2021) Grafenegg - £18.95 o Mumbles Fine Wines, Y Mwmbwls, Abertawe

Mae Grüner Veltliner yn cynrychioli cyfraniad unigryw Awstria i'r byd gwin. Mae'n amrywiaeth o win sy'n gwneud gwinoedd gwyn sych, gan gyfuno persawr â sylwedd. Mae aroglau hynod ffres o berlysiau a blodau eirin gwlanog yn cael eu treiddio ag isleisiau mwynau a phupur mân, gan orffen ag asidedd bywiog. Mae'n win delfrydol gyda chyw iâr a dofednod neu brydiau bwyd gyda sbeis ysgafn fel yr un yma. 

Gydag arddull unigryw o asidedd uchel, ond hefyd melyster, mae arddull Gruner Veltliner yn gyffredinol wedi cynyddu mewn poblogrwydd dros y blynyddoedd. Serch hyn, mae'n parhau i dderbyn sylw is na'r hyn ddisgwylir yn sgil beth mae rhai yn deimlo yw aroglau anffafriol neu methiant i ystyried rhinweddau'r gwin wrth baru'r gwin gyda'r bwyd cywir. Yn ein barn ni, mae’r asidedd uchel ond cytbwys yn gyfuniad perffaith a gwahanol ar gyfer rysáit fel cyri neu fwyd sy'n cynnwys sbeis. Er nid y gwin rhataf, mae talu ychydig mwy am win o’r safon yma yn amlygu blasau a’r nodweddion unigryw a geir o fewn y gwin hynod yma.  

Gwin Rhosliw, Vinho Verde o Portiwgal - Marks and Spencer - £8.00

Efallai na fyddai gwin rhoslwi yn math o win byddai'n croesi'r meddwl wrth weini gyda pryd fel cyri, ond mae'n gyfuniad sy'n gweithio'n dda gyda rysait fel yma. Mae'n win ffrwythus, gyda melyster y mefus a'r mafon yn amlwg. Yn win ifanc gydag asidedd uchel i dorri trwy'r haenau hufennog o fewn y rysait, ac hefyd yn cynnwys alcohol is, sydd yn cyfuno gyda'r pryd bwyd yn hytrach na difetha'r blasau cain o'r sbeis a'r cyw iâr. 

Mae gwinoedd 'Vino Verde' o Portiwgal yn winoedd ifanc ond hynod chwaethus. Yn cynnig gwerth am arian ac hefyd blasau sionc, afiaethus ac yn cyfuno'n dda gyda nifer o fwydydd gwahaol, megis bwyd y mor a saladau tymhorol yn yr haf. Mae'r engraifft yma o M & S yn rhan o'i  dewis 'Loved and Found', sy'n amlygu gwinoedd a grawnwin gwahanol, a hynny am bris hynod gystadleuol. Efallai nad yw gwin rhosliw ar eich rhestr siopa yn ystod y gaeaf, ond beth am ei ychwanegu y tro nesaf y byddwch yn gweini cyri neu'n paratoi'r rysait uchod o lyfr Nerys - efallai y cewch sioc ar yr ochr orau gyda'r argymhelliad yma! 

Ffesant a ffigys o’r Popty

Dyma'r pedwerydd argymhelliad am winoedd i'w paru gyda ryseitiau o Cywain. Gyda'r tymor saethu yn dirwyn i ben, dyma edrych ar rysait Nerys o Ffesant a ffigys o'r Popty. Pryd nodweddiadol o'r tymor ac un sydd yn dangos yr helgig yma ar ei orau wedi ei rhostio gyda ffrwythau sych. 

Mae gan ffesant flas a nodweddion unigryw fel helgig. Yn wahanol iawn i gyw iâr neu ddofednod eraill, gall paru’r gwin anghywir gyda ffesant nid yn unig leihau mwynhad y pryd yn gyffredinol, ond efallai ei ddifetha! Os yw’r gwin a weinir yn cynnwys tannin uchel, gall hyn greu blas metelig, annymunol. Er mwyn osgoi hyn, ein hargymhelliad yw chwilio am winoedd ysgafnach sy’n isel mewn tannin. Gwin coch yw’r un delfrydol ar gyfer unrhyw saig gyda ffesant yn ein barn ni. Byddai Pinot Noir neu win Valpolicella (nid y math nodir gyda ‘Ripasso di Valpolicella’) yn paru’n berffaith gyda ffesant a’r ffigys rhost yma. 

