Mae dod o hyd i'r cyfuniad perffaith rhwng bwyd a gwin yn un o'r eiliadau hapus hynny mewn bywyd! Mae'r atgofion wneir wrth yfed gwin sy'n gweddu i bryd o fwyd yn medru cael effaith anhygoel, yn enwedig wrth bod yng nghwmni teulu neu ffrindiau.
Mae sipian gwydriad o win pefriog ffres yn wefreiddiol gyda pysgod a sglodion; neu beth am Rioja persawrus, mefus sy'n berffaith ar gyfer rhost cig oen neu fadarch priddlyd yn cael ei dyrchafu i statws nefol gan wydraid ethereal o pinot noir…
Nid yw paru gwin a bwyd yn sgil wyddonol, ond yn arbrawf pleserus...
Yma byddwn yn nodi nifer o bwyntiau i'w hystyried with feddwl am gynhwysion a phryd o fwyd a pha win fydd yn gweddu at ba fwydydd.
Pleaser oedd cael cyd-weithio gyda'r cogydd a'r gwyneb a llais cyfarwydd, Nerys Howell, ar brosiect sy'n paru gwinoedd ac arddulliau o win gyda ryseitiau o'i chyfrol ddiweddaraf 'Cywain - Ryseitiau o'r Ardd' o wasg y Lola.
Dros yr wythnosau nesaf, byddwn yn dewis rysait o'r llyfr ac yn cynnig amrywiaeth o winoedd hawdd i'w cyrchu fydd yn gyfuniad perffaith i'r rysait. Cliciwch ar y llun am fwy o fanylion ac i weld ein dewisiadau. Mwynhewch!
Paru bwyd a Gwin – Canllaw Cychwynnol
Mae paru bwyd a gwin gyda'i gilydd yn medru creu profiad bwyta pleserus ac atgofion all few am amser hir. O'i wneud yn dda, gall paru bwyd a gwin wella blasau'r bwyd a'r gwin, gan greu pryd gwirioneddol gofiadwy.
Mae yna lawer o ffactorau i'w hystyried wrth baru bwyd a gwin, gan gynnwys pwysau, asidedd a phroffil blas y bwyd a'r gwin.
Yn gyffredinol, mae'n well paru bwydydd ysgafn gyda gwinoedd ysgafn a bwydydd trwm gyda gwinoedd trwm. Dylid hefyd ystyried asidedd y bwyd a'r gwin, oherwydd gall bwydydd asidig wneud i winoedd flasu'n sur.
Dyma rai awgrymiadau paru bwyd a gwin sylfaenol:
Dyma rai parau bwyd a ac argymhellion am win all weithio yn dda gyda'i gilydd:
Wrth gwrs, nid oes unrhyw reolau o ran paru bwyd a gwin. Y ffordd orau I ddarganfod parau sy’n gweithio yw drwy arbrofi, gan ddod o hyd i barau rydych chi'n eu mwynhau. Rhowch gynnig ar wahanol winoedd gyda gwahanol fwydydd a gweld beth rydych chi'n ei hoffi.
Byddai'n syniad hefyd ystyried y pwyntiau canlynol wrth arbrofi gyda paru gwinoedd a bwyd:
Gydag ychydig o ymarfer, byddwch yn medru creu parau bwyd a gwin fydd yn creu argraff ar eich gwesteion ac yn gwneud eich prydau bwyd hyd yn oed yn fwy pleserus.
Dros yr wythnosau nesaf, byddwn yn tyrchu yn fanylach i barau a chynfuniadau posib o win a bwydydd sydd yn gweddu i’w gilydd.
©Hawlfraint Gwin a Mwy. Cedwir Pob Hawl.
We need your consent to load the translations
We use a third-party service to translate the website content that may collect data about your activity. Please review the details in the privacy policy and accept the service to view the translations.