Argymhellion Gwinoedd Radio, Teledu a Chyhoeddiadau

Ers sefydlu Gwin a Mwy yn niwedd 2023, rydym wedi bod yn ffodus i gael cyfleoedd gwych i hybu a hyrwyddo'r wefan ar y cyfryngau torfol, megis teledu a radio. Mae Deian wedi ymddangos ar S4C, BBC Radio Cymru ac hefyd wedi cyfrannu erthyglau ac argymhellion i gylchgronnau a chyhoeddiadau dros y misoedd diwethaf. 

Yn ogystal, dilynwch hynt a helynt Deian wrth iddo flasu gwinoedd amrywiol mewn sesiynau blasu a digwyddiadau ar dudalen Instagram Gwin a Mwy ar y ddolen yma: https://www.instagram.com/gwinamwy/

Yn aml iawn, nid oes modd rhannu manylion yn llawn am y gwinoedd a argymhellir, y prisiau a lle medrir dod o hyd i'r gwinoedd. Felly dyma dudalen sy'n rhestru manylion y gwinoedd hynny argymhellwyd gyda dolenni at y gwinoedd a lluniau perthnasol o'r gwinoedd er mwyn darganfod mwy amdanynt!

Ymddangosiadau

I gyd fynd gyda'r ymddangosiadau ar y radio a theledu, cliciwch ar y lluniau islaw i ddarganfod mwy am y gwinoedd rydym yn eu trafod ar y rhaglenni yma ac i ddysgu mwy am y gwinoedd gyda nodiadau blasu na fedrir eu trafod mewn manylder!

Rhaglen 'Prynhawn Da' - S4C - 8/10/2024

Gwinoedd Di -Alcohol - Hydref Syber (Sober October)

I ddathlu Hydref Syber neu 'Sober October', bu Deian yn trin a thrafod y diwydiant gwin di-alcohol ar Prynhawn Da, gan nodi'r datblygiadau wrth gynhyrchu gwinoedd, y cynydd mewn poblogrwydd am ddiodydd di-alcohol ac argymhell gwinoedd o ansawdd sydd  cystal a gwinoedd sy'n cynnwys alcohol. 

Cliciwch ar y llun i ddarganfod mwy am y dewisiadau ac am nodyn blasu o'r hyn oedd dan sylw!

Rhaglen 'Bore Cothi' gyda Shan cothi, BBC Radio Cymru

Gwinoedd Masnach Deg - 19/9/2024

A hithau yn bythefnos masnach deg, sy'n dathlu penblwydd arbennig yn 30 oed eleni, mi wnaeth Deian drafod dylanwad gwinoedd masnach deg a sut mae gwarantu prisiau am rawnwin yn medru bod o gymorth i gymunedau ar draws y byd. Gwnaed argymhellion am winoedd gwych yn y Co-op, Waitrose a Tesco fel rhan o'r eitem. 

Cliciwch ar y llun i ddarganfod mwy am y dewisiadau ac am nodyn blasu o'r hyn oedd dan sylw!

Rhaglen 'Prynhawn Da' - S4C - 22/8/2024

Argymhellion am Winoedd Gŵyl y Banc Awst

Rhoddwyd her i mi gan gyflwynwyr Prynhawn Da i ddarganfod gwinoedd fyddai'n addas i'w gweini ar benwythnos Gŵyl y Banc Awst, fyddai yn cynnwys amrwyiaeth o winoedd a phob un yn £10 neu lai. Roedd rhaid hefyd darganfod gwin di-alcohol fyddai'n gweddu'n dda ac heb deimlo fel sudd grawnwin melys! 

Cliciwch ar y llun i ddarganfod mwy am y dewisiadau ac am nodyn blasu o'r hyn oedd dan sylw!

Rhaglen 'Bore Cothi' gyda Shan Cothi, BBC Radio Cymru

Argymhellion am Winoedd i'r Eisteddfod Genedlaethol

Fel rhan o baratoadau Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhondda Cynon Taf 2024, bydd Deian yn trin a thrafod gwinoedd a diodydd medrir eu prynu mewn archfarchnadoedd yn ardal Pontypridd ar BBC Radio Cymru ar fore Mawrth 30ain o Orffennaf 2024. 

Cliciwch y llun uchod i ddarganfod mwy am y gwinoedd argymhellwyd. 

Rhaglen 'Y Sioe' o Sioe Frenhinol Cymru 2024

Paru Bwyd a Gwinoedd

Yn ystod wythnos Sioe Frenhinol Cymru 2024, bu Deian yn sgwrisio gyda Nia Roberts am y wefa, paru gwinoedd gyda chig gan y Cigydd o Ffairfach, Llandeilo, Dewi Roberts, yn ogystal a pharu gwinoedd a diodydd eraill gyda chaws o Caws Teifi. Medrir gweld yr eitemau ar iPlayer y BBC ar 32.11 a 48.00 drwy glicio'r llun uchod.

Cylchgrawn Cara - Rhifyn Hâf 2024

Paru Bwyd a Gwinoedd

Pleser oedd cael cynnig argymhellion gwin i gyd-fynd â ryseitiau hafaidd gwych Delyth Huw Thomas yn rhifyn Hâf 2024 o Cylchgrawn Cara. 

Mae tri rysait wedi eu creu yn arbennig ar gyfer y cylchgrawn, gyda gwinoedd o'r archfarchnadoedd a thri gwin unigryw ac addas i'r ryseitiau o Gymru. Ceir hefyd gwin bonws! 

Cliciwch y llun uchod i ddargnfod mwy am y gwinoedd, ac os am weld y ryseitiau, mynwch gopi o Cylchgrawn Cara yn eich siop lyfrau leol neu ar wefan y cylchgrawn www.cara.cymru 

Bore Cothi - BBC Radio Cymru 26 Mehefin 2024

Gwinoedd yr Hâf

Gyda'r tywydd (o'r diwedd!) yn gwella, bu Deian yn sgwrsio gyda Shan Cothi ar Bore Cothi ar BBC Radio Cymru am winoedd addas i'w gweini yn ystod tywydd heulog!

Heno, S4C - 28 Mai 2024

Eitem ar Wythnos Win Cymru

I gyd-fynd a dathliadau wythnos win Cymru, mi wnaeth Deian dywys Owain Gwynedd a chriw Heno i winllan Velfrey yn Llanddewi Velfrey yn Sir Benfro. Dyma winllan sydd wedi creu labeli dwyieithog am ei gwinoedd ac sy'n falch o hybu'r defnydd o'r Gymraeg lle medrir.  

Prynhawn Da - S4C - 29 Chwefror 2024

Gwinoedd Gwyl Dewi

A hithau'n Wyl ein Nawddsant ar y Cyntaf o Fawrth, bu Daf Wyn a Deian yn trin a thrafod gwinoedd o Gymru a datblygiad y gwinoedd yma dros y blynyddoedd diwethaf. 

©Hawlfraint Gwin a Mwy. Cedwir Pob Hawl.

We need your consent to load the translations

We use a third-party service to translate the website content that may collect data about your activity. Please review the details in the privacy policy and accept the service to view the translations.