Argymhellion Gwin

Gyda pryd sy'n gyfoethog, ond hefyd yn cynnwys ffrwythau a melyster o'r nionyn coch a'r helgig sydd yn medru derbyn blasau amrywiol, mae'r gwinoedd rydym yn ei argymell ar gyfer y rysait yma yn amrwyio o win Pinot Noir Cymreig anhygoel, i winoedd traddodiadol sy'n gweddu yn dda gyda'r cynhwysion a'r rysait. Cliciwch ar y lluniau am ddolen i'r cwmniau sy'n gwerthu'r gwinoedd yma. 

White Castle Pinot Noir Reserve o’r Fenni, Sir Fynwy - 2019 yn Noble Grape, Y Bontfaen (£32) (www.noblegrape.co.uk) a Gwin Dylanwad, Dolgellau (£33.50) (www.dylanwad.co.uk)

Gwin Pinot Noir gorau Cymru yn 2018 ac enillydd nifer o wobrau rhyngwladol yw ein hargymhelliad cyntaf. Mae'r gwin yma yn cadarnhau bod Cymru yn medru cynhyrchu gwinoedd o'r safon uchaf yn ein barn ni, ac er y pris uwch, mae'n win sy'n llwyr deilyngu'r gwobrau y mae wedi ennill dros y blynyddoedd. 

Dyma win canolig ei gorff, yn llawn blasau ffrwythau coch megis ceirios, mefus ac ychydig o sbeis.  Ceir hefyd blasau fanila ddaw o aeddfedu’r gwin mewn casgenni derw. Mae’r tannin yn gytbwys gyda’r asidedd, ac yn gyfuniad perffaith gyda’r ffesant. Drwy rostio’r ffigys, mae hyn yn dwysau melyster y ffrwyth, ac yn cyfuno’n berffaith gyda’r helgig a’r gwin. Mae'r gwin yma yn anodd iawn i'w ganfod ac os cewch gyfle i brynu potel neu ddwy, yna peidiwch oedi rhag ei brynu yw ein hargymhelliad ni. 

Dyma un o enghreifftiau gorau o win Cymreig y medrir ei flasu, ac mae’r winllan yn cynhyrchu gwinoedd rhagorol ac o ansawdd uchel tu hwnt. Gwin arbennig ar gyfer rysait ac achlysur arbennig.

Villa Antinori Rosso Toscana, Ardal Tuscany, Yr Eidal - Waitrose - £18.99 - www.waitrosecellar.com  

Mae’r teulu Antinori yn fyd-enwog am gynhyrchu gwinoedd o ansawdd uchel ers cenedlaethau. Yn un o brif gynhyrchwyr gwin o'r Eidal, mae'r teulu bellach yn berchnogion gwinllanoedd nodedig ar draws y byd, er enghraifft Gwinllan Stag's Leap yn Nyffryn Napa yn Califfornia. Dyma'r winllan wnaeth, yn 1976, gynhyrchu gwin wnaeth guro goreuon gwinoedd Ffrengig yn yr hyn elwir  'The Paris Judgment of 1976'.  

Mae’r gwin yma yn dangos nodweddion grawnwin sangiovese yn berffaith, gan gyfuno llyfnder a thannin yn berffaith gyda blasau ffrwythus cywrain. Wedi ei aeddfedu mewn casgenni derw, mae’r aroglau a blasau myglyd yn gyfuniad perffaith i’r helgig rhost, gan amlygu blasau’r ffigys hefyd. 

Mae'r gwin yma yn aml yn rhan o gynnig arbennig gan Waitrose a'r argymhelliad yw cadw golwg os yw'r gwin yma ar gynnig arbennig. Er y pris, mae'n un o brif winoedd y cynhyrchwyr ac yn esiampl safonol o winoedd yr Eidal. Ar wahan i ambell eithriad, (e.e. Barolo, Barbaresco a gwinoedd 'Super Tuscan' megis Sassicaia a Tignanello), cynhyrchir gwinoedd o ansawdd canolig gan yr Eidalwyr.  Mae'r gwin yma yn win safonol ac yn gyfuniad fydd yn gweithio’n dda gyda blasau cryf y ffesant a melyster y ffigys rhost. 

