Albariño

Yn ein cyfres am winoedd unigryw ac ardaloedd lle tyfir grawnwin, y tro yma, rydym am edrych ar Albariño, gwin sydd yn cynyddu yn ei boblogrwydd ym Mhrydain ac ar draws y byd.  

Galicia ac Albariño

Mae Albariño yn fath o rawnwin gwyn sy'n cynhyrchu rhai o'r gwinoedd gwyn mwyaf adfywiol ac aromatig yn y byd. Mae'n frodorol i Benrhyn Iberia, yng ngogledd orllewin Sbaen lle mae'n cael ei dyfu'n bennaf yn Galicia, Sbaen, a Monção, Minho a Melgaço, Portiwgal. Adnabyddir y math yma o rawnwin fel Alvarinio ym Mhortiwgal ac fe’i tyfir yng ngogledd y wlad ar y ffin gyda Sbaen a Galicia.

Galicia

Yr ardal enwocaf o fewn rhanbarth Galicia i dyfu Albariño yw Rias Baixas. Mae rhanbarth Rías Baixas wedi'i leoli ar hyd arfordir yr Iwerydd, ac mae'r hinsawdd yn fwyn ac arforol. Mae'r rhanbarth hefyd yn adnabyddus am ei fryniau a'i dyffrynnoedd gwyrddlas, sy'n darparu amodau delfrydol ar gyfer tyfu grawnwin. 

Galicia

Yr ardal enwocaf o fewn rhanbarth Galicia i dyfu Albariño yw Rias Baixas. Mae rhanbarth Rías Baixas wedi'i leoli ar hyd arfordir yr Iwerydd, ac mae'r hinsawdd yn fwyn ac arforol. Mae'r rhanbarth hefyd yn adnabyddus am ei fryniau a'i dyffrynnoedd gwyrddlas, sy'n darparu amodau delfrydol ar gyfer tyfu grawnwin.

Credir bod grawnwin Albariño wedi tarddu yn wreiddiol o ranbarth Rías Baixas, a dyma'r unig amrywiaeth o rawnwin y caniateir ei ddefnyddio wrth gynhyrchu gwin Rías Baixas. Mae gwinoedd Albariño fel arfer yn ysgafn mewn corff cyrff gydag asidedd uchel a blasau ffres, adfywiol. Maen’t yn aml yn cael eu nodweddu gan eu harogleuon sitrws, fel lemwn a leim, yn ogystal ag awgrymiadau o afal gwyrdd, eirin gwlanog, a blodau gwyn. Gall fod gan rai Albariños hefyd halltedd cynnil, a briodolir i agosrwydd y grawnwin at Gefnfor yr Iwerydd. Mae hyn yn nodweddiadol o’r ardal yma, sy’n cynnig hinsawdd unigryw i dyfu’r math yma o rawnwin yn llwyddiannus.  

Mae gwinoedd o ardal Rías Baixas yn dod yn fwyfwy poblogaidd ledled y byd. Mae'r rhanbarth hefyd yn gyrchfan boblogaidd i dwristiaid, a gall ymwelwyr fwynhau golygfeydd hardd y rhanbarth, bwyd blasus, a diwylliant bywiog. Mae’r bererindod enwog – y Camino de Santigao – ar hyd nifer o lwybrau ar draws Sbaen, Portiwgal a Ffrainc - i Eglwys Gadeiriol Santiago de Compostela yn fyd-enwog, ynghyd a bwyd y môr a’r diwydiant pysgod.  

Dyma ail-ranbarth wlypaf Sbaen yn dilyn ardal Donostia (San Sebastian) yng Ngwlad y Basg. Mae’n synod bod grawnwin yn medru tyfu yn yr ardal yma, ond mae’r Albariño wedi addasu i’r hinsawdd yn dda ac erbyn hyn yn un o winoedd gwyn mwyaf poblogaidd Sbaen.  

