Mae’r wythnos yma yn rhoi’r cyfle i un o ardaloedd tyfu gwinoedd Ffrainc gael ei awr fawr o sylw. Wrth i’r boteli cyntaf o Beaujolais Nouveau 2023 gael ei rhyddhau am 12.01y.b ar Ddydd Iau 16eg o Dachwedd, dyma droi sylw at y math unigryw yma o win, sy’n draddodiad ac yn eicon ym myd y gwin.
Ar y trydydd Dydd Iau ym mis Tachwedd bob blwyddyn, mae cyfraith Ffrainc yn nodi medrir rhyddhau cynnyrch unigryw ardal Beaujolias i’r byd i’w fwynhau. Ni fedir ei rhyddhau ddim tamaid yn gynt er mwyn cadw o fewn yr hyn ganiateir gan reoliadau caeth diwydiant gwin Ffrainc.
Ond beth sy’n gwneud y gwin hwn yn win unigryw ac yn un mor enwog?
Rhanbarth wedi'i leoli yn nwyrain Ffrainc, ychydig i'r gogledd o Lyon ac i’r de o ranbarth Burgundy, yw ardal enwog Beaujolais. Ardal sy'n adnabyddus am dyfu grawnwin i gynhyrchu gwinoedd coch ffrwythus, ysgafn, wedi'u gwneud o rawnwin Gamay.
Yr enw ar y trydydd Dydd Iau yn Nhachwedd yw 'Diwrnod Beaujolais Nouveau', sy’n dathlu rhyddhau’r gwin coch ifanc yma o gynhaeaf y flwyddyn hynny.
Mae Beaujolais yn ranbarth mawr ac amrywiol, gydag ystod eang o winoedd yn cael eu cynhyrchu. Mae'r gwinoedd fel arfer yn cael eu labelu yn ôl eu comiwn tarddiad, a'r enwocaf yw Pentrefi Beaujolais a'r deg is-beref enwocaf lle cynhyruchir gwinoedd Beaujolais cru, sy’n dangos safon uwch o winoedd.
Ystyrir mai gwinoedd Cru Beaujolais yw'r enghreifftiau gorau o'r rhanbarth, ac maen’t yn aml yn hŷn na gwinoedd Beaujolais Villages. Mae’r gwinoedd yma fel arfer yn fwy cymhleth a strwythuredig, gyda nodiadau o geirios, mwyar duon a sbeis. Mae’r pris hefyd yn fwy na’r Beaujolais arferol, gan bod y gwin wedi ei aeddfedu mewn casgenni am gyfnodau hwy.
Bu i’r byd syrthio allan o gariad gyda Beujolais a’r marchnata di-baid yn ogystal a’r amrywiol heriau drefnwyd i gael y botel gyntaf i’w gweini. Bu i nifer o ymgyrchoedd marchnata hyrwyddo’r diwrnod drwy gynnig gwobrau i’r sawl fyddai’n medru cael y botel gyntaf i Lundain neu Efrog Newydd. Yn wir, bu i’r Beaujolais deithio ar Concorde ac mewn awyrennau o’r llu awyr i gyrraedd pen ei taith er mwyn ennill y gystadleuaeth!
Yn unol a rheoliadau llym cynhyrchu gwinoedd yn Ffrainc, dim ond grawnwin Gamay medrir ei defnyddio ar gyfer cynhyrchu gwinoedd Beaujolais. Rhaid hefyd ei tyfu o fewn y rhanbarth.
Mae Gamay’n math o rawnwin sy’n doreithiog mewn tyfiant ac yn dangos nodweddion ysgafn, yn llawn sudd a blasau ffrwythau megis ceirios coch, mafon ac eirin coch wedi eu cyfuno’n gain gyda blasau’r tir a’r priddoedd o’r ardal yn yr esiamplau gorau.