Blason du Rhone - Cote Du Rhone Villages 2021, Ffrainc - Waitrose - £10.99 - www.waitrosecellar.com 

Gwin Grenache o Dde Ffrainc - Gweler yr argymhelliad isod am win delfrydol i'w weini gyda'r rysait yma yn y rysait ar gyfer y dorth cnau wedi ei lapio mewn blodfresych. 

Argymhelliad arall fyddai'n ddelfrydol gyda'r rysait yma byddai gwin Cote Du Rhone Village. Mae gwinoedd o'r Cote du Rhone heb dderbyn y clod haeddiannol am winoedd o safon. Yn winoedd sy'n paru'n wych gyda prydiau bwyd o bob math, rydym yn awyddus iawn i win-garwyr flasu'r gwin yma sy'n gyfuniad o Grenache, Mouvedre a Syrah gan amlaf. 

Mae amrwyiaeth helaeth mewn safon mewn gwinoedd Cote Du Rhone, ac mae'r gwin yma o Waitrose yn enghraifft o win o ansawdd uwch. Un ffordd o adnabod gwin o safon o'r ardal yw chwilio am 'Village' neu hyd yn oed enw pentref penodol o'r rhanbarth yma os am sicrhau safon uwch a gwell i'r gwinoedd.   Mae'r Villages yma yn llawn blasau ffrwythau sych megis eirin sych a cheirios beiddgar a llawn sy'n cyfuno'n berffaith gyda'r ffesant a'r ffigys wedi ei rhostio. Mae'n win da i'w yfed ar ben ei hun ar nosweithiau oer y gaeaf hefyd. 

Animus Douro Reserva 2021, Portiwgal - Aldi - £6.79

Rydym wedi argymell y gwin yma o Aldi yn ein argymhellion am winoedd o Aldi nol yn Nhachwedd 2023. 

Erbyn hyn, mae'r gwneuthwurwyr, Vincente Faria Vinhos, wedi cynhyrchu gwin o ansawdd uwch na'r animus Douro gwreiddiol. Dyma un o winoedd blaenlaaw Portiwgal, wedi ei gynhyrchu o rawnwin traddodiadol megis Toriga Nacional a Tinta Roriz a dyfir gan amlaf i gynhyrchu gwin Port enwog y wlad. Wrth yfed y gwin yma, hawdd byddai cam-gymryd y gwin am port oherwydd hyn. 

Mae'n win ffrwythus, llawn mynegiant, ond hefyd yn hawdd i'w yfed oherwydd yr asidedd cytbwys, blasau ffrwythau fel mafon a mefus a thannin cyfoethog ond heb amharu gyda'r blasau a'r mwynhad ddaw o yfed y gwin bendigedig yma. Mae blasau eilaidd o ffrwythau megis mwyar duon a cheirios duon yn datblygu ar y daflod, gyda blasau sbeislyd yn datblygu i greu cyfuniad chwaethus a gwin o safon. 

Mae'r pris yn anhygoel ac yn un o'r bargeinion gorau yn archfarchnad Aldi yn ein barn ni.  Yn win fyddai'n addas gyda nifer o ryseitiau cyfoethog ac yn werth ei ystyried. 

Caserol o Gig Eidion Cymreig gyda Chnau Castan

Mae caserol cig eidion yn un o’r prydau bwyd gaeafol, cartrefol yna sydd yn ffefryn gan nifer. Gyda’r gorau o gig eidion Cymreig Cig Eidion wedi'i goginio'n araf gyda llysiau gaeafol a saws cyfoethog o win coch a stoc cig eidion, mae’n fodd o gael ‘cwtsh’ ar blât! Mae blasau cadarn y pryd, gan gynnwys y cig sawrus, llysiau priddlyd, a dyfnder y saws wedi'i drwytho â gwin, yn gofyn am win a all wrthsefyll ei gymhlethdod. 

Dylai fod gan y gwin ddigon o gorff a strwythur i ategu'r saig swmpus, ond hefyd feddu ar y cydbwysedd cywir o ffrwythlondeb ac asidedd i dorri trwy gyfoeth y saws. Rhaid hefyd ystyried pa lysiau a weinir gyda’r rysáit gan fod nodweddion nifer o lysiau yn medru effeithio ar brif elfennau’r rysáit. 