Nodweddion Albariño

Dyma rai o nodweddion allweddol rhanbarth gwin Rías Baixas:

  • Lleoliad: Gogledd-orllewin Sbaen, yng nghymuned ymreolaethol Galicia
  • Hinsawdd: Mwyn a morol
  • Pridd: Gwenithfaen a sgist yn bennaf
  • Amrywiaethau grawnwin: Albariño (dim ond yr amrywiaeth grawnwin yma a ganiateir wrth gynhyrchu gwin Rías Baixas)
  • Arddulliau gwin: Corff ysgafn, asidedd uchel, blasau adfywiol, aroglau sitrws, awgrymiadau o afal gwyrdd, eirin gwlanog, a blodau gwyn, a nodau o halltedd cynnil. Blasau mwynau ac awgrymiadau o flasau’r môr sydd yn ddylanwad mawr ar y grawnwin. Ni ddefnyddir casgenni derw, ond tanciau dur di-staen (stainless steel) i gadw ac aeddfedu’r gwin cyn ei boteli.  


Mae gwinoedd Albariño fel arfer yn ysgafn eu cyrff gydag asidedd uchel a blasau ffres, adfywiol. Maent’ yn aml yn cael eu nodweddu gan eu harogleuon sitrws, fel lemwn a leim, yn ogystal ag awgrymiadau o afal gwyrdd, eirin gwlanog, a blodau gwyn. Gall fod gan rai Albariños hefyd halltedd cynnil, a briodolir i agosrwydd y grawnwin at Gefnfor yr Iwerydd.

Mae gwinoedd Alvarinio o Bortiwgal yn rhan amlwg o win Vinho Verde neu win gwyrdd – gwin ifanc yw hwn, sydd yn dangos nodweddion spritz. Yn wahanol i winoedd Rias Baixas, mae Alvarinhio yn cael ei gymysgu gyda grawnwin eraill megis Louriero, Arinto, a Trajadura.  


 Medrir aeddfedu’r gwinoedd yma drwy gadw’r burum o fewn y casgenni yn dilyn y cyfnod eplesu. Mae hyn yn ychwanegu blasau hufennog i’r gwin, ac er bod ychydig o ffresni yn cael ei golli, mae’r blasau yn ychwanegu haenau o flas i’r gwin sy’n dangos nodweddion gwahanol i’r hyn ddisgwylir. Er hyn, yn ifanc dylid yfed gwin Albariño os am ei werthfawrogi ei ffresni a’r blasau godidog nodweddiadol o’r gwin yma.  

  • Arogl: Sitrws, afal gwyrdd, eirin gwlanog, blodau gwyn
  • Blasau: Lemwn, calch, eirin gwlanog, grawnffrwyth, halltedd
  • Corff: Ysgafn
  • Asidedd: Uchel
  • Alcohol: Isel gan amlaf – tua 12.5%-13%, er mae esiamplau sydd wedi ei haeddfedu yn medru bod yn uwch. Mae’r esiamplau yma yn dueddol o golli ffresni’r ffrwyth.  


Paru Bwyd ar gyfer Gwin Albariño

Mae’r asidedd adfywiol ac uchel, ynghyd a blasau bywiog Albariño yn ei wneud yn win paru bwyd amlbwrpas. Mae'n paru'n arbennig o dda â bwyd môr, fel pysgod wedi'u grilio neu bysgod cregyn. Mae hefyd yn gymar da i amrywiaeth o saladau, prydau pasta ysgafn, a dofednod.  

Dyma rai awgrymiadau paru bwyd penodol ar gyfer gwin Albariño:

Bwyd môr: Eog wedi'i grilio, gorgimwch, cacennau cranc

Salad: salad Panzanella, salad Cesar, salad Groegaidd

Pasta: Pasta gyda pesto, pasta gyda saws menyn a lemwn, pasta gyda gorgimychiaid (prawns)

Dofednod: Cyw iâr wedi'i rostio, cyw iâr wedi'i grilio a thwrci


Argaeledd Gwin Albariño yn y DU

Mae gwin Albariño yn dod yn fwyfwy poblogaidd yn y DU, ac mae bellach ar gael yn eang mewn archfarchnadoedd mawr a manwerthwyr gwin. Gellir dod o hyd i rai o'r gwinoedd Albariño gorau o Sbaen a Phortiwgal hefyd mewn siopau gwin arbenigol a manwerthwyr ar-lein.