Mae’n gweddu’n dda i bob math o fwydydd, gyda’r gwinoedd gorau sydd wedi ei haeddfedu yn paru’n dda gyda bwyd tymhorol megis cinio twrci traddodiadol Nadolig, hwyaden gyda saws eirin neu gaws medal megis camembert neu brie.
Gwin coch ifanc ifanc, ffrwythus sy'n cael ei wneud gan ddefnyddio proses a elwir yn ‘carbonic maceration’ yw Beaujolais Nouveau. Mae'r broses hon yn cynnwys eplesu'r grawnwin cyfan, heb eu malu yn gyntaf. Mae hyn yn arwain at win gyda blas llachar, ffres a gwead sydd yn ymddangos ychydig yn befriog.
Yn nodweddiadol, caiff Beaujolais Nouveau ei ryddhau i'w werthu ychydig wythnosau ar ôl i'r grawnwin gael eu cynaeafu. Mae'n win poblogaidd ar gyfer partïon a dathliadau, ac yn aml yn cael ei fwynhau gyda bwydydd syml fel caws a charcuterie.
Categori penodol o winoedd o fewn rhanbarth Beaujolais yw Beaujolais Villages. Rhaid I’r grawnwin a’r gwinoedd gael ei tyfu a’u cynhyrchu o fewn un o 39 pentref yn rhan ogleddol y rhanbarth. Dyma'r ail gategori uchaf o win Beaujolais, yn uwch na Beaujolais Nouveau ond yn is na deg rhanbarth Cru Beaujolais.
Cynhyrchir gwinoedd Beaujolais Villages gan ddefnyddio grawnwin Gamay, yr un amrywiaeth a ddefnyddir ar gyfer Beaujolais Nouveau, ond maent fel arfer yn heneiddio am gyfnod hirach ac yn mynd trwy dechnegau gwneud gwin mwy cymhleth. O ganlyniad, mae gwinoedd Beaujolais Villages yn gyffredinol yn cynnwys mwy o strwythur a chymhlethdod na Beaujolais Nouveau, gyda blasau ceirios, mafon, eirin a sbeis.
Nodwedd o adnabod y gwinoedd yma yw’r arfer o labelu’r poteli yma ag enw'r pentref lle cawsant eu cynhyrchu, fel Beaujolais Villages Morgon neu Beaujolais Villages Brouilly. Mae hyn yn caniatáu i ddefnyddwyr nodi gwinoedd o bentrefi penodol sydd â nodweddion gwahanol oherwydd amrywiadau yn y math o bridd, hinsawdd ac arferion gwneud gwin.
Mae gwinoedd Beaujolais Villages yn cael eu hystyried yn winoedd amlbwrpas a hawdd mynd atynt, gan eu gwneud yn ddewis poblogaidd ar gyfer yfed bob dydd neu ar gyfer paru ag amrywiaeth o seigiau. Gellir eu mwynhau gyda chigoedd wedi'u grilio, llysiau wedi'u rhostio, prydau pasta, a chawsiau.
Dyma rai o nodweddion allweddol gwinoedd Beaujolais Villages:
Mae Beaujolais cru yn cyfeirio at y categori uchaf o win Beaujolais, a gynhyrchir mewn deg pentref dynodedig yn rhanbarth Beaujolais yn Ffrainc. Y deg pentref yw:
Mae gwinoedd Beaujolais cru yn cael eu gwahaniaethu gan eu hansawdd a'u cymhlethdod uwch o'u cymharu â gwinoedd Beaujolais Nouveau a Beaujolais Villages. Maent fel arfer yn heneiddio am gyfnod hirach, gan arwain at winoedd gyda strwythur mwy amlwg, blasau cyfoethocach, a mwy o botensial heneiddio. Mae nodweddion penodol pob gwin cru yn amrywio yn dibynnu ar y math o bridd, hinsawdd, a thechnegau cynhyrchu gwin y pentref unigol all amrywio yn fawr.