Yn ddiau, mae Cig Eidion Cymreig ymysg y cynhwysion gorau a gynhyrchir gennym yng Nghymru. Rhaid felly sicrhau bod y gwin a weinir hefyd o'r safon a'r ansawdd uchaf yn ein barn ni. 

Argymhellion Gwin

Argymhellion Cyffredinol

Byddai Pinot Noir o ranbarth Burgundy yn Ffrainc, yn ddewis ardderchog i’r rysáit yma. Gwneir y gwin hwn o rawnwin Pinot Noir, sy'n adnabyddus am ei gorff canolig ac asidedd uchel. Byddai blasau ffrwythau coch llachar y gwin a'r isleisiau priddlyd yn ategu'r cig eidion sawrus a'r llysiau priddlyd, tra byddai ei asidedd yn helpu i gydbwyso cyfoeth y saws.

Byddai Côte de Nuits coch, hefyd o ranbarth Burgundy, yn opsiwn da arall. Mae'r gwin hwn fel arfer yn enghraifft a mynegiant sydd yn fwy cyflawn a llawn corff a strwythur na Pinot Noir, gyda blasau ffrwythau tywyllach a nodau priddlyd a sbeislyd mwy amlwg. Byddai'r nodweddion hyn yn gwrthsefyll blasau cadarn y cig eidion, tra byddai asidedd y gwin yn helpu i dorri trwy gyfoeth y pryd fel cyfanwaith. 

Neu beth am ystyried gwin Valpolicella Ripasso, o ranbarth Veneto yn yr Eidal, fyddai’n paru'n dda â chig eidion. Mae'r gwin hwn wedi'i wneud o gyfuniad o rawnwin, gan gynnwys Corvina, Rondinella, a Molinara, ac mae'n adnabyddus am ei gorff canolig i lawn, gydag asidedd uchel, a blasau cymhleth ffrwythau tywyll, sbeis a phridd. Byddai corff a chymhlethdod y gwin yn ategu'r rysáit swmpus, tra byddai ei asidedd yn cydbwyso cyfoeth y saws ac yn win cyfoethog - heb dorri’r banc! 

Valpolicella Ripasso - 'The Best' Morrisons - £10.00

Ceir esiampl wych o Valpolicella Ripasso yn archfarchnad Morrisons, lle mae ei ‘The Best’ Valpolicella Ripasso ar gael am £10.00. Mae’n win cyfoethog, llawn blas ac wedi ennill nifer o wobrau rhyngwladol. Yn ffrwythus, ac yn dangos blasau ffrwythau coch amlwg, mae’n gytbwys o ran asidedd a melyster, rhywbeth sy’n nodweddiadol o’r dull yma o gynhyrchu gwin. 

Gan ystyried ffordd cynhyrchu'r gwin yma, sydd yr un fath a chreu gwin Amarone (gwin coch Eidalaidd sydd yn dipyn drytach) gan sychu'r grawnwin cyn eu gwasgu, mae blasau ceirios a siocled yn y ddau win yn debyg iawn, ond am bris tipyn mwy cystadleuol. 

Mae'r Valpolicella's gorau yn tangos canran uwch o rawnwin Corvina a Corvinone sef y ddau math o rawnwin uchaf eu safon yn ardal gogleddol Yr Eidal. Fel nodir mewn adran benodol am winoedd o Morrisons, mae'r gwinoedd 'The Best' yn esiampl da o winoedd safonol ac am brisiau cystadleuol. Mae'r gwin yma yn enghraifft berffaith o hyn - er yn bris uwch na gwinoedd eraill o fewn y casgliad yma, mae'n win o safon ar gyfer rysait a chynwhywsion o'r safon uchaf. 

Sainsbury's Chateau Les Bouysses Cahors, Taste the Difference - £13.50

Mae'r gwinoedd a gynhyrchir gan rawnwin Malbec yn gyfuniad da gyda unrhyw fath o gig eidion. Gall golwyth 'sirloin' neu 'rib-eye' gyda gwydraid o Malbec o'r Ariannin fod yn gyfuniad perffaith gyda'i gilydd. 

Yn rawnwin daw yn wreiddiol o Dde-Orllewin Ffrainc, mae Malbec yn enghraifft wych o rawnwin sy'n cyfuno'n dda gyda ryseitiau cyfoethog fel yr un yma. Yn llawn blasau ffrwythus megis eirin coch, ceirios a Ilus (blueberry), tanin ac asidedd cymhedrol a chorff llawn, mae'n paru'n berffaith gyda chip cyfoethog megis cig eidion.  