Argymhellion Gwin a Mwy

Dyma rai o’n hargymhellion ni yma yn Gwin a Mwy am esiamplau da o Albarinio rydym wedi ei blasu. Cliciwch ar y llun am gyswllt i'r gwerthwyr a'r gwinoedd dan sylw: 

Vina Cartin – Ruta49 2022 Salnes – 12.5%, £13.99 ar gael o www.strictlywine.co.uk 

Dyma esiampl o win sy’n dangos nodweddion a dylanwad arfordirol ardal Rias Baixas. Mae Salnes ar y pwynt mwyaf gorllewinol o Galicia ac mae blasau’r môr, y mwynau a’r elfennau hallt i’w flasu ar y gwin. Mae’r asidedd yn uchel, ond yn dangos ffresni, gyda blasau meryw a llawryf (laurel) sy’n tyfu yn yr ardal yma. Mae’r grawnwin wedi ei gasglu yn gynt er mwyn cadw’r blas ffrwythau ifanc, ac mae’n esiampl wych o’r hyn gynigir gan winoedd o Rias Baixas.    

Paco & Lola, Albariño, Galicia – 13% - £15.00 o Tesco

Mae’r gwin yma wedi ennill nifer o wobrau rhyngwladol a hawdd gweld pam. Yn dangos ffresni a blasau eirin gwlanog, leim a mwynau, mae’n win sy’n cynnig llawnder mewn blasau, arogl hyfryd ac asidedd cytbwys gyda’r ffrwythau a ddisgwylir o’r arddull yma o win. Mae’r cwmni yn un ifanc, ac mae’r botel a’r label yn drawiadol tu hwnt. Esiampl wych o albarinio safonol am bris cystadleuol.  

Valminor Albarino – 13% - o £16.43 ar gael o Blas ar Fwyd – www.blasarfwyd.co.uk 

Mae hwn yn win newydd i Blas ar Fwyd ond yn un o’r gwinoedd sy’n dangos nodweddion ardal O Rosal yn Ne Rias Baixas. Mae’n Albariño sy’n dangos blasau ffrwyth a charreg megis eirin gwlanog a gwyddfid. Mae’n win ifanc ac yn dangos ffresni ac asidedd uchel, ond heb guddio blasau’r ffrwythau.

Senorio de Rubios Manuel D’Amaro Albarino 2017 – 12.5% - £14.95 – ar gael o Ultracomida – Aberystwyth ac Arberth neu ar www.ultracomida.co.uk 

Dyma fynegiant o rawnwin gwinllannoedd gorau’r cynhyrchwyr yma o Ogledd Sbaen. Mae’r gwin wedi ei aeddfedu am gyfod tipyn hirach, ac o ganlyniad, yn win sy’n hollol wahanol i’r hyn ddisgwylir. Mae’r gwin yn lliw dyfnach na’r gwinoedd ifanc arferol ac yn cynnig dehongliad cwbl newydd i’r gwin sy’n ddiddorol ac yn dangos bod modd aeddefu’r gwin am gyfnodau hirach. Mae’n colli’r ffresni nodweddiadol, ond mae’r haenau o flasau cyfoethog, hufennog yn gwneud i fyny am hyn.  

Pazo de San Mauro 2022 – 12.5% - £21.99 ar gael o www.handford.co.uk 

Dyma un o’r gwinoedd Albariño drytaf i ni ei flasu yn ddiweddar, ond gyda’r gorau. Mae’n win sy’n dangos dyfnder corff a blas, ac yn wahanol i’r mathau eraill a nodweddiadol o Albarinio, mae llai o Asidedd yn y gwin yma. Mae lleoliad y winllan ar lethrau serth yn ardal Condado do Tea sydd gyferbyn a Phortiwgal yn ychwanegu haenau ychwanegol o flas a diddordeb i’r gwin. Mae’r winllan yn un o’r hynaf yn Ewrop, ar er bod blas ychydig yn chwerw i’r gwin, mae hyn i’w groesawu mewn grawnwin sy’n dangos lefelau uchel o asidedd.  

©Hawlfraint Gwin a Mwy. Cedwir Pob Hawl.

We need your consent to load the translations

We use a third-party service to translate the website content that may collect data about your activity. Please review the details in the privacy policy and accept the service to view the translations.