Dyma drosolwg byr o winoedd y deg pentref sy’n cynhyrchu Beaujolais cru
Mae gwinoedd cru Beaujolais fel arfer yn cael eu mwynhau gydag amrywiaeth o brydau, gan gynnwys cigoedd wedi'u grilio, llysiau wedi'u rhostio, a stiwiau swmpus. Gellir eu paru hefyd â chawsiau, fel brie, camembert, a chaws glas.
Gan ystyried yr amrwywaieth o winoedd sydd ar gael o fewn y rhanbarth, dyma grynhoi ychydig o esiamplau o’r amrywiol winoedd sydd ar gael. Yn amlwg, nid ydym wedi medru ystyried y Beaujolias Nouveau ar adeg cyhoeddi’r erthygl, gan nad yw wedi ei rhyddhau.
Dyma esiampl gwych o win Beaujolais Cru sy’n dangos nodweddion ffrwythau duon megis eirin a cheirios du, wedi ei cyfuno gyda blasau sbeis. Am y pris yma, mae’n enghraifft gwerth ei hystyried ac yn dangos gwerth am arian. Wedi ei baru gyda chigoedd rhost, cigoedd oer chacuterie neu gawsiau called, mae’r gwin yma yn dangos sut mae gwinoedd Beaujolais wedi datblygu yn y blynyddoedd diweddar.
Mae’r gwin llyfn, hawdd ei yfed yma yn dangos nodweddion gwych pentref Fleurie, gydag aroglau blodeuog yn cyfuno yn berffaith gyda ffrwythau coch megis ceirios coch. Mae’n win ifanc, yn addas ar gyfer unrhyw ddigwyddiad neu barti, ac yn wych fel aperitif neu ddiod cyn pryd o fwyd. Yn llawn ffrwyth a dim tanninau, mae’n paru’n dda gyda eog neu golwyth tiwna – mae’n gwbl dderbyniol yfed gwin coch gyda bwyd y mor!
Mae’r esiampl yma o Sainsbury’s wedi ei brisio yn gystadleuol iawn. Yn win cytbwys o Mont Brouilly, mae’n dangos blasau ceirios aeddfed, mafon a ffrwythau coch aeddfed ddaw o winwydd sydd rhwng 30 – 50 mlywdd oed. Mae’r cyfuniad rhwng ffrwyth ac asidedd yn gytbwys tu hwnt, gyda thannianu ysgafn. Am y pris yma, mae hon yn botel gwerth ei hystyried, ac yn dangos gwir werth am arian.
Dyma win sy’n dangos nodweddion ffrwyth coch aeddfed megis mefus a cheirios coch ond sydd hefyd yn dangos ochr sawrus yn ogystal ag ochr melys o’r ffrwyth. Cynhyrchir y gwin gan gwmni Boutinot sy’n cynaeafu’r grawnin ac yn cynhyrchu’r gwin drwy gadw’r grawnwin fel clwstwr llawn yn hytrach na’i gwahanu. Yn cyfuno’n dda gyda chigoedd wedi mygu, charcuterie, seigiau gyda pasta neu selsig neu porc rhost. Mae’r asidedd (er yn amlwg) yn gytbwys gyda’r tanninau ddaw wrth wasgu’r grawnwin fel clwstwr.
.
Mae cynhyrchwyr yn Beaujolais erbyn hyn yn creu rhai o winoedd mwyaf diddorol a rhesymol Ffrainc. Yn wahanol i'w cymdogion yn Burgundy, lle mae prisiau’r gwinoedd wedi mynd tu hwnt i bob rheswm, mae’r gwinoedd ymal yn fforddiadwy ac yn cynnig gwir werth am arian mewn cymhariaeth. Mae’r gwinoedd rydym yn ei hargymell yn esiamplau gwych o’r hyn medrir ei ddisgwyl gan winoedd o Beaujolais – bonne santé! - Iechyd Da!
©Hawlfraint Gwin a Mwy. Cedwir Pob Hawl.
We need your consent to load the translations
We use a third-party service to translate the website content that may collect data about your activity. Please review the details in the privacy policy and accept the service to view the translations.