Doedd Malbec ddim yn win a ffafriwyd gan y Ffrancwyr hyd nes i'r Archentwyr ddarganfod y grawnwin yma a'i dyfu yn ardaloedd Mendoza a Dyffrynnoedd Uco a Salta, gan ei wneud yn ardull a gwin  poblogaidd ar draws y byd. 

Enghraifft glasurol sydd gennym fel argymhelliad, sef Malbec Cahors o Ffrainc. Mae'n win llawn mynegiant, cyfoethog gydag arogl o aeron tywyll ac awgrym o fioled. Ar y daflod mae nodau cyrens duon cain wedi'u tymheru â sbeis melys cynnil a gorffeniad llyfn. Mae'r blasau yn ychwanegu at y sbeis o fewn y rysait, yn ogystal a'r cnau castan

Mae Cahors yn enwog am ei winoedd cyfoethog, pwerus a wneir gan ddefnyddio grawnwin Malbec beiddgar. Cyfuniad perffaith ar gyfer y rysait yma ac yn ddelfrydol ar noson oer, gaeafol. 



Casgliadau

 

Mi fyddem wedi hoffi awgrymu gwin Cymraeg i gyd-fynd gyda'r rysait yma, ond yn anffodus, nid yw’r hinsawdd yng Nghymru yn ddigon cynnes i dyfu grawnwin fyddai’n gweddu i’r rysáit yn ein barn ni. Mae angen tywydd a hinsawdd cynnes i dyfu gwinoedd sy’n cynnig dwyster mewn blas, corff ac asidedd. Gyda’r newid yn yr hinsawdd a chynhesu byd-eang, efallai bydd modd tyfu’r grawnwin yma yng Nghymru yn y dyfodol. 

Mae'r gwinoedd a argymhellir yn esiamplau o winoedd sy'n cyfuno yn berffaith gyda chig eidion a chaserol fel yma. Os oes gennych unrhyw argymhellion eich hun, yna cofiwch gysylltu gyda ni i rannu rhain. 

 

Torth gnau wedi’i lapio mewn dail bresych 

Mae gwinoedd coch llawn corff megis Cabernet Sauvignon neu Shiraz yn gweithio’n dda gyda blasau sawrus torth gnau fel yr un yma. Mae'r rysait yma yn un cyfoethog, gan gynnwys cnau castan, caws glas a phanas melys - cyfuniad perffaith am bryd sy'n lleihau ein dibyniaeth ar gig, ac yn yn ein cyflwyno i flasau newydd wrth lapio'r torth gnau mewn dail bresych. Byddai gwinoedd gwin cyfoethog megis Chardonnay neu Vigonier yn gweddu’n wych i’r blasau, gan amlygu blasau’r cnau a’r caws hufennog yn arddull unigryw’r gwinoedd yma yn dilyn y broses eplesu. 

Mae torth gnau fel yma yn rhywbeth i'w weini drwy'r flwyddyn, nid yn unig adeg y Nadolig! Byddai gwin coch sy’n llawn corff a mynegiant hefyd yn ddelfrydol gyda’r rysait yma, sy’n cynnwys elfennau cyfoethog megis y caws glas a’r elfennau sawrus ddaw gyda’r cnau a’r pannas.  

Rydym yn argymell enghreifftiau fyddai, yn ein barn ni, yn gyfuniad da gyda'r rysait yma. Cysylltwch gyda ni os oes gennych farn neu syniadau eraill am winoedd addas i'r rysait.  

Argymhellion Gwin


2019 Domaine des Toiurelles Vieilles Vignes Cinsault o Ddyffryn Bekaa, Lebanon - o £18.90 o Blas ar Fwyd, Llanrwst)

 

Dyma win sydd wedi ennill nifer o wobrau rhyngwladol, a hawdd gweld pam. Mae’n win sy’n gymysgedd aromatig egsotig o ffigys aeddfed, llugaeron llachar a ffrwythau mafon gyda nodiadau o licris. Gyda’r cyfuniad o nodweddion ffrwythau coch ynghyd â nodiadau ffigys, mae'r asidedd yn cydbwyso'r blasau hael yn berffaith ac yn gadael gorffeniad pur, glân. Byddai’r gwin yma yn cyfuno’n dda gyda’r cnau, yr elfennau hallt gyflwynir gan y caws glas yn ogystal â’r blasau melys gyflwynir gan y pannas a’r bresych wedi ei rostio.  Er yn win ychydig yn fwy drud na’r arfer, mae’n win o safon uchel tu hwnt ac yn win i’w drysori gyda phryd cyfoethog fel yma. 

