Dyma gychwyn ar gyfres fydd yn edrych yn benodol ar rai o ranbarthau gwahanol ar draws y byd sy’n tyfu grawnwin ac yn cynhyrchu gwionedd o bob math.
A hithau’n fis i ddathlu gwinoedd o ardal Rioja yng Ngogledd Sbaen (FelizRioja), pa le gwell na chychwyn ar ein taith yn un o ardaloedd mwyaf enwog Sbaen a’r byd gwin.
Canolbwyntio ar win coch o Rioja byddwn yma, er dylid nodi bod Rioja hefyd yn cynhyrchu gwin gwin a Rose (neu Rosado) o safon. Bydd rhain yn destun sylw eto yn y dyfodol.
Yn ddiau, Rioja yw un o ranbarthau gwin enwocaf Sbaen. Gwin yw’r cynnyrch enwocaf o’r ardal ac enw’r ardal sy’n rhoi enw i’r gwin nid y grawnwin neu enw’r pentref lle tyfir y grawnwin fel gwneir yn Ffrainc . Mae'n ardal sy’n cynhyrchu amrywiaeth eang o winoedd o ansawdd uchel - o boteli medrir yfed bob dydd i gampweithiau teilwng medrir ei cadw am nifer o flynyddoedd.
Amrywiaeth grawnwin
Defnyddir amrywiaeth o rawnwin i greu gwin Rioja, ond y prif fath o rawnwin yw Tempranillo. Mae'n enghraifft o rawnwin aml-bwrpas sy'n medru cynhyrchu gwinoedd mewn amrywiaeth o arddulliau, o winoedd ysgafn yn llawn blas ffrwythau i winoedd sy’n ddwfn ac yn llawn corff, sy’n dangos elfennau cyfoethog yn dilyn amser mewn casgenni derw i aeddfedu. Defnyddir mathau eraill o rawnwin i greu Rioja gan gynnwys Garnacha, Graciano, Mazuelo, Viura, a Malvasía, gan ei cyfuno gyda Tempranillo i greu arddull unigryw y ‘bodegas’ neu’r gwneuthrwr gwin.
Nodweddion
Mae gwinoedd Rioja yn adnabyddus am eu blasau ffrwyth coch a du, asidedd a thaninau. Gall arddull y gwin amrywio yn dibynnu ar yr amrywiaeth o rawnwin a ddefnyddir, y rhanbarth lle tyfir y grawnwin yn ogystal sut gynhyrchir y gwin ac amser aeddfedu’r gwin mewn casgenni. Fodd bynnag, mae'r rhan fwyaf o winoedd Rioja yn gytbwys ac mae ganddynt botensial heneiddio da, sy’n ei gwnued yn winoedd I’w buddsoddi ynddynt, a hynny am brisiau tipyn llai nag ardaloedd eraill ar draws y byd.
Cyfnod Aeddfedu
Mae gwinoedd Rioja gan amlaf wedi'u aeddfedu mewn casgenni derw, sy'n rhoi blasau a strwythur nodweddiadol iddynt. Er mwyn cael ei galt yn win Rioja, rhaid yw dilyn canllawiau osodir i warantu safon. Mae’r cyfnod aeddfedu yma yn dibynnu ar system o ddosbarthu’r gwin i un o dri categori:
Beth yw Crianza, Reserva, a Gran Reserva?
Yn gyffredinol, y prif wahaniaeth rhwng gwinoedd Crianza, Reserva, a Gran Reserva yw maint ac hyd yr amser mae’r gwinoedd yma yn aeddfedu mewn casgenni derw. Yn ogystal, mae yna hefyd ffactorau eraill sy'n cyfrannu at y gwahanol arddulliau o win.
Ceir braslun o'r prif nodweddion islaw.
I adnabod y gwahaniaeth yn y gwinoedd yma, defnyddir labeli unigryw i ddynodi'r arddull ar bob potel o win Rioja.
Yn ogystal a chydymffurfio gyda gofynion a rheoliadau ar labeli gwinoedd o Rioja, mae'n rhaid i unrhyw wneuthurwr gwin osod labeli cydnabyddedig ar ei gwinoedd er mwyn gwahaniaethu rhwng y gwahanol fathau o win:
Mae gwinoedd Crianza fel arfer yn cael eu gwneud o winwydd iau ac yn dangos nodweddion ffrwythau coch
Mae gwinoedd Reserva yn cael eu gwneud o winwydd mwy aeddfed, ac wrth aeddfedu am gyfnod hirach, mae’r gwinoedd yn dangos blasau mwy cymhleth ddaw yn sgil aeddfedu hirach mewn casgenni derw Ffrengig.
Mae gwinoedd Gran Reserva yn cael eu gwneud o'r gwinwydd hynaf, sydd yn cael ei dewis am ei blasau cryf, a dyma'r rhai esiamplau sydd mwyaf teilwng i aeddfedu a’I cadw am nifer o flynyddoedd, gan y byddant yn datblygu blasau pellach o’I cadw yn y modd cywir.
Mae rhanbarth gwin Rioja wedi'i leoli yng ngogledd Sbaen, ar hyd yr Afon Ebro. Mae'r hinsawdd yn gyfandirol, gyda hafau poeth a gaeafau oer. Rhennir y rhanbarth yn dri is-ranbarth: Rioja Alta, Rioja Alavesa, a Rioja Baja/Oriental. Mae gan bob is-ranbarth ei hinsawdd a'i ‘terroir’ (priddoedd a mwynau) unigryw ei hun, sy'n dylanwadu ar arddull y gwin a gynhyrchir.