Mae gwinoedd o Lebanon wedi cynyddu men poblogrwydd yn ddiweddar, a cheir esiamplau da gan ddangos gir Perth am arian o'r rhanbarth yma. 

Mae Blas ar Fwyd hefyd yn cynnal noson o flash gwinoedd Lebanon ar y 9fed o Chwefror 2024 yn Y Siop Win yn Llanrwst. Geir mwy o fanylion ar y ddolen yma: 

https://www.blasarfwyd.com/blas-ar-fwydwines-beers-spirits/blas-ar-fwyddrinks-gifts/wine-event-tickets/wine-tasting-event-9-feb-2024-lebanese-wine-night

Grenache o Dde Ffrainc (2022 Chosen by Majestic Cotes du Rhone Villages - £9.99). 

Grawnwin grenache yw’r prif fath o fewn y gwin yma. O winllannoedd yn ardal Chateauneuf-du-Pape, gydag ychydig o Syrah a Mourvedre wedi ei ychwanegu i roi corff i’r gwin, mae’r cyfuniad clasurol ‘GSM’ yma yn ddelfrydol ar gyfer blasau’r cnau a’r caws glas amlygir o fewn y rysáit. 

Dyma'r grawnwin nodweddiadol a dyfir yn ardal Dyffryn Rhone yn Ne Ffrainc. Medrir cael enghreifftiau clasurol o'r cyfuniad GSM noder uchod, neu cyfuniad sy'n cynnwys grawnwin megis Cinsault, Counoise, Teret Noir neu Muscardin. Ychwanegu nodweddion megis blas, corff neu ffrwyth wneir gyda'r grawnwin yma ac mae Dyffryn Rhone yn enwog am gyfuno nifer o rawnwin i greu gwin cytbwys sy'n gweddu'n dda gyda bwydydd o bob math. 

Ceir hefyd esiamplau da o winoedd sy'n cynnig gwinoedd safonol gan ddangos gwerth gwirioneddol am arian pan fo costau gwin yn cynyddu oherwydd treth a chostau byw. 

Mae’r gwin yma o Majestic yn win ffrwythus gyda blasau eirin duon, fioled a blasau’r llwyni nodweddiadol o’r arddull yma - byddai’n gymar perffaith i’r rysáit yma neu gyda chigoedd rhost. 

Chardonnay - 2022 Robert Oatley Semaphore, Awstralia, Co-op, £10.50 

Dyma win a gynhyrchir gan un o sêr gwin Awstralia, Larry Cherubino. Mae cael gwin am y pris yma gan y 'dewin' o gynhyrchwr yn rhywbeth i'w drysori, ac mae'r Co-op wedi sicrhau grin o salon am bris rhesymol. 

Er bod gwinoedd Chardonnay o Awstralia wedi dioddef enw gwael am winoedd trwm, llawn blasau derw dros y blynyddoedd, mae’r un yma yn dangos sut mae cynhyrchwyr o Awstralia wedi gwella ar gynhyrchu gwinoedd Chardonnay yn y blynyddoedd diwethaf. Mae'r dyddiau 'ABC' - 'Anything But Chardonnay'  yn rhywbeth i'w anghofio bellach gan fod safon

Mae blasau nodweddiadol y gwin i’w blasu, yn ogystal a blasau cnau castan sy’n cyfuno’n berffaith gyda blasau sitrws fydd yn torri ar ddwyster y caws glas wrth gyfuno’n berffaith gyda chorff swmpus a hufennog i’r cnau a’r panas. Dyma win sy’n cynnig gwerth am arian, ac yn gyfle i ail-ystyried Chardonnay fel gwin i’w weini.

Tsili Cig Carw a Ffa Du

I ddechrau'r gyfres yma o argymhellion, gwin gyda ryseitiau o Cywain, rydym wedi dewis Tsili Cig Care. 

Dyma engraifft tych o rysait cwbl newydd ac unigryw gan Nerys, sydd yn cyfuno heldig yn ei dymor, gyda sbeis a ffa duon. Rysait tymhorol ac yn ddelfrydol ar gyser nosweithiau oer y gaeaf!

Mae cig carw yn gig isel mewn braster, ond yn llawn blas ac ar gael men archfarchnadoedd a chigyddion ar draws Cymru. Ceir cyflenwad da o gig carw ac amrywiaeth o heldig yn siop Oriel Jones yng Nghaerdydd, Dewi Roberts yn Llandeilo a Siop Ystad y Rhug ger Corwen. Gofynnwch i'ch cigydd lleol os medrir cyflenwi cig carw y tro nesaf byddwch yn prynu cig ganddo. 

Yn draddodiadol, gwin coch a weinir fel arfer gyda phrydau fel yma, gan ei bod yn adlewyrchu blasau’r cynhwysion o fewn y rysáit ac yn gyfuniad delfrydol i fynegi blasau’r helgig gyda’r ffrwythau tywyll ceir mewn gwinoedd o’r math yma. 

Fel gwrthbwynt i win, byddai gweini lagyr tywyll hefyd yn gyfuniad da a gwahanol i’r rysáit. 

Argymhellion Gwin

Zinfandel o winwydd aeddfed California, UDA - (Ravenswood 2020/21 Zinfandel o Lodi, UDA - o £13.99 yn Majestic).

Dyma enghraifft glasurol o win coch o winwydd hyn o ardal Lodi sydd i’r Dwyrain o San Francisco yn Califfornia. Mae’r gwinwydd o’r winllan yma yn rhai hen, sy’n canolbwyntio’r blasau ffrwyth o ganlyniad ac yn creu gwin sydd ychydig yn felys o ran mynegiant. Gyda’r sbeis o fewn y rysáit, mae hwn yn gyfuniad cytbwys a deniadol i’w weini gyda phrydau megis Tsili yn gyffredinol. 

Mae’n win pwerus, yn llawn blasau mwyar duon, eirin ac ychydig o sbeis. Mae cig carw yn ddelfrydol am win ffrwythus fel yma, ac yn gymar perffaith i Tsili gyda’r nodweddion ffrwythau duon yma yn amlwg o fewn y gwin fydd yn paru’n wych gyda’r sbeis, y ffa a’r paprika wedi ei fygu o fewn y rysáit. 

Cabernet Sauvignon o Ardal Coonawarra, Awstralia 
(2022 Deluxe Australian Coonawarra Cabernet Sauvignon o Lidl - £6.29)

Mae’r gwin yma yn enghraifft wych o Cabernet Sauvignon sy’n cynnwys blasau ffrwythau’r llwyni (megis mwyar duon) ond gyda thannin ysgafn ond cyfoethog fyddai’n gweddu’n dda i’r paprika wedi ei fygu sydd yn y rysait. 

Mae hon yn fargen wirioneddol yn Lidl ac yn un o’r gwinoedd gorau yn yr archfarchnad. Mae'n bris da am win o ansawdd sydd yn gweddu yn berffaith gyda'r rysait yma, neu i'w yfed ar ben ei hun.  

Primitivo o Puglia yn Ne’r Eidal  
(2022 Castellore Primitivo o Aldi - £6.29) 

Yr un grawnwin yw Primitivo a Zinfandel, felly mae’r nodweddion yn debyg o ran arddull. Mae’r enghraifft yma yn cynnwys ychydig o siwgr yn dilyn y broses eplesu. Er hyn, mae’n win cyfoethog, melfedaidd gyda blasau ffrwyth du amlwg. Yn ddelfrydol gyda phrydau cyfoethog megis tsili cig carw a ffa du, gan fod nodweddion myglyd a chyfoethog y rysáit yn cyfuno’n dda gyda’r aroglau a blasau tebyg o fewn y gwin. Hefyd yn fargen am y pris yma!

Ceir hefyd esiampl arall dda o Primitivo Eidalaidd yn archfarchnad Lidl am £6.49. Yn ddiau, mae'r arddull yma yn gweddu yn berffaith i'r rysait yma ac yn gymar perffaith i'r cig carw a'r ffa duon ar noson oer aeafol. 

©Hawlfraint Gwin a Mwy. Cedwir Pob Hawl.

We need your consent to load the translations

We use a third-party service to translate the website content that may collect data about your activity. Please review the details in the privacy policy and accept the service to view the translations.