Dylai enghraifft dda o win o Rioja fod yn gytbwys, gyda blasau ffrwyth da, asidedd, a thaninau, ond heb fod yn rhy bwerus I amharu ar y blasau a nodweddion eraill y gwin. Dylai'r gwin hefyd ddangos elfennau o gymhlethdod da yn ogystal a dyfnder blas. Daw rhai o'r enghreifftiau gorau o winoedd Rioja o'r categorïau Reserva a Gran Reserva.
Wrth ddewis gwin Rioja, mae'n bwysig ystyried yr achlysur, beth yw eich chwaeth personol a’r hyn rydych yn barod I’w wario ar brynu potel o Rioja. Yn ddiau, gan fod gwinoedd Reserva a Gran Reserva yn winoedd sydd wedi ei haeddfedu am dipyn o amser, mae’r prisau yn dueddol o fod yn fwy am esiamplau da o’r gwinoedd yma. Mae’r argymhellion islaw yn dangos trawsdoriad o’r arddulliau yn ogystal a’r amrwyiaeth mewn pris.
Os yn chwilio am win i'w fwynhau gyda phryd o fwyd, dewiswch win Crianza neu Reserva. Os ydych chi'n chwilio am win i'w gadw am nifer o flynyddoedd, yna dewiswch win Gran Reserva all gael ei gadw am nifer dda o flynyddoedd, os cedwir mewn tymheredd sefydlog ac heb ormod o wres a golau
Ym yn Gwin a Mwy, rydym wedi profi amrywiaeth o winoedd o Rioja ar eich cyfer. Dyma rai on ffefrynnau i'w rhannu. Rhowch wybod i ni os oes gennych ffefrynnau personol neu os am rannnu gwin i'w ystyried yn y dyfodol.
Bodegas Artesa Rioja Crianza (14%) - £12.00
Ar gael o Blas ar Fwyd, Llanrwst neu ar-lein – www.blasarfwyd.com
Cyflwyniad gwych i Rioja Crianza ac sy’n dangos steil unirgryw y gwin ifanc yma. Yn win bywiog ac apelgar gyda ffrwythau eirin ac aeron wedi'u hategu â sbeis cynnil a fanila. Wedi ei aeddfedu mewn casgenni derw am 12 mis, mae’n esiampl da o win Rioja ifanc. Arddull ddeniadol, fodern o Crianza sy’n aromatig ac yn ddeniadol. Mae’n win sylweddol gyda tannin aeddfed a gorffeniad ffres, ysgafn a sawrus – perffaith gyda chaws aeddfed.
Baron Amarillo Rioja Reserva (13.5%) Aldi, £5.79
Os am werth am arian a chael blas ar Rioja, mae’r gwin yma o Aldi yn taro deuddeg o ran pris, gyda blasau mefus a mafon, ynghyd ag ychydig o flasau siocled a sbeis melys. Wedi ei aeddfedu mewn casgenni derw Americanaidd am 30 mis ac wedi ei gynhyrchu gan ddefnyddio 100% o rawnwin Tempranillo, mae Bodegas Muriel sef cynhyrchwyr y gwin, yn sicr wedi creu gwin sy’n arddangos arddull Rioja ond heb y pris ddisgwylir am botel o’r math yma.
Izadi Rioja Reserva 2018 (14%) £18.80
Ar gael o Siop Win Dylanwad, Dolgellau – www.dylanwad.co.uk
Dyma enghraifft o Rioja wedi ei greu mewn arddull modern drwy ddefnyddio casgeni derw Ffrengig ac Americanaidd, sy’n ychwanegu haenau ychwanegol o flasau myglyd a sbeis i’r gwin. Mae blasau frwythau coch megis ceirios, eirin a phiglys yn flaenllaw iawn yn y gwin yma, ac yn paru’n dda gyda chig oen neu seigiau cyfoethog. Pris cystadleuol am win o ansawdd.
La Rioja Alta ‘Vina Ardanza’ Rioja Reserva 2015/16 (14.5%) o £24.99
Ar gael o Majestic – www.majestic.co.uk
Ystyrir La Rioja Alta fel un o gynhyrchwyr gorau gwionedd Rioja. Dyma gyfuniad o Garnacha a Tempranillo o winwydd sydd yn 30 mlwydd oed ac wedi ei haeddfedu mewn casgen am dair blynydd, sydd yn gyfnod hwy na’r isafswm am winoedd Rioja. Er bod hwn yn win sy’n fwy costus na Reserva’s eraill, mae’r amser ychwangeol wrth aeddfedu a datblygu’r gwin yma yn cyfleu blasau llawer dwysach ac yn dangos blasau myglyd, sebis sinamwn a fanilla i’r blasau ffrwythau coch, nodweddiadol o’r gwin yma. Mae hwn yn teimlo fel Rioja Gran Reserva, ond heb dalu pris gwin o’r fath. Cyfuniad perffaith gyda chig oen Cymreig.
©Hawlfraint Gwin a Mwy. Cedwir Pob Hawl.
We need your consent to load the translations
We use a third-party service to translate the website content that may collect data about your activity. Please review the details in the privacy policy and accept the service to view the translations.